Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Mai 2025

Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.

Y diweddaraf

Ailbrisio yn 2026

Dechrau mynd ati i weithredu’r dull newydd o gynnal ymarferion ailbrisio bob tair blynedd yng Nghymru sydd wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi annomestig. Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer yr ymarfer ailbrisio nesaf, a fydd yn cael ei gynnal ar 1 Ebrill 2026.

Wrth ailbrisio, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn adolygu gwerth ardrethol pob eiddo annomestig ar adeg benodol. Bydd gwerth ardrethol newydd yn cael ei neilltuo i bob eiddo annomestig, a fydd yn seiliedig ar amcangyfrif o werth rhent blynyddol yr eiddo ar 1 Ebrill 2024 (y dyddiad prisio rhagflaenol). Bydd VOA yn llunio ac yn cyhoeddi’r rhestr ardrethu newydd ar ffurf ddrafft erbyn diwedd 2025.

Mae ymarferion ailbrisio yn cael eu cynnal i sicrhau tegwch yn y system ardrethi annomestig, drwy ailddosbarthu cyfanswm yr hyn sy’n daladwy rhwng talwyr ardrethi, er mwyn adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo. Bydd rhai talwyr ardrethi yn gweld cynnydd yn eu bil, bydd rhai yn gweld gostyngiad, ac ni fydd rhai yn gweld unrhyw newid, gan adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo ar draws y sylfaen drethu.

Mae bil ardrethi annomestig yn cael ei gyfrifo drwy gymryd gwerth ardrethol eiddo a’i luosi â’r lluosydd ardrethi annomestig (cyn i unrhyw ryddhad ardrethi gael ei gymhwyso). Bydd y lluosydd yn sicrhau bod y refeniw cyffredinol a ddaw o ardrethi annomestig yn parhau i gefnogi cyllid sefydlog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus lleol ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau’r lluosydd wrth osod y gyllideb ar gyfer 2026-27, gan ystyried effaith yr ailbrisio ar y sylfaen drethu.

Adolygu rhyddhadau

Fel rhan o’r rhaglen ddiwygio ehangach a nodwyd ar gyfer tymor presennol y Senedd, rydym wedi comisiynu Alma Economics i gynnal adolygiad o ryddhadau ardrethi annomestig yng Nghymru. Prif nod yr ymchwil oedd datblygu set o egwyddorion allweddol i’w defnyddio fel canllaw ar gyfer newidiadau yn y dyfodol i’r dirwedd rhyddhadau ardrethi annomestig, gan ddefnyddio profiadau ymarferol awdurdodau bilio a chanfyddiadau talwyr ardrethi i lywio’r gwaith.

Rydym yn ddiolchgar i amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr trethi, awdurdodau bilio, talwyr ardrethi a’u cynrychiolwyr, am gymryd rhan mewn ffordd mor adeiladol yn yr adolygiad. Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau a chyhoeddwyd adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Bwletin ystadegol ar ardrethi annomestig yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein bwletin ystadegol blynyddol diweddaraf ar ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae’r bwletin yn cynnwys data ar swm yr ardrethi annomestig a gasglwyd a’r rhyddhadau a ddarparwyd, hyd at flwyddyn ariannol 2023-24 a chan gynnwys y flwyddyn honno. Rydym yn croesawu unrhyw adborth gan randdeiliaid.

Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.

Mesurau i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi annomestig – ar agor

Mae’r ymgynghoriad ar gynigion i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi annomestig ar agor am ddeuddeg wythnos, o 7 Ebrill i 30 Mehefin 2025.

Cynigion ar gyfer lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig ar agor

Mae’r ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig ar agor am ddeuddeg wythnos, o 20 Mai i 12 Awst 2025.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf yn hydref 2025 (amodol).

Dolenni defnyddiol:
Llywodraeth Cymru
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.