Datblygu Syniad Newydd
Os ydych chi'n gweithio ar rywbeth newydd, boed hynny’n gynnyrch, gwasanaeth neu ffordd newydd o wneud pethau, gallwn eich helpu i'w siapio.
Mae datblygu syniad newydd yn aml yn dechrau gyda chwilfrydedd: problem rydych chi am ei datrys, bwlch rydych chi wedi'i weld, neu syniad na allwch roi'r gorau i feddwl amdano. Nid oes rhaid bod gennych yr atebion i gyd ar y cam hwn; mae'n ymwneud ag archwilio posibiliadau, deall eich opsiynau, a chael y gefnogaeth gywir i gymryd y cam nesaf.
P'un a ydych chi'n braslunio cysyniad, arbrofi gyda phrototeipiau neu'n archwilio arloesedd yn y cyfnod cynnar, bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i'r offer a'r canllawiau i ddod â'ch syniad yn fyw.
5 peth i feddwl amdanynt wrth ddatblygu syniad newydd
- Pa broblem mae eich syniad yn ei datrys?
Mae arloesedd gwych yn dechrau gyda deall yr angen neu'r cyfle. - Pwy fyddai'n elwa arno?
Mae meddwl am eich darpar ddefnyddwyr yn eich helpu i lunio a mireinio eich syniad. - Beth yw'r ffordd symlaf i'w brofi?
Mae braslun cyflym, prototeip sylfaenol neu beilot bach yn aml yn ddigon i ddysgu llawer. - Pa adnoddau allai fod eu hangen arnoch?
Cyllid a buddsoddiad, deunyddiau, sgiliau technegol a phartneriaid. Mae gwybod hyn yn gynnar yn eich helpu i gynllunio. - A yw eich syniad yn un y gallwch ei ddiogelu?
Gall eiddo deallusol fod yn bwysig ar gyfer rhai cysyniadau a gallwn ni roi arweiniad ichi.
Sut y gall Busnes Cymru helpu?
Nid oes rhaid i droi syniad newydd yn rhywbeth real deimlo'n llethol.
Gall Busnes Cymru eich cefnogi gyda:
- Chyngor 1:1 i'ch helpu i siapio, mireinio a phrofi eich syniad
- Canllawiau arloesi ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys llwybrau datblygu ar y dechrau
- Cymorth gyda phrototeipiau, dichonoldeb a phrofi cysyniad
- Cyngor ariannu o fenthyciadau cychwyn busnes i lwybrau cymorth arloesi
- Mewnwelediadau ar eiddo deallusol, nodau masnach a diogelu eich syniad
- Gweithdai ar gynllunio, cyflwyno a datblygu cynhyrchion newydd
Ein nod yw eich helpu i archwilio'ch syniad yn hyderus a deall yr hyn sy'n bosibl nesaf.
Eich cam nesaf
- Dechrau arni
Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod i ni pa gymorth rydych chi'n chwilio amdano. - Cofrestru
Rhowch ychydig o fanylion amdanoch chi a'r busnes rydych chi'n edrych i'w brynu i'n helpu i deilwra canllawiau ac adnoddau i chi. - Ymunwch â'n gweithdy "Dechrau Arloesi – O’r Syniad i Weithredu"
Adeiladu'r sgiliau i symud o syniad i weithredu. - Siarad â chynghorydd Busnes Cymru
Eglurwch eich syniad a chael arweiniad ar ddatblygiad cynnar. - Archwilio arloesedd a chymorth ymchwil a datblygu
Darganfyddwch pa lwybrau allai eich helpu i brofi neu ddatblygu eich cysyniad.
Beth bynnag rydych chi'n gweithio arno, rydyn ni yma i'ch helpu chi i'w adeiladu eich ffordd chi.
Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes
Cofrestrwch heddiw i ddarganfod sut y gallwn ni gefnogi eich taith i gychwyn busnes newydd.