BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Cynorthwyo newydd-ddyfodiaid: Sut gwnaeth lleoliadau gwaith Dechrau Ffermio agor y drws i Nox

Ymunodd Nox Hannigan â chynllun lleoliad gwaith Dechrau Ffermio drwy Cyswllt Ffermio heb gefndir ffurfiol mewn amaethyddiaeth.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2026
Diweddarwyd diwethaf:
8 Medi 2026
Picture of Cheryl Reeves and Nox Hannigan

08/09/2026 

Cynorthwyo newydd-ddyfodiaid: Sut gwnaeth lleoliadau gwaith Dechrau Ffermio agor y drws i Nox 

Ymunodd Nox Hannigan â chynllun lleoliad gwaith Dechrau Ffermio drwy Cyswllt Ffermio heb gefndir ffurfiol mewn amaethyddiaeth. Er bod ganddo atgofion melys o helpu ar fferm ei daid a’i nain pan oedd yn blentyn, fe aeth ei lwybr gyrfa ag ef i gyfeiriad arall gan rannu ei amser rhwng swyddi yn yr awyr agored, gan gynnwys gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwaith wrth ddesg. Er hyn, teimlodd Nox dynfa gref tuag at weithio’n agosach gyda’r tir ac anifeiliaid, yn enwedig yn y diwydiant bîff.

Cynigiodd gynllun lleoliad gwaith Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio lleoliadau gwaith i unigolion ifanc a oedd yn chwilio am brofiad gwaith â thâl ar ffermydd masnachol yng Nghymru am gyfnodau hyd at 12 wythnos.  

Cafodd Nox ei leoli gyda Cheryl Reeves, mentor Cyswllt Ffermio sydd yn ffermwr profiadol sydd wedi arallgyfeirio ei fferm i ganolfan addysg agri-cation, Agi-cation CIC yn Wrecsam. Mae Cheryl yn frwd dros gynorthwyo unigolion nad ydynt o gefndir amaeth i gael mynediad i’r diwydiant, gan helpu i adeiladu dyfodol cryfach a fwy cynaliadwy i ffermio.  

Dros bron i 12 wythnos, fe wnaeth Nox ymrwymo i weithio o ddydd Mercher hyd at ddydd Sul gam ymdrochi’n llwyr ym mywyd y fferm o ddydd i ddydd. Yn ystod yr amser hwn, cafodd brofiad ymarferol ar draws ystod o dasgau, gan gynnwys:

  • Magu lloi: Dysgu am systemau dan do, arferion porthi, atal clefydau a lles anifeiliaid
  • Gofalu am dda byw: Cynorthwyo gyda rheoli geifr, defaid ac ieir
  • Gweithrediadau fferm: Cynorthwyo gyda thasgau cynnal a chadw a chynhaliaeth gyffredinol y fferm
  • Systemau fferm: Cyfrannu at ddatblygiad gweithdrefnau gweithredu safonol (SOP)  
  • Amlygiad i’r diwydiant: Ehangu ei wybodaeth drwy leoliad ar Fferm Woodcroft, gan ddyfnhau ei ddealltwriaeth o’r sector bîff

Darparodd y profiad gwahanol hwn sgiliau ymarferol a dealltwriaeth gadarn o arferion ffermio modern i Nox.

Effaith a chanlyniadau 
Gan fyfyrio ar ei brofiad, rhannodd Nox: “Rhoddodd sylfaen dda o wybodaeth a sgiliau ymarferol i mi adeiladu arnynt o fewn y sector amaeth.”

Cafodd y lleoliad effaith sylweddol ar ei hyder a chyfeiriad ei yrfa. Tynnodd sylw at ddau brif gyflawniad sef Twf Personol a Datblygiad Gyrfa.  
“I ddechrau, boddhad personol o ganfod rhywbeth rwy’n mwynhau ei wneud ac yr wyf yn dda am ei wneud.”

Llwyddodd Nox i gael cyflogaeth yn y sector amaeth yn dilyn ei leoliad. “Cefais swydd yn llwyddiannus ar draul y lleoliad. Cefais brofiad da yn ystod fy lleoliad ac roeddwn yn gallu cymryd rhan mewn pethau na feddyliais i byth y byddwn i’n eu gwneud.”

Pan ofynnwyd a wnaeth y rhaglen ei helpu i sicrhau ei rôl gyfredol, roedd Nox yn bendant, “Yn sicr, ni fyddwn wedi gallu cael y swydd hon heb leoliad Dechrau Ffermio, gan y rhoddodd yr holl sgiliau roedd fy nghyflogwr presennol yn chwilio amdanynt i mi a gadawodd i mi fwrw ati’n syth mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl heb brofiad fy lleoliad.”

Mae taith Nox yn dangos effaith trawsnewidiol y rhaglen Dechrau Ffermio. Gyda’r fentoriaeth gywir, profiad ymarferol ac amgylchedd dysgu cefnogol, gall unigolion o gefndiroedd nad yw’n gefndir traddodiadol bontio i amaeth yn llwyddiannus.

Trwy arweiniad Cheryl Reeves a chyfleoedd a ddarparwyd yn Agri-cation CIC, nid yn unig y gwnaeth Nox ennill sgiliau technegol gwerthfawr ond hefyd darganfuodd lwybr gyrfa boddhaus a chynaliadwy o fewn y diwydiant amaeth.  

Bydd cynllun lleoliad gwaith Dechrau Ffermio yn dychwelyd yn nhymor yr hydref, pan fydd cyfleoedd newydd ar gyfer lleoliadau gwaith ar gael.

Am ragor o wybodaeth ar y rhaglen Dechrau Ffermio ac i weld y cyfleoedd presennol sydd ar gael i newydd ddyfodiaid, edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio,

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.