Datblygu Eich Busnes Drwy Fasnach Ryngwladol - Cyflwyniad mewn Partneriaeth â'r Ffederasiwn Busnesau Bach
- Math o ddigwyddiad:
- In-Wales
- Dyddiad ac amser:
- -
- Dyddiad cau:
- 29 Medi 2026
- Lleoliad:
- Tramshed Tech
Event overview
Mae'r sesiwn ragarweiniol hon yn rhoi trosolwg ymarferol i fusnesau bach o sut y gall masnach ryngwladol helpu busnesau i dyfu. Bydd y sesiwn, a gyflwynir mewn partneriaeth â'r Ffederasiwn Busnesau Bach, yn archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael mewn marchnadoedd tramor, manteision allforio, a'r ystyriaethau allweddol i fusnesau sy'n cymryd eu camau cyntaf i faes masnach ryngwladol.
Mae Mynd yn Fyd-Eang wedi'i gynllunio ar gyfer perchnogion uchelgeisiol busnesau bach sy'n barod i ehangu y tu hwnt i farchnadoedd domestig a datgloi cyfleoedd newydd dramor.
Yn y sesiwn ymarferol bwrpasol hon, byddwch chi'n dysgu sut i ganfod y marchnadoedd rhyngwladol cywir ar gyfer eich busnes, ble i ddod o hyd i gymorth dibynadwy, a sut i symud ymlaen gydag eglurder a hyder. Byddwn yn rhannu profiadau y gellir eu rhoi ar waith mewn perthynas ag allforio, goresgyn heriau cyffredin, a gwneud i fasnach fyd-eang weithio i chi.
Ar ôl y seminar, cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn un-i-un yng nghwmni arbenigwr, a fydd yn gyfle i chi drafod eich nodau penodol a chael cyngor wedi'i deilwra.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly cofiwch fynd ati'n fuan i gadw eich lle rhag ichi gael eich siomi.
How to register
Recruitment now open!
Book online