BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ein Ffermydd – Prosiectau Grwpiau Trafod

Ydych chi’n rhan o grŵp trafod sy’n dymuno cydweithio ar arbrawf ar y fferm yn y tymor byr sydd wedi’u cynllunio ar y cyd?

Prosiectau Grwpiau Trafod

Mae prosiectau grwpiau trafod Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfle i grwpiau trafod gydweithio ar arbrofion ar y fferm sydd o ddiddordeb arbennig iddyn nhw a’r sector amaethyddol ehangach yng Nghymru trwy gyd-fynd â’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Mae'r ffenest ymgeisio ar agor NAWR ac yn cau hanner nos 29/11/2026. 

 

Sut i gymryd rhan 

Mae cyfnod ymgeisio ar agor ar hyn o bryd i Grwpiau Trafod ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd i gynnal arbrawf ar y fferm gyda'i gilydd i fynd i'r afael â materion cyffredin, profi atebion ymarferol, a chyflawni canlyniadau sydd o fudd i'w hardal leol neu'r sector ehangach.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Sul 29 Tachwedd 2026. 

Beth sydd ar gael?  
Dyma gyfle cyffrous i gefnogi eich syniad ar gyfer arbrawf tymor byr, lle bydd aelodau'r grŵp yn cael cymorth a chyllid i gynnal arbrawf sy'n cymharu er enghraifft datrysiad ymarferol neu driniaeth A â'r ffordd bresennol o weithio neu driniaeth B (rheolaeth). 

Mae meini prawf cymhwysedd a chyllid penodol yn amlinellu'r hyn y gellir a'r hyn na ellir ei gefnogi. Gellir dod o hyd i fanylion llawn o dan ‘Ar gyfer beth all y cyllid gael ei ddefnyddio?’ 

Pwy all wneud cais?  
Unrhyw Grwpiau Trafod neu grwpiau Agrisgôp ledled Cymru, sy’n cwmpasu pob sector, thema a phwnc. I fod yn gymwys, rhaid i Brosiect y Grŵp Trafod: 

  • Fod ag o leiaf 5 ffermwr yn cymryd rhan yn yr arbrawf 
  • Rhaid i bob aelod fod wedi ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy RPW ar-lein cyn cyflwyno'r cais. 
  • Rhaid bod grwpiau Trafod a grwpiau Agrisgôp nad ydynt yn rhan o Cyswllt Ffermio wedi'u ffurfio a’u bod wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd (o leiaf 4 cyfarfod y flwyddyn) ers dros 12 mis. 
  • Eisoes wedi sicrhau cyllid arall i barhau â chyfarfodydd rheolaidd y grŵp trafod (o leiaf 4 cyfarfod yn ystod oes y prosiect) heb unrhyw gost ychwanegol i Brosiect y Grŵp Trafod. 

Noder bod y cyfle hwn ar gael i Grwpiau Trafod a Grwpiau Agrisgôp Cyswllt Ffermio ond hefyd i Grwpiau Trafod nad ydynt yn rhan o Cyswllt Ffermio. 

Mae Grwpiau Trafod a dderbyniodd gyllid yn y rhaglen Cyswllt Ffermio flaenorol yn gymwys i gael cyllid. 

Os ydych chi'n brif ymgynghorydd neu'n hwylusydd ar gyfer mwy nag un Grŵp Trafod / Grŵp Agrisgôp, rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys mwy nag un grŵp sy'n canolbwyntio ar yr un thema/pwnc. 

Nid oes uchafswm o ran nifer yr aelodau a all fod yn rhan ar draws un neu fwy o grwpiau trafod.

 

Pam cymryd rhan? 

Mae Prosiectau Grŵp Trafod Rhwydwaith Ein Ffermydd blaenorol wedi darparu cymorth i ffermwyr a thyfwyr i edrych ar faterion ymarferol sy'n berthnasol i'r grŵp wrth ganolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau a/neu gyfleoedd lleol a hyrwyddo cydweithio ac arloesedd.

Dyma ychydig o enghreifftiau o'r manteision a welodd aelodau'r grŵp trafod o fod yn rhan o Brosiectau Grŵp Trafod blaenorol:   

 

Prosiect 1: Rheoli ac atal mastitis clinigol ac is-glinigol 

Er bod pob fferm a oedd yn rhan o'r prosiect wedi gweld budd, gwelodd un fferm ostyngiad yn nifer yr achosion o fastitis o dros 100 o achosion fesul 100 o fuchod ym mis Ionawr 2024 i 40 o achosion fesul 100 o fuchod ym mis Rhagfyr 2024. Pe bai'r ffigurau hynny'n parhau, byddai hyn yn ostyngiad o 730 o achosion i 292 ac ar gost o £314 fesul achos, mae hyn yn arbediad blynyddol posibl o £137,532. 

 

Prosiect 2: Rheoli llyngyr yr iau ar y fferm – Profwch, peidiwch â dyfalu 

Datganodd 100% o ffermwyr a gymerodd ran yn y prosiect welliant yn eu gwybodaeth am ardaloedd sydd â risg o lyngyr yr iau sy'n benodol i'w fferm. Bydd 90% yn defnyddio'r prawf llif unffordd ochr yn ochr â'r wybodaeth hon ar gyfer rheoli llyngyr yn y dyfodol ar eu fferm. 

 

Prosiect 3: Prosiect uwchsain thorasig ar y fferm 

Drwy gydol y cyfnod astudio, roedd gan loi â sgoriau briwiau annormal ar yr ysgyfaint gyfraddau twf is ar gyfartaledd o 0.17 kg/dydd o'i gymharu â lloi â sgoriau briwiau arferol ar yr ysgyfaint. Tynnodd y prosiect sylw at y ffaith y gall sganio uwchsain thorasig fod yn offeryn defnyddiol i asesu clefydau resbiradol buchol ar y fferm, gweithredu fel offeryn rheoli ar gyfer dewis heffrod cyfnewid a chynorthwyo penderfyniadau gyda defnydd gwrthficrobaidd. 

Mae rhagor o fanylion am brosiectau blaenorol y Grŵp Trafod i'w gweld yma. 

 

Ar gyfer beth y gellir defnyddio'r cyllid? 

Rhaid i brosiectau gyd-fynd ag o leiaf un weithred gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac o leiaf un o ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy i fod yn gymwys i gael cyllid.

 

Gweithgareddau cymwys 

  • Llogi offer arbenigol hanfodol i gynorthwyo gyda rhedeg y prosiect h.y. offer hanfodol sydd ei angen ar gyfer casglu / dadansoddi data 

  • Cyngor technegol - i sicrhau bod y gweithgaredd cywir yn y lle cywir i gael y canlyniadau gorau 

  • Adrodd ar gerrig milltir y prosiect – gweithgareddau i ddangos canlyniadau’r camau gweithredu cydweithredol, drwy fonitro’r effeithiau, sicrhau bod asesiad sylfaenol ar waith cyn cymryd camau gweithredu a mesur y newidiadau dilynol 

  • Amser arbenigwyr (e.e. ymgynghorwyr neu wyddonwyr) ar gyfer sefydlu prosiectau, cymryd mesuriadau, casglu data ac ysgrifennu adroddiadau  

  • Sylwer y bydd ceisiadau sydd â rhaniad teg rhwng costau’r arbrawf a chost ymgynghori yn cael eu sgorio'n uwch. Fel canllaw, rydym yn chwilio am geisiadau gydag o leiaf 65% o gyfanswm y costau wedi'u dyrannu i gostau’r arbrawf (triniaethau / samplu / llogi offer ac ati) ac uchafswm o 35% o gyfanswm y costau wedi'u dyrannu i ymgynghoriaeth / cyngor arbenigol. Wrth gyfrifo eich costau, os oes angen mwy na 35% ar gyfer ymgynghoriaeth / cyngor arbenigol, efallai yr hoffech ystyried a allai'r Grwpiau Gweithredu Busnes neu Dechnegol o dan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio fod yn fwy addas ar gyfer nod y grŵp. 

Costau cymwys 

  • Costau contractwyr ar gyfer llafur a defnyddio offer 

  • Costau uniongyrchol i gynnal unrhyw arbrofion ffisegol penodol sy'n angenrheidiol fel rhan o'r prosiect. Gall hyn gynnwys llogi offer / cyfleusterau arbenigol a chyllid ar gyfer gweithrediadau ansafonol 

  • Nwyddau traul ar gyfer ymgymryd â gweithgarwch arbrawf neu brosiect (e.e. hadau arbenigol, potiau samplu, ac ati) 

  • Costau dadansoddi a samplu rhesymol (e.e. porthiant, pridd, gwaed a meinweoedd) 

Costau anghymwys 

Disgwylir i'r ffermwyr sy'n cymryd rhan ddarparu eitemau megis tir, stoc a’u hamser heb unrhyw gost i'r prosiect. 

Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad yw'n gymwys o dan gyllid Prosiect y Grŵp Trafod. Nid rhestr derfynol yw hon, a bydd pob eitem o wariant yn cael ei hystyried fesul achos: 

  • Amser yr arbenigwr / hwylusydd ar gyfer ysgrifennu'r cais a threfnu a chynnal cyfarfodydd Grŵp Trafod parhaus 

  • Costau cyfarfod / lleoliad 

  • Costau teithio a chynhaliaeth i ffermwyr sy'n cymryd rhan ac arbenigwr/hwylusydd 

  • Ar gyfer buddsoddiadau tymor hwy mewn daliadau amaethyddol h.y. prynu anifeiliaid, tir, adeiladau, rhent 

  • Cyfalaf gwaith neu unrhyw golled ariannol a gafwyd o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect 

  • Unrhyw wariant a ysgwyddwyd cyn i'r prosiect cymeradwy ddechrau heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Cyswllt Ffermio 

  • Unrhyw gostau nad ydynt yn uniongyrchol ac yn gyfan gwbl gysylltiedig â gweithredu'r prosiect 

  • Costau llafur ac offer eich hun 

  • Costau cynnal a chadw neu atgyweirio 

  • Tirlunio, gwaith addurniadol, a darpariaeth amwynderau 

  • Argyfyngau 

  • TAW y gellir ei hawlio'n ôl 

  • Eitemau cyfalaf (e.e. cloriannau pwyso, offer mesur, offer dadansoddol, dronau, peiriannau gwerthu, ac ati) - lle y bo modd bydd angen llogi eitemau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect. 

 

Cyllid a thaliadau 

Mae hyd at £12,000 (ac eithrio TAW) ar gael fesul cais prosiect Grŵp Trafod.  

Efallai y bydd prosiectau nad ydynt yn defnyddio'r holl gyllid sydd ar gael yn sgorio'n uwch o ran gwerth am arian. 

Nid oes angen cyllid cyfatebol. 

Bydd Cyswllt Ffermio yn gyfrifol am elfennau ariannol y prosiect. Dim ond pan fydd Cyswllt Ffermio yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi digwydd a bod y gwaith wedi'i gwblhau yn unol â'r cynllun, a bod adroddiad llawn wedi'i gyflwyno, y telir hawliadau. Gwneir taliad cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad derbyn yr anfoneb gyda'r adroddiadau ategol gofynnol ac ati, fel y cytunwyd yn y cynllun wrth ddyfarnu'r prosiect. 

 

Sut i wneud cais? 

Bydd ceisiadau am fynegiant o ddiddordeb yn agor o 10am 28 Medi 2026. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd hanner nos, ddydd Sul 29 Tachwedd 2026. 

Ffurflen gais

 

Cwblhau'r ffurflen gais 

Dylai arweinydd y prosiect/grŵp trafod sy'n cyflwyno'r grŵp gwblhau’r ffurflen gais. Fodd bynnag, dylai aelodau'r grŵp gytuno ar bob cais am gyllid ar gyfer prosiect y grŵp trafod cyn ei gyflwyno – gyda manylion adnabod (enw llawn, cyfeiriad, e-bost, rhifau CPH a CRN) yr holl aelodau sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn ofynnol yn y ffurflen gais. 

 
Cynhelir gweminar gychwynnol rhwng 8:30am a  9:00am ar 7 Hydref 2026: Gweminar Prosiectau Grŵpiau Trafod / Discussion Groups Projects Webinar | Join meeting in Teams | Microsoft Teams 



I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.