Astudiaeth Achos, Document

Adeiladu Cadwyn Gyflenwi Bwyd a Diod Gymreig ar gyfer Prosiectau Buddsoddi Isadeiledd Mwyaf y Genedl: PDF

Adeiladu Cadwyn Gyflenwi Bwyd a Diod Gymreig ar gyfer Prosiectau Buddsoddi Isadeiledd Mwyaf y Genedl

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf: 17 Awst 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 29.64 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae gorsaf bŵer niwclear arfaethedig Gwyndod (Wylfa) Great British Energy - Nuclear (GBE-N) ar Ynys Môn, ynghyd â Phorthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd sy’n gysylltiedig ag Ynni Gwynt Alltraeth Arnofiol (FLOW), ymhlith rhai o’r rhaglenni buddsoddi mwyaf yn hanes Cymru. Gyda chefnogaeth Rolls-Royce SMR, sydd wedi’i ddewis yn bartner technoleg ar gyfer Gwyndod, disgwylir i’r datblygiadau hyn greu miloedd o swyddi, blynyddoedd o weithgarwch adeiladu, a caffael ar raddfa na welir yn aml yng Nghymru.

Gan gydnabod y cyfle hwn, comisiynodd Busnes Cymru gymorth arbenigol i gynhyrchu astudiaeth sy’n canolbwyntio ar gaffael, gan archwilio sut y gall y sector bwyd a diod yng Nghymru sicrhau cyfran sylweddol o’r gadwyn gyflenwi.

Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion ymarferol ar gyfer sicrhau bod busnesau bwyd a diod Cymru yn barod i gystadlu am gytundebau sy’n gysylltiedig â’r prosiectau isadeiledd sydd o arwyddocâd cenedlaethol hyn, yn ogystal â rhaglenni buddsoddi’r dyfodol ledled Cymru.

Yr Her

Yn naturiol, mae peirianneg, adeiladu a gweithgynhyrchu’n hawlio rhan helaeth y sylw wrth drafod prosiectau isadeiledd mawr, a phrin yw’r ystyriaeth a roddir i’r sector bwyd a diod lleol a rhanbarthol, er bod prosiectau o’r maint hwn yn gofyn am arlwyo sylweddol, llety ar gyfer gweithwyr, rheoli cyfleusterau a logisteg ar raddfa enfawr.

Heb ymgysylltu cynnar, mae perygl y gwobrwyir y cytundebau hyn i gyflenwyr o rannau eraill o’r DU neu o dramor, tra bod cynhyrchwyr Cymreig yn colli cyfle i fod yn rhan o ddatblygiadau sy’n digwydd ar stepen y drws.

Cynhyrchwyd yr astudiaeth gan Sasha Wynn Davies: arbenigwr caffael, ymgysylltu a chadwyni cyflenwi sydd â phrofiad helaeth yn y sectorau niwclear ac ynni carbon isel. Dros sawl mis, ymchwiliodd Sasha i’r cyfle, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant, Llywodraeth Cymru a sefydliadau sy’n cynrychioli’r sector bwyd a diod, er mwyn datblygu cyfres o argymhellion ymarferol a gynlluniwyd er mwyn rhoi cynhyrchwyr Cymreig mewn sefyllfa gref, cyn y gwneir penderfyniadau caffael.

Tynna’r gwaith sylw at gryfder sector bwyd a diod Cymru, sy’n cynnwys dros 1,200 o weithgynhyrchwyr ac yn cyflogi tua 47,000 o bobl, gan wneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Dywed yr adroddiad fod prosiectau seilwaith ynni mawr yn cynnig cyfle i gryfhau’r economi sylfaenol drwy gadw mwy o’r gwerth economaidd yng nghymunedau Cymru.

“Anaml y caiff bwyd a diod eu hystyried fel rhan o’r drafodaeth strategol am gadwyni cyflenwi,” eglurodd Sasha. “Fodd bynnag, mae’r prosiectau mawr hyn sy’n cyflogi cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bobl yn gofyn am arlwyo, lletygarwch, llety, rheoli cyfleusterau ac ystod eang o wasanaethau cysylltiedig. Os na fyddwn yn paratoi nawr, gallai’r cytundebau hynny gael eu dyfarnu’n rhwydd i fusnesau mewn rhannau eraill o’r DU neu dramor, yn hytrach na chefnogi busnesau yma yng Nghymru. Mae gennym sector bwyd a diod ffyniannus sy’n gallu bod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.”

Y Dull

Dewiswyd Gorsaf Bŵer Niwclear Gwyndod a rhaglen FLOW y Porthladd Rhydd Celtaidd fel y ffocws gwreiddiol oherwydd eu maint, eu hamserlenni datblygu a chyflawni, a’u gofynion tebyg o ran y gadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau yr un mor berthnasol i’r Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a Wrecsam, yn ogystal â phrosiectau posibl yn Nhrawsfynydd ac Oldbury, Swydd Gaerloyw, sy’n eiddo i GBE-N, lle bydd gweithluoedd mawr angen llety, arlwyo a gwasanaethau cysylltiedig dros nifer o flynyddoedd.

Mae llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar lwybrau caffael, sy’n gallu bod yn anodd i gynhyrchwyr llai eu llywio. Mae cytundebwyr Haen 1 yn cyflawni elfennau mawr prosiect, tra bod busnesau Haen 2 a Haen 3 yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau arbenigol i’r cytundebwyr Haen 1.

I gynhyrchwyr a dosbarthwyr bwyd a diod Cymreig, mae deall Haenau 1 i 3, yn ogystal â meithrin perthnasoedd o fewn yr Haenau, yn hanfodol er mwyn sicrhau gwaith sylweddol, yn hytrach na dim ond darganfod cyfleoedd ar ôl i’r cytundebau gael eu dyfarnu.

Mae’r adroddiad yn argymell cydweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, Menter Môn, cyrff diwydiant a datblygwyr er mwyn creu cynnig bwyd a diod Cymreig cydlynol a chystadleuol ar gyfer y prosiectau seilwaith ynni mawr hyn, gyda’r cynnig hwnnw’n seiliedig ar ansawdd, cynaliadwyedd, tarddiad, capasiti cynhyrchu a phrisiau cystadleuol.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell ymgysylltu’n gynnar â datblygwyr a chytundebwyr Haen 1 a Haen 2, cymryd rhan mewn digwyddiadau cadwyni cyflenwi, datblygu “cynnig arddangos bwyd Cymru” a rhaglen “paratoi”, ynghyd ag ymgysylltu wedi’i dargedu â rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru’n weladwy ymhell cyn i’r broses gaffael gychwyn.

Y Canlyniad

Nid dulliau heb eu profi yw’r rhain. Mae caffael cyhoeddus mewn ysgolion ac ysbytai yng Nghymru eisoes wedi dangos bod bwyd lleol yn gallu cefnogi cymunedau iachach, lleihau milltiroedd carbon bwyd a chryfhau economïau rhanbarthol.

Mae adroddiad Sasha yn dadlau y gellir cymhwyso’r un egwyddorion yn llwyddiannus i brosiectau seilwaith arwyddocaol, o ddiddordeb cenedlaethol, yng Nghymru, ar yr amod bod y gwaith paratoi’n dechrau’n ddigon cynnar.

Bydd cost, fforddiadwyedd a capasiti cynhyrchu’n parhau’n ystyriaethau pwysig. Gall adeiladu Gorsaf Bŵer Niwclear Gwyndod yn unig olygu lletya miloedd o weithwyr ar y safle ac o’i amgylch. Mae dechrau paratoi nawr yn rhoi’r cyfle i fusnesau Cymru gystadlu’n effeithiol wrth gyflawni buddion economaidd, amgylcheddol a chymunedol ehangach.

Daw’r adroddiad i’r casgliad y bydd llwyddiant yn ddibynnol ar gydweithio parhaus rhwng diwydiant, llywodraethau, datblygwyr eraill a sefydliadau cynrychiadol.

Mae’r prif argymhellion yn cynnwys dylanwadu ar ofynion gwerth cymdeithasol o fewn prosesau caffael, datblygu perthnasoedd â datblygwyr a’u cadwyni cyflenwi Haen 1 a Haen 2, cefnogi cynhyrchwyr Cymreig drwy weithdai wedi’u targedu a digwyddiadau caffael, a sicrhau bod sector bwyd a diod Cymru a dosbarthwyr Cymreig yn cael eu cydnabod fel rhan annatod o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer y genhedlaeth nesaf o brosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

Mae argymhellion cychwynnol yn cynnwys cynnal gweithdai penodol ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymru, datblygu “cynnig arddangos bwyd Cymreig” cenedlaethol a rhaglen “paratoi”. Dylid hefyd ailymweld â gwaith blaenorol ar gadwyni cyflenwi bwyd lleol a gynhaliwyd yn ystod y prosiect Horizon Wylfa Newydd a gafodd ei ohirio, ac wrth i amserlenni prosiectau ddod yn gliriach, dylid gweithio â sefydliadau megis Fforwm Niwclear Cymru, Cymdeithas y Diwydiant Niwclear a Ynni Morol Cymru er mwyn gwella gwybodaeth ynghylch caffael a mynediad at ddatblygwyr.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar GBE-N, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau perthnasol i gynnwys gofynion gwerth cymdeithasol mewn cytundebau arlwyo, llety a rheoli cyfleusterau, gan sicrhau bod pwysigrwydd yr economi sylfaenol yn cael ei adlewyrchu yn y broses gaffael.

Gyda momentwm eisoes yn cynyddu ar draws llywodraethau, diwydiant a sector bwyd a diod Cymru, mae yma gyfle i droi’r argymhellion hyn yn weithredu.

Os llwydda Cymru i weithredu, gall y prosiectau ynni trawsnewidiol hyn, sydd o arwyddocâd cenedlaethol i’r DU, adael gwaddol cadarnhaol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r cyfnod adeiladu, gan greu gwerth economaidd parhaol, cefnogi cynhyrchwyr lleol, cryfhau’r economi sylfaenol a sicrhau bod busnesau Cymru’n cefnogi wrth ddarparu ar gyfer y gweithlu sy’n adeiladu dyfodol Cymru a’r DU.

Lawrlwytho'r ddogfen: 29.64 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.