Cefnogi newydd-ddyfodiaid i ffermio yng Nghymru
Mae Dechrau Ffermio wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i gamu ar yr ysgol ffermio. P'un a’i ydych chi'n edrych i ennill profiad ymarferol, dod o hyd i fenter ar y cyd, neu adeiladu eich busnes ffermio eich hun, mae Dechrau Ffermio yn cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra i'ch helpu i symud ymlaen yn hyderus.
Yr hyn sydd ar gael yw:
- Profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith strwythuredig gyda ffermydd sefydledig
- Gwasanaeth paru a hwyluso i helpu deiliaid tir a cheiswyr tir i archwilio mentrau ar y cyd a phartneriaethau busnes
- Datblygu cynllun - Cefnogaeth fusnes wedi'i hariannu'n llawn hyd at £2750 fesul partner i archwilio a phrofi hyfywedd busnes, datblygu cynllun busnes a'ch dealltwriaeth o fentrau ffermio cydweithredol.
- Lleihau risg - Cyllid o hyd at £2000 fesul partner tuag at gyngor arbenigol i ffurfioli cytundebau a chontractau cyfreithiol.
Mae cefnogaeth yn cael ei chyfateb i'ch anghenion - ni fydd pawb angen mynediad at bob elfen.
I bwy mae'r cynllun
Mae Dechrau Ffermio ar gyfer pobl sy'n adeiladu gyrfa yn y byd amaeth, newydd-ddyfodiaid sydd â mynediad cyfyngedig at dir, a rheiny sydd â diddordeb mewn dulliau cydweithredol neu fentrau ar y cyd.
Gwasanaeth Paru
Cliciwch ar y cyfleoedd a restrir isod i ddysgu mwy am berchennog y tir, y fferm, gofynion y rôl a’r potensial ar gyfer menter ar y cyd.
Cliciwch yma i gael eich cynnwys ar y rhestr bostio ac i gael gwybod pan fydd cyfleoedd newydd yn cael eu rhestru.
Cyfleoedd Mentrau ar y Cyd Cyfredol:
Lleoliad: Kington, Powys
Sector: Garddwriaeth
Tir: 100 erw
Cytundeb: Cyfle Ffermio Cyfran yn y Sector Garddwriaeth gyda Llwybr i Denantiaeth
Lleoliad: Pencader, Sir Gar
Sector: Defaid
Tir: 128 erw / 52ha
Cytundeb: Cytundeb ffermio cyfran
Lleoliad: Gogledd Sir Fynwy
Tir: 275 erw / 111 hectar
Da byw: 75 o wartheg bîff
Math o gytundeb: Menter ar y cyd