Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Cyllideb 2026-27
Bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi annomestig yn 2026-27 yn cael eu pennu fel rhan o'r paratoadau ar gyfer ein Cyllideb Derfynol, yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd 2025. Rydym yn deall y bydd talwyr ardrethi yn dymuno gwybod manylion y trefniadau ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadarnhau cyn gynted â phosibl a'i chynnwys yn ein diweddariad nesaf.
Diwygio ardrethi annomestig
Ar 10 Mehefin 2025, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddatganiad yn y Senedd, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran diwygio trethi lleol yng Nghymru. Mewn perthynas ag ardrethi annomestig, rydym wedi cyflwyno rhaglen eang o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, fel y nodwyd mewn diweddariadau blaenorol. Mae elfennau terfynol y rhaglen honno ar y trywydd iawn i'w gweithredu ar 1 Ebrill 2026.
Lluosyddion gwahaniaethol
Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddwn yn cyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifio Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 yn cael eu gwneud yn gyfraith ac yn pennu'r priodweddau y bydd lluosyddion gwahaniaethol yn gymwys iddynt. Bydd gwerthoedd yr holl luosyddion ar gyfer 2026-27 yn cael eu pennu yn nes ymlaen yn y flwyddyn, pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol ar gael, a byddant yn destun rheoliadau pellach.
Mesurau i fynd i'r afael ag osgoi talu ardrethi
Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddwn yn gweithredu'r ddau ymyrraeth ddeddfwriaethol olaf yn y pecyn o fesurau i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig a gyhoeddwyd gyntaf yn 2018. Byddwn yn gweithredu'r fframwaith gwrthweithio osgoi cyffredinol yr ydym wedi'i greu, trwy ddiffinio amryw o drefniadau osgoi artiffisial a fydd yn cael eu defnyddio. Byddwn hefyd yn creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau. Bydd y rheoliadau sy'n ofynnol i weithredu'r mesurau hyn yn cael eu dwyn ymlaen maes o law ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig
Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.
Mesurau i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi annomestig: crynodeb o'r ymatebion
Roedd yr ymgynghoriad ar gynigion i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi annomestig ar agor am ddeuddeg wythnos, o 7 Ebrill i 30 Mehefin 2025.
Cynigion ar gyfer lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig: crynodeb o’r ymatebion
Roedd yr ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig ar agor am ddeuddeg wythnos, o 20 Mai i 12 Awst 2025.
Mireinio dosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol: ar agor
Mae ymgynghoriad ar gynigion i fireinio ddosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol ar agor am ddeuddeg wythnos, rhwng 28 Awst a 20 Tachwedd 2025.
Rhagor o wybodaeth
Croesawn adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i: polisitrethilleol@llyw.cymru
Mae'r diweddariad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ionawr 2026 (am y tro).
Dolenni defnyddiol: