BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect symudedd cydweithredol i wrthsefyll cloffni - Adroddiad Terfynol

Canlyniadau allweddol:

  • Lleihau nifer yr achosion newydd o friwiau ar y rhan fwyaf o ffermydd sefydledig yn y prosiect
  • Derbyniad uchel o argymhellion yn seiliedig ar gynlluniau gweithredu ymarferol dan arweiniad y ffermwyr
  • Buddsoddiad mewn hyfforddiant y tu hwnt i argymhellion y grŵp
  • Cofnodi briwiau’n well
  • Dealltwriaeth o’r risgiau allweddol ar y fferm yn seiliedig ar y briwiau sy’n bresennol
  • Defnyddio mwy o feddyginiaeth lleddfu poen wrth adnabod a thrin gwartheg cloff 

Cefndir:  

Mae cloffni yn broblem fawr i ffermydd llaeth Cymru, gan effeithio ar les y gwartheg, economeg y fferm, yr ôl troed amgylcheddol, a chanfyddiad y cyhoedd o’r sector. Recriwtiodd y prosiect hwn bum ffermwr llaeth o Grŵp Trafod Llaeth y De-Orllewin a oedd eisiau uwchsgilio ym maes iechyd carnau a lleihau cloffni yn eu buchesi. Mae’r pum fferm i gyd yn ffermydd sy’n lloia ym mloc y gwanwyn yng Ngheredigion. Caiff Grŵp Trafod Llaeth y De-orllewin ei hwyluso gan Anna Bowen o’r Andersons Centre, sgoriwr symudedd achrededig RoMS. Ar gyfer y prosiect hwn, gweithiodd y ffermydd gyda’r milfeddyg a’r arbenigwr ar iechyd carnau, Dr Sara Pedersen.

 

Diben y gwaith:

  1. Gwerthuso lefel y cloffni yn y buchesi hyn a darganfod y prif friwiau sy’n gyfrifol am y cloffni
  2. Creu cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer pob fferm, gan amlygu’r prif bethau y gellid eu gwneud i leihau’r risg o gloffni yn y fuches
  3. Gweithio fel grŵp i ddarparu atebolrwydd ac i greu ffyrdd ymarferol o gyflawni’r cynllun gweithredu trwy ddysgu dan arweiniad ffermwyr

Beth wnaethon ni?  

Cafodd pob fferm ymweliad unigol gan Sara i gerdded o amgylch y fferm ac adolygu data tocio traed a sgoriau symudedd, os oedd y rhain ar gael. Yn ystod yr ymweliad, nododd Sara y prif risgiau ar gyfer cloffni ar bob fferm a gweithiodd gyda’r ffermwr i greu cynllun gweithredu o argymhellion er mwyn lleihau’r risgiau hyn. Yn nhymor y gwanwyn 2025, sgoriodd Anna Bowen symudedd pob buches i ddarparu darlun cymaradwy a chyfredol o bob un ohonyn nhw. Drwy’r prosiect, cynhaliodd pedair o’r pum fferm gyfarfod grŵp lle adolygwyd y cynllun gweithredu, a gweithiodd y ffermwyr gyda’i gilydd i ddarparu atebion ymarferol ar sut i’w weithredu. Crëwyd grŵp WhatsApp er mwyn cael atebolrwydd ac i rannu adnoddau. Cyflwynodd pob ffermwr gofnodion tocio traed drwy gydol y flwyddyn i’w dadansoddi. Cwblhaodd sawl un o aelodau’r grŵp gyrsiau tocio traed, a ariannwyd yn rhannol gan raglen Cyswllt Ffermio. Bydd pob fferm yn sgorio symudedd eto yng ngwanwyn 2026, ar ôl diwedd swyddogol y prosiect.

Canlyniadau:  

Pan sgoriwyd symudedd gyntaf, dangosodd fod y gyfradd o gyffredinolrwydd cloffni ar y ffermydd yn amrywio o ychydig o dan 20 i 30%. Mae hyn yn dda o’i gymharu â ffigurau’r diwydiant sy’n dangos bod traean o’r fuches genedlaethol yn gloff ar unrhyw ddiwrnod. Dylid nodi, gan mai buchesi sy’n lloia yn y gwanwyn yw’r rhain i gyd, y gall cloffni fod yn dymhorol, a bod gwahaniaethau amlwg i’w gweld wrth eu cadw dan do, pan fo’r llwybrau’n wlyb ac yn fwdlyd yn y tymor o newid, a phan gaiff y gwartheg eu sychu. Yn gadarnhaol iawn, nid oedd unrhyw wartheg ar ddwy o’r pum fferm sgôr o 3 – gwartheg cloff iawn.

Roedd nifer y camau a gymerwyd yn uchel ar draws y grŵp, gyda’r mwyafrif wedi’u cwblhau erbyn diwedd y prosiect neu wedi’u cynllunio ar gyfer gwanwyn/haf 2026. Roedd y rhain yn cynnwys gosod astroturf, newid protocolau ynghylch trin gwartheg cloff, a chwblhau cyrsiau tocio traed.

Ni fydd canlyniadau blwyddyn gyntaf y gwaith hwn yn dangos effaith lawn y prosiect – bydd angen i bob buches gwblhau’r cylch llawn o sychu, lloia, a mynd yn ôl i borfa cyn i’r gweithredoedd fod o fudd. Serch hynny, casglwyd data ar friwiau a dechreuwyd adeiladu darlun. Mae’n bwysig nodi mai un o’r canlyniadau oedd bod y ffermwyr yn cofnodi data yn well – felly, efallai nad yw cynnydd mewn un math o friw yn adlewyrchu cynnydd mewn cloffni, ond yn hytrach gwelliant o ran cofnodi achosion.

Dyma rai o’r llwyddiannau;

  • Lleihau achosion o glefyd y llinell wen o 24% o’r fuches i 16% ar gyfer Fferm A.
  • Dechreuodd Fferm B gofnodi data, a llwyddiant mwy fyth ar y fferm hon yw gweithredu system sgorio symudedd fisol yn y ddwy uned ffermio, gydag aelodau o’r tîm yn sgorio gwartheg ei gilydd.
  • Adroddodd Ffermydd A, C, a D ostyngiad yn y ganran o achosion newydd o gloffni yn y fuches, sy’n dangos bod y camau gweithredu yn atal gwartheg rhag mynd yn gloff. Nid yw hyn yn cael ei ddangos ar gyfer Fferm B, sydd yn y flwyddyn gyntaf o gofnodi, nac ar gyfer Fferm E, a oedd â buches ifanc iawn o wartheg yn 2024.
  • Cofnodwyd briwiau yn well ar Fferm D yn 2025, gyda’r traed yn cael eu harchwilio bob mis a’r achosion yn cael eu cofnodi. Yn gyffredinol, cafwyd llai o achosion o glefyd y llinell wen yn 2025 nag yn 2024.
  • Fe wnaeth niferoedd yr achosion o glefyd y llinell wen fesul mis leihau ar gyfer Fferm C wrth i aeaf 2025 fynd rhagddo.
  • Cafwyd llai o achosion newydd a rhai ailadroddus o ddermatitis digidol ar Fferm C.
  • Dangosodd buches Fferm A ostyngiad enfawr yn nifer yr achosion newydd o glefyd y llinell wen; roedd bron pob un o’r achosion yn rhai ailadroddus yn 2025, sy’n awgrymu nad yw’r gwartheg iach yn mynd yn gloff oherwydd hyn.

 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm?  

  1. Dylid cynnal ymarfer sgorio symudedd arferol gyda sgoriwr sydd wedi’i achredu gan RoMS.  
  2. Dylid olrhain achosion newydd ac achosion ailadroddus o glefyd y llinell wen, dermatitis digidol, ac wlserau’r gwadn – nid pob achos yn unig.  
  3. Dylid gweithio gyda Mentor Symudedd i ddod o hyd i brif risgiau cloffni ar eich fferm, yn benodol i’r math o friwiau a nodwyd – e.e. os nad yw wlserau’r gwadn yn broblem, mae’n annhebygol y bydd addasu’r rhwystr bwydo yn flaenoriaeth.  
  4. Dylid mynd i’r afael â’r pethau a ddaw â buddion yn gyflym a defnyddio ffermwyr eraill a gweithwyr proffesiynol y diwydiant i ddarparu atebolrwydd.  
  5. Dylid buddsoddi mewn hyfforddiant tocio traed ar gyfer tîm y fferm.  

Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech gael copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.