BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Ceisiadau’n agor ar gyfer naw lleoliad gwaith Dechrau Ffermio ledled Cymru

Bydd ceisiadau'n agor ar 30 Tachwedd ar gyfer naw lleoliad gwaith â thâl gyda’r cynllun Dechrau Ffermio ledled Cymru, gan gynnig llwybr i’r sector amaethyddol i bobl o’r tu allan i’r diwydiant, y rhai nad ydynt yn dod o gefndir ffermio traddodiadol, neu sydd heb gael y cyfle i gael profiad ymarferol ar fferm. Mae’r lleoliadau’n cynnig cyfle i ddarpar ffermwyr ac unigolion sy’n ystyried newid gyrfa i ddatblygu sgiliau ymarferol, ennill profiad gwerthfawr o fewn y diwydiant a dysgu gan rai o fusnesau ffermio mwyaf blaenllaw Cymru.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd diwethaf:
25 Tachwedd 2026
Montage of people offering the work placements

Mae’r lleoliadau gwaith yn agored i unigolion 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru, ac yn rhedeg am isafswm o chwe wythnos. Maent yn cwmpasu ystod o sectorau, gan gynnwys llaeth, bîff, defaid a garddwriaeth. 

Beth mae cynllun Lleoliad Gwaith Dechrau Ffermio yn ei gynnwys? 

Eleni, mae naw cyfle ar gael sy’n cynnig profiad ar draws amrywiaeth o sectorau amaethyddol ledled Cymru. O ffermio bîff a defaid i’r sector llaeth i arddwriaeth, mae pob lleoliad gwaith yn cynnig y cyfle i ddysgu gan ffermwyr profiadol, meithrin sgiliau ymarferol a datblygu dealltwriaeth werthfawr o’r diwydiant trwy ddysgu’n ymarferol a rhannu profiadau.

Y Lleoliadau Gwaith 

Alex Crawley, Whitehall Yard, Trefynwy, Sir Fynwy - Bîff a Defaid 

Richard Roderick, Newton Farm, Aberhonddu, Powys - Bîff a Defaid 

Richard Tudor, Glanystwyth, Aberystwyth, Ceredigion - Bîff a Defaid 

Cheryl Reeves, Woodcroft, Wrecsam - Bîff 

Sam Pearson, Hendre Llwyn y Maen, Abergele, Conwy - Llaeth 

Rhidian Glyn, Rhiwgriafol, Machynlleth, Powys - Llaeth 

Sam Carey, Mathafarn, Machynlleth, Powys - Llaeth 

Eurig Jenkins, Pentrefelin, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion - Llaeth 

Adam Payne, Eithin Farm, Crymych, Sir Benfro – Garddwriaeth 

Manylion y lleoliadau 

Mae’r lleoliadau gwaith yn rhedeg am isafswm o chwe wythnos. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyflogi a’u talu gan y busnes sy’n cynnal y lleoliadau, tra’n ennill profiad ymarferol o fewn y diwydiant amaethyddol. Byddant hefyd yn cael mentora un i un gan ffermwyr profiadol ac yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau technegol gwerthfawr, yn ogystal â sgiliau busnes a rheoli da byw. 

Nox Hannigan, a gymerodd ran yn y cynllun blaenorol, sy’n rhannu ei brofiad...

Cefais swydd yn llwyddiannus ar draul y lleoliad. Cefais brofiad da yn ystod fy lleoliad ac roeddwn yn gallu cymryd rhan mewn pethau na feddyliais i byth y byddwn i’n eu gwneud.

- Nox Hannigan

Pan ymunodd Nox Hannigan â chynllun lleoliadau gwaith Dechrau Ffermio, nid oedd ganddo unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn amaethyddiaeth. Ar ôl gweithio mewn gwahanol swyddi, o wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i waith wrth y ddesg, cafodd ei ddenu at yrfa ym myd amaeth ac roedd ganddo ddiddordeb penodol mewn gweithio yn y sector bîff. 

Yn ystod ei leoliad gwaith ar Fferm Woodcroft gyda Cheryl Reeves, enillodd Nox brofiad ymarferol o fagu lloi, gan ddysgu am fwydo, cadw anifeiliaid dan do, lles anifeiliaid ac atal clefydau; gofalu am dda byw, gan gynorthwyo i reoli geifr, defaid ac ieir; gweithrediadau’r fferm, gan gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw a thasgau dyddiol; a systemau’r fferm, gan helpu i ddatblygu gweithdrefnau gweithredu safonol. Rhoddodd y lleoliad hefyd gipolwg gwerthfawr iddo i’r sector bîff. 

Cliciwch yma i ddarllen mwy am brofiad Nox. 

 

Neges gan Einir Davies, Pennaeth Dysgu Gydol Oes, Cenedlaethau'r Dyfodol ac Olyniaeth ar gyfer Cyswllt Ffermio

Mae Dechrau Ffermio yn ceisio agor y drws i bobl o’r tu allan i’r diwydiant amaeth, y rhai nad ydynt yn dod o gefndir ffermio traddodiadol, a’r rhai na fyddent fel arfer yn cael mynediad at waith ar ffermydd. Trwy gyfuno profiad ymarferol â thâl â mentora un i un gan ffermwyr profiadol, mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i feithrin sgiliau ymarferol, ac yn rhoi hyder a dealltwriaeth o waith yn y diwydiant. P’un a ydych ar ddechrau eich gyrfa neu’n ystyried newid cyfeiriad, mae hwn yn gyfle i gymryd y cam cyntaf hwnnw a dod â’ch profiadau a’ch brwdfrydedd eich hun i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Eich cais 

Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector amaethyddol ond nid ydych yn dod o gefndir ffermio traddodiadol, yn gweithio y tu allan i’r diwydiant ar hyn o bryd, neu heb gael y cyfle i gael profiad ymarferol ar fferm? Rydym yn croesawu ceisiadau’n arbennig gan bobl yn yr amgylchiadau hyn. 

Mae ceisiadau’n agored i unigolion 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant amaeth. 

Mae ceisiadau’n agor ddydd Llun 30 Tachwedd ac yn cau am 11:59pm ddydd Llun 4 Ionawr 2027. 

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma.

Cadwch mewn cysylltiad 

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y lleoliadau, cysylltwch â: 

Gogledd Cymru: Dafi Jones – dafi.jones@mentera.cymru  / 07538 405048 

Canolbarth a De-ddwyrain Cymru: Hannah Jones – hannah.jones@mentera.cymru  / 07931 300820 

De-orllewin Cymru: Eiry Williams – eiry.williams@mentera.cymru  / 07985 155670 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.