Archwilio Allforio Cymru
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Cymorth ar-lein
- Stori Lwyddiant - CellPath
- Rhaglen Allforiwr Newydd
- Digwyddiadau yng Nghymru
- Rhaglen Clwstwr Allforio
- Teithiau ac Arddangosfeydd Masnach Tramor
- Datblygu Masnach Rhyngwladol (DMR)
- Stori Lwyddiant - Celtic English Academy
- Cyfleoedd Masnach Ryngwladol (CMR)
- Stori Lwyddiant - Corgi
- Cymorth Hyfforddiant Allforio
- Cynghorydd Masnach Rhyngwladol a swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru
- Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru
- Grant Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (GYDBT)
- Ecosystem Allforio
- Cysylltu â ni
Rhagair
Er gwaethaf heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein heconomi’n parhau i wella ac rydyn ni'n gweld arwyddion o dwf. Mae'n rhaid inni barhau i fanteisio i'r eithaf ar y twf hwn . Rhaid inni weithio i sicrhau economi wirioneddol gynaliadwy, gan greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer swyddi sy'n talu'n dda a lefelau uwch o ffyniant.
Fel Llywodraeth Lafur ar gyfer Cymru, rydyn ni o blaid busnesau ac o blaid gweithwyr – ac yn falch o'n henw da a'n hymrwymiad i waith teg a llesiant. Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn ategu'r cyfeiriad sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth newydd y DU, ac rydyn ni'n rhannu eu hymrwymiad i ganolbwyntio ar dwf sydd wedi'i adeiladu ar sefydlogrwydd, buddsoddiadau a diwygiadau.
Er mwyn cynyddu ein cynhyrchiant a'n dynameg economaidd, byddwn yn parhau i ddarparu cymorth pwrpasol, gan gynnwys helpu busnesau yng Nghymru i ddatblygu eu hallforion.
Mae gan Gymru gryfderau allforio blaenllaw yn y sector mewn meysydd fel Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, Technoleg, Gwyddorau Bywyd, Ynni Glân, y Diwydiannau Creadigol, Bwyd a Diod a Nwyddau Defnyddwyr. Mae gennyn ni gyfleoedd sylweddol yn y meysydd hyn i barhau i ddatblygu allforion Cymru, wrth greu rhagor swyddi a swyddi gwell ledled y wlad.
Mae Cymru wedi bod yn masnachu'n llwyddiannus ers tro byd. Mae ein nwyddau a'n gwasanaethau wedi ennill gwobrau ac maen nhw'n parhau i gael eu hallforio ledled y byd. O ystyried mai dim ond tair miliwn o bobl sy'n byw yma, fel gwlad rydyn ni'n rhagori ar y llwyfan byd-eang. Rwy'n gwybod o fy sgyrsiau â busnesau yng Nghymru fod ehangu i farchnadoedd rhyngwladol yn cynyddu refeniw, yn rhoi rhagor o gyfleoedd a hyblygrwydd ar gyfer gweithrediadau ac yn ysgogi datblygu sgiliau staff. Gall allforio helpu busnesau i wrthsefyll anawsterau'n well. Mae'n hybu arloesedd, yn cynyddu cynhyrchiant, a gall ehangu rhagolygon busnes cyfan.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Allforio yn nodi ein gweledigaeth i greu sector allforio cryf, deinamig a chynaliadwy. Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu gyda'n partneriaid, a'i nod yw sicrhau y gall busnesau yng Nghymru ddechrau neu barhau i allforio a mwynhau'r manteision trawsnewidiol y gall masnachu'n rhyngwladol eu cynnig. Yn y llyfryn hwn, rydyn ni wedi amlinellu'r cymorth helaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau i lwyddo mewn marchnadoedd tramor. Rwy'n annog busnesau ledled Cymru i gysylltu â'n tîm i drafod sut y gallwn eu cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau ar gyfer tyfu yn rhyngwladol.
Mae Cymru ar agor ar gyfer busnes, ac rydyn ni'n falch o arddangos y gorau sydd gennyn ni ei gynnig ledled y byd.
Rebecca Evans MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cyflwyniad
Mae gan allforio y pŵer i drawsnewid eich busnes a dyna pam mae cefnogaeth ar gyfer cynyddu a datblygu allforio yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.
P'un a ydych yn edrych ar allforio am y tro cyntaf neu'n awyddus i gynyddu eich allforion presennol, gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yng Nghymru eich helpu i lwyddo.
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'i phartneriaid yn yr ecosystem allforio yng Nghymru, yn darparu ystod gynhwysfawr o gymorth, arweiniad a chyngor a all eich helpu ble bynnag rydych chi ar eich taith i allforio.
Yn y llyfryn hwn, byddwch yn dysgu am yr holl raglenni allforio a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i gwmnïau o Gymru sydd â diddordeb archwilio manteision allforio, neu hyrwyddo strategaeth allforio sefydledig.
Felly, darllenwch ymlaen a chasglwch yr wybodaeth y bydd angen arnoch i fasnachu'n llwyddiannus ar y llwyfan rhyngwladol.
Cymorth ar-lein
Mae amrywiaeth o adnoddau ar-lein ar gael ar Barth Allforio Busnes Cymru i'ch cefnogi gyda'ch gweithgareddau allforio, waeth ar ba gam rydych o'ch taith allforio.
Sut allwch elwa?
Yn dechrau neu ddatblygu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru'n darparu ystod o gymorth, arweiniad a chyngor drwy Barth Allforio Busnes Cymru sy'n gyflym ac yn syml i gael gafael arno.
Ar ein gwefan, fe welwch:
- Gwybodaeth am sut i ddechrau allforio.
- Canllawiau manwl ar amrywiaeth o bynciau allforio.
- Cyrsiau hyfforddi ar-lein a gweminarau gan gynnwys mynediad i'r ystod helaeth o gymorth yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a ddarperir drwy Academi Allforio'r DU.
- Atebion i ystod o faterion cyffredin.
- Gwybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghymru a theithiau masnach tramor.
- Astudiaethau achos am fusnesau Cymru sydd wedi profi llwyddiant ym maes allforio, sy'n egluro sut y gwnaethant gyflawni eu nodau a'r gefnogaeth a gawsant gan Lywodraeth Cymru.
Cyrsiau hyfforddi ar-lein
Mae ein cyrsiau hyfforddi allforio byr ar-lein wedi'u cynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch i ehangu a masnachu'n rhyngwladol.
Mae'r cyrsiau digidol rhad ac am ddim hyn, sy'n ymdrin ag ystod o bynciau, wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'ch amserlen ac maent ar gael pan mae’n gyfleus i chi.
Stori Lwyddiant - CellPath
Mae CellPath, cwmni gweithgynhyrchu yn y Drenewydd, yn arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi'r offer a'r gwasanaethau a ddefnyddir i ganfod canser.
Mae'r cwmni'n allforio'i gynnyrch i dros 40 o wledydd ar draws Ewrop, America, Asia, Affrica a'r Dwyrain Canol, gan gynnwys yr UAE, Qatar a’r Dwyrain Canol.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cwmni wedi gosod pwyslais ar werthiannau rhyngwladol ac wedi gweld ei allforion yn dyblu yn ystod y cyfnod hwnnw fel eu bod i gyfrif am ryw draean o drosiant y grŵp heddiw.
Nawr mae'r cwmni wedi gosod ei olygon ar ddyblu ei drosiant allforio yn y Dwyrain Canol a De Asia. Mae'r rhanbarthau hyn yn farchnadoedd targed allweddol diolch i'r sector feddygol sy'n tyfu ar garlam yno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o help mawr gyda llwyddiant allforio CellPath, trwy ei gynorthwyo i fynychu teithiau masnach ac ymweld â rhanbarthau newydd, yn ogystal â chyflawni gwaith ymchwil i farchnadoedd targed.
Simon Owen, Pennaeth Allforio CellPath: "Rydyn ni'n chwilio'n barhaus am ffyrdd o dyfu'r busnes a bydd hybu gwerthiannau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hynny.
"Rydyn ni wedi bod yn ffodus dros ben i gael digonedd o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i fynychu sioeau masnach, ymchwilio i farchnadoedd targed, a dod o hyd i gleientiaid a chyflenwyr newydd gan ddefnyddio'u cysylltiadau nhw. Mae'r cymorth yma wedi ein galluogi ni i ddiogelu pob math o fusnes newydd, gan ein helpu ni i barhau i dyfu.”
Rhaglen Allforiwr Newydd
Mae'r Rhaglen hon yn canolbwyntio ar gynyddu sylfaen yr allforwyr yng Nghymru drwy ddarparu cymorth penodol i garfan o allforwyr newydd, y rhai sy'n datblygu neu allforwyr adweithiol y nodwyd bod ganddynt gynnyrch neu wasanaeth sy'n gallu cael eu hallforio.
Mae'r rhaglen flynyddol yn cefnogi cwmnïau, sydd naill ai heb allforio o'r blaen, neu sydd wedi allforio yn ysbeidiol, i werthu eu nwyddau a'u gwasanaethau ledled y byd.
Mae cwmnïau dethol yn dod o amrywiol sectorau ledled Cymru ac mae'r rhaglen yn para tua 10 mis. Fel rhan o'r rhaglen, byddwch yn derbyn cefnogaeth ddwys i ddatblygu eich gallu i allforio, gyda'r nod ehangach o'ch helpu i fod yn allforiwr llwyddiannus a chynaliadwy.
Sut allwch elwa?
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn ystod o gymorth un-i-un ac un-i-lawer sydd wedi'i gynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a'ch gallu i allforio.
Bydd gweithdai grŵp yn canolbwyntio ar fagu sgiliau datblygu allforio yn ogystal â darparu hyfforddiant perthnasol, achrededig lle bo angen.
Bob blwyddyn byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn taith fasnach i farchnad gyfagos er mwyn caniatáu i aelodau ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth caffael newydd.
Digwyddiadau yng Nghymru
P'un a ydych yn allforiwr newydd neu brofiadol, gall ein rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein a wyneb yn wyneb eich helpu i ddatblygu eich busnes drwy roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd â'ch strategaeth allforio i'r lefel nesaf.
Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal cyfres o weminarau ar-lein a seminarau wyneb yn wyneb sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau, galluoedd a gwybodaeth allforio fel eich bod yn teimlo'n barod iawn wrth ddechrau neu gymryd y cam nesaf ar eich taith allforio.
Sut allwch chi elwa?
Mae ein gweminarau, seminarau a'n gweithdai yn cynnwys ystod o bynciau sy'n gysylltiedig ag allforio gan gynnwys:
- Datblygu strategaeth allforio.
- Marchnadoedd a sectorau twf.
- Rhwystrau rhag mynd i'r farchnad.
- Nodi llwybr i'r farchnad.
- Asiantau a dosbarthwyr rheoli.
- Prosesau, rheoliadau a dogfennau.
Mae ein cyfres o ddigwyddiadau yng Nghymru yn cael eu darparu gan arbenigwyr i ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a marchnadoedd allforio. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gyfarfod, rhwydweithio a rhannu profiadau gyda busnesau eraill hefyd.
Ochr yn ochr â'n digwyddiadau misol, mae ein cynhadledd allforio flynyddol, Archwilio Allforio Cymru, yn uchafbwynt y flwyddyn. Trwy seminarau, trafodaethau bwrdd crwn wyneb yn wyneb a chyfarfodydd un-i-un, byddwch yn derbyn cyngor manwl ar rai o'r materion mwyaf cyffredin y mae busnesau'n eu hwynebu o ran allforio.
Mae'r holl ddigwyddiadau yn agored i bob busnes yng Nghymru.
Rhaglen Clwstwr Allforio
Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gefnogi a datblygu cynnydd ym mherfformiad allforio cwmnïau sydd wedi'u lleoli o fewn chwe sector allforio blaenoriaeth i Gymru.
Mae'r Rhaglen Clwstwr Allforio yn dwyn ynghyd fusnesau tebyg mewn chwe sector blaenoriaeth ar gyfer allforion Cymru, a'r rhain yw:
- Technoleg.
- Gweithgynhyrchu gwerth uchel.
- Cynhyrchion defnyddwyr.
- Ynni adnewyddadwy ac Ynni Glân.
- MedTech a Diagnosteg.
- Bwyd a Diod.
Mae cwmnïau a wahoddwyd i gymryd rhan yn y Rhaglen yn amrywio o allforwyr cymharol newydd i'r rhai sy'n allforwyr hynod brofiadol a llwyddiannus sy'n edrych i dyfu ymhellach.
Mae'r rhaglen yn rhoi cyfuniad o gefnogaeth un-i-lawer ac un-i-un i aelodau clwstwr sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi a gwella eu gallu i allforio, eu galluoedd a'u perfformiad. Yn ogystal â derbyn arweiniad gan ein partner cyflenwi clwstwr, fel aelod, byddwch hefyd yn cael eich annog i fynd ati i gydweithio ag aelodau eraill i greu rhwydweithiau, partneriaethau a grwpiau arbenigol, yn ogystal â darparu cymorth mentora cyfoedion i’w gilydd.
Sut gallwch elwa?
Fel aelod o un o'n clystyrau allforio, cewch y cyfle i rwydweithio a dysgu gan fusnesau tebyg yn ogystal â chyfleoedd i fynychu digwyddiadau a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau, goresgyn rhwystrau ac archwilio cyfleoedd allforio fel y nodwyd gan aelodau'r clwstwr eu hunain.
Teithiau ac Arddangosfeydd Masnach Tramor
Mae ymweld â marchnad dramor neu arddangos mewn arddangosfa dramor yn hanfodol wrth ennill busnes allforio newydd a chadw'r busnes allforio presennol.Mae ein rhaglen o deithiau ac arddangosfeydd masnachu tramor yn galluogi cwmnïau o Gymru i greu cysylltiadau, archwilio marchnadoedd newydd, meithrin perthnasoedd a sicrhau archebion allforio newydd.
P'un a ydych yn bresennol neu'n arddangos mewn arddangosfa ryngwladol neu sioe fasnach, neu'n archwilio marchnad darged, mae ymweliadau tramor yn elfen allweddol o strategaeth allforio.
Mae ein Rhaglen Digwyddiadau Tramor helaeth yn rhoi cyfleoedd i fynychu neu arddangos mewn sioeau masnach allweddol ac ymweld ag ystod o farchnadoedd targed fel rhan o ddirprwyaeth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Sut gallwch elwa?
Drwy gymryd rhan yn ein digwyddiadau tramor, gallwch elwa o:
- Cyfle i gomisiynu ymchwil cyn yr ymweliad i'ch helpu i adeiladu rhaglen o gyfarfodydd busnes.
- Briff croesawu yn y farchnad ar ôl cyrraedd.
- Cyfle i ymuno â derbyniad rhwydweithio swyddogol a gwahodd eich partneriaid busnes neu bartneriaid posibl fel gwesteion.
- Mynediad i gymorth lleol drwy Lywodraeth Cymru a swyddfeydd tramor yr Adran Masnach Ryngwladol.
- Teithio a llety â chymhorthdal wedi'i archebu ar eich rhan.
- Cyhoeddusrwydd (lle bo'n briodol).
- Stondin â chymhorthdal ym mhafiliwn Llywodraeth Cymru mewn arddangosfeydd allweddol.
- Cefnogaeth Rheolwr Cenhadaeth Llywodraeth Cymru drwy gydol yr ymweliad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi un cynrychiolydd i bob cwmni i gymryd rhan mewn cenhadaeth fasnach a dau gynrychiolydd i bob cwmni i gymryd rhan mewn arddangosfa. Mae cefnogaeth yn amodol ar gymhwysedd.
Mae manylion ein Rhaglen Digwyddiadau Tramor a sut i wneud cais i'w gweld yn y ddolen isod
Datblygu Masnach Rhyngwladol (DMR)
Bwriad ein Rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol (DMR) yw rhoi cyngor, arweiniad, gwybodaeth a data ymarferol i fusnesau cymwys yng Nghymru er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau strategol hyddysg ar eu taith allforio.
Sut gallwch elwa?
Gallai DMR fod yn offeryn gwerthfawr i'ch helpu ar eich taith allforio gan ei fod yn cynnig cefnogaeth bwrpasol gydag ymchwil y farchnad a'r gwaith paratoi sydd ei angen i'ch helpu i ehangu'n llwyddiannus mewn marchnadoedd tramor newydd neu fynd i mewn i farchnadoedd tramor newydd.
Mae'r Rhaglen yn rhoi mynediad i chi at arbenigwyr sydd ag amrywiaeth o brofiad o’r sector, o’r farchnad ac o allforio.
Bydd ein harbenigwyr yn gweithio gyda chi ar sail un i un a bydd yn rhoi adroddiad wedi'i deilwra ar gyfer eich anghenion penodol.
Mae hyn yn cynnwys help i:
- Ddatblygu eich strategaeth allforio.
- Ymchwil a dod o hyd i'r farchnad orau i chi.
- Diffiniwch eich llwybr i'r farchnad.
- Defnyddiwch E-fasnach ar gyfer busnes rhyngwladol.
- Deall ystyriaethau ariannol fel prisio, taliadau, arian cyfred a threth.
- Cael gwybodaeth am weithdrefnau allforio, rheoliadau a logisteg.
Mae DMR ar gael i fusnesau sydd ar y cam cywir yn eu taith allforio a gall ddangos y bydd y gefnogaeth yn eu helpu i ddatblygu eu busnes drwy allforio. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Stori Lwyddiant - Celtic English Academy
Mae Celtic English Academy, yr ysgol iaith Saesneg o Gaerdydd, wedi gwneud enw rhyngwladol iddi hi hun ers iddi ddechrau addysgu myfyrwyr rhyngwladol 18 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau ar gyfer dros 1,200 o ddysgwyr y flwyddyn o dros 50 o wledydd.
Yn 2012, cafodd y cwmni gyllid gan Lywodraeth Cymru i'w gynorthwyo i fynychu teithiau masnach dramor, gan sbarduno ei ymgyrch allforio a'i gynorthwyo i ddatblygu enw da dramor.
Ers hynny, mae'r ysgol sydd ag achrediad y British Council, wedi tyfu'n sylweddol, gan ddenu myfyrwyr o bedwar ban y byd. Heddiw, allforion sydd i gyfrif am 95% o fasnach.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Celtic wedi ennill pedwar contract newydd pwysig ar draws Ewrop, Affrica ac Asia, ac yn fwyaf diweddar, mae'r cwmni wedi ennill dau gontract addysgu o bell gyda Kuwait a Fietnam.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi bod yn allweddol i lwyddiant Celtic, gan gynnwys darpariaeth y Gronfa Datblygu Busnes Dramor.
Shoko Doherty, Prif Weithredwr Celtic English Academy: "Mae allforio'n greiddiol i ni fel busnes. Mae gweithio gyda myfyrwyr ac athrawon o amrywiaeth o wahanol wledydd, yn ogystal â'n pwyslais ar fod yn hyblyg ac addasu i newidiadau, wedi helpu i'n cadw ni'n wydn am nad ydym ni'n ddibynnol ar un farchnad neu ranbarth yn unig.”
Cyfleoedd Masnach Ryngwladol (CMR)
Mae'r rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol (CMR) yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd eisoes wedi nodi a chymhwyso eu marchnad(oedd) targed ac sy'n barod i gymryd y cam nesaf a mynd ati i chwilio am gyfleoedd allforio.
Os ydych wedi cwblhau eich ymchwil o'r farchnad ac yn teimlo eich bod yn barod i droi eich uchelgais yn realiti, gan ddefnyddio rhwydwaith byd-eang Llywodraeth Cymru, gallwn eich helpu i gysylltu â'ch partner delfrydol, neu gwsmeriaid, mewn dros 50 o wledydd.
Sut gelli di elwa?
Mae gennym fynediad at yr arbenigwyr ar lawr gwlad sy'n siarad yr iaith, yn deall y tollau busnes a'r moesau, yn ogystal â'r ffordd orau o fynd at ddarpar gleientiaid.
Fel rhan o'r rhaglen ITO, gallwch gael eu cefnogaeth, a fydd yn cynnwys:
- Darparu gwybodaeth busnes ar lefel leol.
- Cyngor ar amodau a rheoliadau masnachu lleol.
- Adnabod a chysylltu â chwsmeriaid, asiantau neu ddosbarthwyr posibl.
- Trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda’r rhai sydd â diddordeb.
- Eich cefnogi yn ystod eich amser yn y farchnad.
Gellir defnyddio CMR fel y cam nesaf yn dilyn:
- Ymweliad Datblygu Busnes Tramor, neu ymweliad annibynnol.
- Prosiect Datblygu Masnach Ryngwladol (DMR).
- Eich cynorthwyo cyn ac yn ystod taith fasnach.
Mae rhai meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Stori Lwyddiant - Corgi
Mae ffocws Corgi, cwmni teuluol Cymreig sy'n enwog ar draws y byd am gynhyrchu sanau a dillad gwlân moethus, wedi bod ar allforio ers blynyddoedd maith.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1893, ar ôl profi llwyddiant mawr ar lefel ddomestig, dechreuodd y busnes feddwl am ei botensial rhyngwladol, a diwedd y 1940au, tarodd fargen gyda'r brand ffasiwn Americanaidd eiconaidd, Brooks Brothers.
Heddiw, pumed genhedlaeth y teulu Jones sy'n rhedeg y cwmni ac mae ganddo sylfaen dda o gwsmeriaid rhyngwladol sy'n ymestyn ar draws mwy na 30 gwlad.
Yn arbennig, mae Corgi wedi cyflymu ei ffocws allforio yn ystod y pum mlynedd diwethaf, lle mae wedi dechrau allforio i 15 o farchnadoedd newydd gan gynnwys Tsieina, De America, De Affrica, Fietnam ac Awstralia, gan olygu cynnydd o draean mewn trosiant.
Mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i gynorthwyo ei thwf mewn allforio, gan gynnwys cymorth ariannol i fynychu gwahanol deithiau masnach ledled y byd.
Mae Corgi bellach yn ceisio rhoi hwb i'w werthiant allforio ymhellach, nod allweddol yw ehangu ei bresenoldeb yn Tsieina, sydd wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel marchnad fawr i'r cwmni, gyda gwerthiant i'r wlad yn cyfrif am 15% o'r trosiant.
Chris Jones, Cyd-Gyfarwyddwr Rheoli gyda Corgi: “Mae’n bwysig iawn ymweld a chynnal cyswllt rheolaidd gyda darpar brynwyr newydd dramor. Nid yw’n ddigon mynd yno unwaith a gobeithio y cewch archebion – mae angen parhau i fynd yno er mwyn meithrin cysylltiadau ac ennyn hyder ac ymddiriedaeth. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau busnes parhaus.”
Cymorth Hyfforddiant Allforio
Fel rhan o Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru, mae cyllid grant ar gael i gefnogi busnesau yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant achrededig i staff i wella eu gallu i allforio.
Cefnogir chwe maes hyfforddi fel rhan o'r rhaglen, gydag amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael o fewn pob categori gan gynnwys:
- Cyllid.
- Gwerthu a Marchnata.
- Prosesau a Gweithdrefnau Tollau.
- Prosesau Allforio.
- Ymwybyddiaeth y Farchnad.
- Cymorth Arbenigol.
Sut allwch chi elwa?
Fel cyflogwr, gallwch wneud cais am gyllid i dalu am 50% o gostau hyfforddiant, hyd at uchafswm cyfraniad Llywodraeth Cymru o £25,000.
Anogir ceisiadau gan gwmnïau sydd wedi'u lleoli mewn unrhyw ardal yng Nghymru cyn belled â bod yr hyfforddiant y gofynnir amdani yn dod o dan un o'r chwe maes pwnc penodedig.
Mae modd darparu hyfforddiant fesul un neu fel grŵp, yn bersonol neu o bell.
- Mae'r cynllun ar agor i gyflogwyr yng Nghymru.
- Rhaid i hyfforddiant ddod o dan un o'r chwe maes pwnc penodedig.
- Rhaid achredu hyfforddiant neu dylai gyrraedd safon diwydiant.
- Gall pob cyflogwr wneud un cais i'r rhaglen hon y flwyddyn.
- Bydd cyllid yn talu 50% o'r costau hyfforddi cymwys, hyd at £25,000.
- Bydd cyllid yn cael ei dalu'n ôl-weithredol, ar gwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus ac unwaith y bydd tystiolaeth o hyn wedi'i ddarparu (tystysgrif arholiadau neu gadarnhad gan y darparwr hyfforddiant).
- Nid yw'r costau a hawlir yn ôl gan gyflogwyr yn cynnwys Teithio a Chynhaliaeth na TAW.
Cynghorydd Masnach Rhyngwladol a swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru
Cynghorwyr Masnach Ryngwladol
Mae gan Lywodraeth Cymru dîm o Cynghorwyr Masnach Ryngwladol (CMRau) sy'n gweithio gyda busnesau cymwys Cymru un i un, gan roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth bwrpasol iddyn nhw i'w helpu i gyflawni eu nodau a'u hamcanion cysylltiedig ag allforio.
Mae CMRau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddarparu ein rhaglenni 'Clwstwr Datblygu Allforio' ac 'Allforiwr Newydd'.
Maent hefyd yn mynd gyda dirprwyaethau o fusnesau Cymru ar deithiau ac arddangosfeydd allweddol masnach tramor, gan helpu i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i'r rhai sy'n mynychu.
Swyddfeydd Tramor
Gan gydweithio â chydweithwyr a phartneriaid yng Nghymru, mae'r swyddfeydd hyn yn cefnogi cwmnïau o Gymru mewn nifer o ffyrdd i'w helpu i gyflawni eu nodau a'u hamcanion sy'n gysylltiedig ag allforio.
Er enghraifft:
- Nodi cyfleoedd busnes posibl yn eu priod farchnadoedd.
- Cynorthwyo gyda cyflwyno ymweliadau marchnad 'rhithwir'.
- Darparu digwyddiadau yn y farchnad fel sesiynau briffio, seminarau a gweminarau.
- Darparu cefnogaeth 'ar lawr gwlad' i gwmnïau sy'n gwneud ymweliad â marchnad.
- Cydweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y Siambrau Masnach, y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol a'r Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod y cymorth cyfan ar gael i fusnesau Cymru.
Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru
Elfen allweddol arall o'n cefnogaeth i fusnesau yw ein rhwydwaith o swyddfeydd tramor, gyda 21 o swyddfeydd wedi'u lleoli ar draws 12 marchnad.
Grant Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (GYDBT)
Dyluniwyd y gefnogaeth hon yn benodol i ysgogi mwy o allforion o Gymru drwy annog busnesau cymwys i ymgymryd â gweithgarwch datblygu allforio newydd mewn marchnadoedd tramor.
Mae'r grant hwn yn canolbwyntio ar helpu cwmnïau i ddatblygu a sicrhau busnes allforio newydd drwy roi cymorth ariannol iddynt tuag at gynnal ymweliadau datblygu busnes annibynnol i farchnadoedd tramor a/neu arddangos mewn sioeau masnach ac arddangosfeydd tramor allweddol.
I fod yn gymwys i gael cefnogaeth GYDBT, rhaid i fusnesau:
- Ddangos angen clir i'r grant er mwyn i'r gweithgaredd fynd yn ei flaen (neu i beidio â gorfod oedi llawer) a bod y gweithgaredd yn canolbwyntio ar ennill busnes allforio newydd – Ni ellir defnyddio cymorth GYDBT i wasanaethu contractau neu gwsmeriaid presennol.
- Trefnu Contract Economaidd diweddar Llywodraeth Cymru.
- Nid ydynt wedi gwneud unrhyw ymrwymiad blaenorol i unrhyw ran o'r gweithgaredd.
- Wedi eich lleoli yng Nghymru ac yn gallu dangos eich bod yn gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau sydd naill ai'n dod o Gymru neu yn ychwanegu gwerth sylweddol at gynnyrch neu wasanaethau sydd ddim yn dod o Gymru.
Mae cefnogaeth GYDBT hefyd yn destun meini prawf cymhwysedd pellach.
Sut gallwch elwa?
Mae cymorth GYDBT yn cwmpasu 50% o gost rhai elfennau o ymweliad datblygu busnes (ar gyfer un cynrychiolydd i bob cwmni) neu arddangos mewn sioe fasnach dramor neu arddangosfa (ar gyfer hyd at ddau gynrychiolydd i bob cwmni) hyd at uchafswm lefel grant o £10,000 y cais (lefel isafswm grant o £1,000 yn berthnasol). Gall cwmnïau gael uchafswm o dri cais llwyddiannus y flwyddyn.
Ecosystem Allforio
Nid yw Cynllun Gweithredu Allforio uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni'n llawn heb gefnogaeth eraill. Mae ecosystem allforio effeithiol yn sicrhau bod gan allforwyr fynediad at y gefnogaeth a'r cyngor sydd ei angen arnynt ar wahanol agweddau o allforio, gan gynnwys cyllid, dogfennau allforio, logisteg a materion cyfreithiol, yn ogystal â datblygu hyfforddiant a sgiliau.
Y newyddion da yw ein bod yn ffodus fod gennym rwydwaith helaeth, parod eisoes ar waith yma yng Nghymru. Mae partneriaid ein hecosystem yn cynnwys:
Cyfryngwyr
- Cyfrifwyr.
- Cyfreithwyr.
- Darparwyr Cyllid ac Yswiriant.
- Ymgynghorwyr.
- Arbenigwyr Logisteg a Thechnoleg.
- Prifysgolion a Cholegau.
Rhwydweithiau'r DU a Thramor
- Swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru
- Siambrau Tramor.
- Llysgenhadon Tramor a Llysgenadaethau yn Llundain.
- Conswliaid Anrhydeddus yng Nghymru.
- Cymry ar wasgar a chyn-fyfyrwyr o Gymru.
- Y Cyngor Prydeinig.
Llywodraeth leol
- Awdurdodau Lleol.
- Partneriaethau rhanbarthol.
- Bargeinion dineig a thwf.
Llywodraeth y DU
- Yr Adran Busnes a Masnach.
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
- Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO).
- CThEM.
- Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Cynrychiolwyr a Chyrff Busnes
- Siambrau Masnach.
- Cymdeithasau Masnach.
- Cyrff Aelodaeth Proffesiynol.
- Sefydliad Allforion.
Cysylltu â ni
I ddarganfod mwy a dechrau elwa o'r gefnogaeth a amlinellir yn y llyfryn hwn, cysylltwch â ni drwy
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.