Datganiad Allforio

Darllenwch y datganiadau isod a thiciwch y blychau i gadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno i’r telerau. 

Caiff yr wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen ar-lein ei defnyddio at ddibenion trefnu a chadarnhau eich taith yn unig. Caiff yr wybodaeth hon ei hanfon at ein Cwmni Teithio penodedig sy’n rheoli’r trefniadau teithio. Caiff yr wybodaeth ei storio’n electronig a chaiff ei defnyddio at ddibenion y prosiect hwn yn unig. Caiff ei chadw yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ar reoli gwybodaeth.

Yn ddibynnol ar wneud cais llwyddiannus, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhorthdal (yn unol â'r cais hwn) Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) i'ch cwmni o dan y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022), ar yr amod eich bod yn cytuno â'r telerau ac amodau a nodir isod (mewn perthynas â'r Cymorth Ariannol Lleiaf ac unrhyw delerau eraill o'r cymhorthdal a bennir gan Lywodraeth Cymru), ac yn cydymffurfio â nhw. Bydd faint o Gymorth Ariannol Lleiaf a gynigir yn cael ei gadarnhau drwy e-bost, ar ôl y digwyddiad. Trothwy'r Cymorth Ariannol Lleiaf yw £315,000, wedi'i grynhoi dros y flwyddyn ariannol hon a'r ddwy flynedd ariannol flaenorol, fel y nodir yn adran 36(1) o’r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022). Mae hyn yn golygu na ddylech chi^ fod wedi derbyn dros £315,000 mewn cymorthdaliadau Cymorth Ariannol Lleiaf neu gymorthdaliadau cyfatebol (gweler adran 42(8) o'r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau) rhwng 1 Ebrill (blwyddyn dechrau’r cyfnod cyfrifo) a'r dyddiad hwn. Mae'n ofynnol ichi gadw cofnod ysgrifenedig o faint o Gymorth Ariannol Lleiaf rydych wedi'i dderbyn a'r dyddiad/dyddiadau y cafodd ei dderbyn. Rhaid cadw'r cofnod ysgrifenedig am dair blynedd o leiaf, gan ddechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y Cymorth Ariannol Lleiaf. Bydd hyn yn eich galluogi i ymateb i geisiadau gan awdurdodau cyhoeddus yn y dyfodol ar faint o Gymorth Ariannol Lleiaf yr rydych wedi'i dderbyn ac a ydych wedi cyrraedd y trothwy cronnus.

 ^ Mae’r trothwy ar gyfer Cymorth Ariannol Lleiaf yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni.

O ganlyniad i’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gwmnïau sy’n cymryd rhan yn yr ymweliad hwn, byddwn yn cynnal sesiynau dilynol 6 a 12 mis. Pwrpas y rhain yw nodi unrhyw fusnes allforio pellach yr ydych wedi'i sicrhau ac unrhyw gymorth pellach y gellir ei ddarparu. Rwy’n cytuno i ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch y canlyniadau i’n busnes yn dilyn yr ymweliad, ac yn cydnabod y caiff ei thrin yn gyfrinachol at ddefnydd mewnol yn unig

Rwy’n cydnabod y daw cyfraniad fy nghwmni o’n hadnoddau preifat ein hunain ac nid o unrhyw adnoddau eraill, megis adnoddau neu arian cyhoeddus arall.

Rwy’n deall, trwy lofnodi’r ffurflen hon fy mod yn llunio cytundeb gyda Llywodraeth Cymru i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwn.  Rwy’n cytuno, o ganlyniad i beidio â bod yn bresennol, fy mod yn talu y costau llawn a delir ar fy rhan, gan gynnwys costau teithio a llety.

SYLWER:

Caiff yr wybodaeth a gesglir ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i fynd i’r afael â thwyll a gwyngalchu arian yn ogystal â gwirio manylion adnabod. Ceir rhagor o fanylion am sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a gan asiantaethau atal twyll yn yr hysbysiad preifatrwydd isod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gennych i brosesu’r cais hwn. Rhaid i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y cynlluniau. Petaech chi'n methu darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol, gallai hynny olygu nad ydym yn gallu gwneud asesiad llawn o’r cais. Rydym yn nodi cyfnod cadw’r data yn yr hysbysiad preifatrwydd sydd ynghlwm, yn ogystal â’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

https://www.gov.wales/docs/caecd/publications/180516-privacy-notice-cy.pdf

 

Ni fydd Llywodraeth Cymru a/neu’r Cwmni Teithio penodedig yn gyfrifol am y canlynol:

Unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir sy'n gysylltiedig ag aildrefnu amser neu ddyddiad eich tocynnau teithio a/neu lety. Os yw'r cwmni hedfan, oherwydd i chi gyrraedd yn hwyr, neu os ydych, yn eu barn hwy yn peri unrhyw fath o risg diogelwch, yn gwrthod caniatáu ichi fynd ar yr awyren.  

Unrhyw gostau a ysgwyddir o ganlyniad i chi fod yn hwyr ar gyfer y trosglwyddiadau a drefnwyd o'ch llety i'r maes awyr. 

Talu am unrhyw gostau y gallech fod wedi'u hysgwyddo o ran cyfleusterau ychwanegol yn ystod eich arhosiad. Chi sy'n gyfrifol am dalu’ch bil gwesty cyn i chi adael. 

Sicrhewch fod gennych yswiriant teithio ac yswiriant meddygol dilys ar gyfer eich taith/teithiau. Dewch â'r cerdyn neu'r dogfennau gyda chi.

Sicrhewch eich bod wedi cael y pasbort a'r ddogfen mynediad angenrheidiol i fodloni gofynion y wlad rydych chi'n teithio iddi. Edrychwch ar y Cyngor Teithio Tramor am ragor o wybodaeth.  

Eich cyfrifoldeb chi yw cyrraedd mewn da bryd ar gyfer cofrestru yn y maes awyr ymadael.

Mae pob cwmni yn gyfrifol am yswirio eu nwyddau tra byddant yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.