Canfyddiadau allweddol
- Dangosodd caeau â chnydau âr lefelau pH a maetholion mwy optimaidd na glaswelltir.
- Ni wnaeth arferion cnydio dwys arwain yn awtomatig at fioleg y pridd wael.
- Roedd gan gaeau a ystyriwyd gan ffermwyr fel rhai sy’n ‘perfformio’n wael’ lai o fiomas microbaidd a chemeg isoptimaidd.
- Mae cnydau tatws wedi achosi cryn ddisbyddiad o faetholion – mae angen cynllun maetholion manwl gywir ar gyfer y cnydau dilynol.
- Mae cnydau a heuwyd yn y gaeaf yn cynnig mwy o gydnerthedd i’r hinsawdd na chnydau’r gwanwyn.
- Mae’r dystiolaeth a gynhyrchwyd yn cefnogi’r angen i fesur, rheoli a monitro iechyd y pridd ar gyfer cynlluniau sicrwydd fferm.
Trosolwg o’r prosiect
- Samplwyd 8 cae ar 12 fferm (Sir Benfro, mis Mai 2025)
- Casglwyd cofnodion llawn ar sut y rheolwyd y caeau
- Cafwyd dadansoddiad trwy adroddiad Iechyd y Pridd Sbectrwm Eang Lancrop Laboratories
- Cyfrifwyd Sgôr Asesu Iechyd y Pridd (SAS) allan o 100 gan ddefnyddio metrigau biolegol, cemegol a ffisegol.
Canlyniadau

Ffigur 1: Deunydd Organig y Pridd (SOM) ar gyfer priddoedd tir âr a glaswelltir a dderbyniwyd gan Lancrop Laboratories, gyda’r Grŵp tir âr mewn glas tywyll.
Roedd gan y caeau glaswellt fiomas microbaidd sylweddol uwch; ond i’r gwrthwyneb, roedd gan y caeau âr Sgôr Asesiad Pridd sylweddol uwch (Tabl 1). Mae’n debyg bod hyn yn gysylltiedig â’r sylw manylach a roddir i fanylion wrth galchu a rheoli maetholion wrth hau cnydau âr bob blwyddyn, gan fod tua 53% o’r caeau glaswellt yng Nghymru yn dangos gwerthoedd pH isoptimaidd (Cyswllt Ffermio, 2024).
Tabl 1: Cymhariaeth rhwng caeau âr a chaeau glaswellt
| Tir âr n=77 | Glaswellt n=16 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 163 | 215 | <0.001 *** |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3622 | 4758 | <0.001 *** |
Sgôr Asesiad Pridd | 82 | 74 | <0.001 *** |
Wrth i samplau pridd gael eu cymryd yng nghanol mis Mai, gallai’r tarfu mwy diweddar ar bridd ar gyfer cnydau’r gwanwyn fod yn rheswm dros fiomas microbaidd sylweddol is y pridd (Tabl 2).
Tabl 2: Cymhariaeth rhwng caeau â chnydau yn y gaeaf a chnydau yn y gwanwyn
| Cnwd yn y gaeaf n = 50 | Cnwd yn y gwanwyn n=27 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 167 | 151 | 0.029 * |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3713 | 3347 | 0.029 * |
Sgôr Asesiad Pridd | 82 | 81 | |
Mae lleihau unrhyw darfu ar y pridd trwy ddefnyddio peiriant tyrchu ‘un daith’ (one-pass cultivator) bellach yn arfer gyffredin yn hytrach na throi’r pridd ag aradr. Dangosodd y caeau a gafodd eu trin yn y gwanwyn fwy o fiomas microbaidd na chaeau a gafodd eu haredig (Tabl 4); i’r gwrthwyneb, roedd gan gaeau a gafodd eu trin yn y gaeaf lai o fiomas microbaidd na chaeau a gafodd eu haredig (Tabl 3).
Tabl 3: Caeau â chnydau yn y gaeaf a gafodd eu haredig a’u trin cyn lleied â phosibl
| Aredig n=11 | Trin cyn lleied â phosibl n=42 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 176 | 164 | 0.067 |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3908 | 3642 | 0.067 |
Sgôr Asesiad Pridd | 83 | 82 | |
Tabl 4: Caeau â chnydau yn y gwanwyn a gafodd eu haredig a’u trin cyn lleied â phosibl
| Aredig n=3 | Trin cyn lleied â phosibl n=19 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 128 | 154 | 0.075 |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 2852 | 3423 | 0.075 |
Sgôr Asesiad Pridd | 81 | 82 | |
Gwyddys bod ymgorffori tail anifeiliaid a da byw mewn cylchdroadau tir âr yn fuddiol i iechyd y pridd ac yn arwain at lefelau uwch o ddeunydd organig. Mae Tabl 5 yn cymharu caeau sy’n derbyn tail yn rheolaidd â chaeau nad ydynt byth yn derbyn tail. Er bod lefel y deunydd organig a’r biomas microbaidd yn uchel gyda thail, nid ydynt yn sylweddol felly. Mae hyn yn awgrymu bod ffermwyr hollol tir âr yn defnyddio arferion eraill, megis ymgorffori gwellt wedi’i dorri a defnyddio cnydau gorchudd yn y cylchdro, i gynnal iechyd y pridd.
Tabl 5: Gwasgaru tail
| Yn rheolaidd n=29 | Byth n = 26 | Gwerth p *p<0.05 |
Deunydd Organig (%) | 5.4 | 4.6 | 0.180 |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3777 | 3213 | 0.132 |
Sgôr Asesiad Pridd | 82 | 80 |
|
Mae mewnforio tail buarth lle mae anifeiliaid wedi’u rhoi ar ddeunyd gorwedd o wellt a fewnforiwyd hefyd yn dod â’r risg bioddiogelwch ychwanegol o gyflwyno hadau chwyn fel glaswellt du i gylchdro tir âr. Mae hyn, wedyn, yn gofyn am wariant ychwanegol ar fesurau rheoli fel symud i gnwd yn y gwanwyn a chwistrellau chwynladdwyr ychwanegol.
Er y credir bod defnyddio lefelau uchel o wrtaith N yn niweidiol i iechyd y pridd, ac yn gysylltiedig ag asideiddio priddoedd, yn yr achos hwn, mae wedi arwain at fiomas microbaidd sylweddol uwch (Tabl 6). Gall hyn fod yn gysylltiedig â chynhyrchu canopi cnwd iach a ffyniannus uwchben y ddaear sy’n hyrwyddo mwy o ffotosynthesis. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at fwy o gapasiti gwreiddio, mwy o archwys gwreiddiau, a mwy o risosffer a biota o dan y ddaear.
Tabl 6: Gwasgaru nitrogen
| Uchel n=48 | Isel n=29 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 169 | 152 | 0.050* |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3737 | 3383 | 0.050* |
Sgôr Asesiad Pridd | 83 | 80 |
|
Ymchwiliwyd hefyd i effaith tyfu tatws mewn cylchdro tir âr ar iechyd y pridd, ac er bod y biomas microbaidd ychydig yn is mewn caeau a dyfodd datws yn ystod y pum mlynedd diwethaf, roedd Sgôr yr Asesiad Pridd yn sylweddol is (Tabl 7). Mae tatws yn tynnu llawer o faetholion o’r pridd, a gallai hyn adlewyrchu’r sylw cynyddol sydd ei angen wrth reoli maetholion i ailgyflenwi cronfeydd y pridd o ffosffad a photash.
Tabl 7: Caeau lle tyfwyd tatws 3–5 mlynedd yn ôl
| Tatws n = 10 | Dim tatws n=67 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 144 | 164 | 0.09 |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3201 | 3644 | 0.09 |
Sgôr Asesiad Pridd | 77 | 82 | 0.039* |
Gofynnwyd i ffermwyr enwebu caeau a oedd yn gyson yn perfformio’n wael ar eu ffermydd. Canfuwyd bod gan y caeau hyn fiomas microbaidd a Sgoriau Asesiad Pridd sylweddol is o’u cymharu â gweddill y caeau a samplwyd (Tabl 8).
Tabl 8: Perfformiad hanesyddol y caeau
| Da n=63 | Gwael n=14 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 165 | 147 | 0.046* |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3668 | 3272 | 0.046* |
Sgôr Asesiad Pridd | 83 | 78 | 0.032* |
Nodwyd yr un duedd hefyd o ran y cnwd o’r caeau, gyda chnwd uwch na’r cyfartaledd yn sgorio’n uwch ar gyfer biomas microbaidd a Sgôr Asesiad Pridd (Tabl 9).
Tabl 9: Cnwd
| Uchel n=39 | Isel n=31 | Gwerth p *p<0.05 |
Solvita burst CO2 (ppm) | 166 | 157 | 0.571 |
Biomas microbaidd (mg / kg) | 3691 | 3484 | 0.571 |
Sgôr Asesiad Pridd | 83 | 81 | 0.483 |
Mae defnyddio’r set hon o brofion y Soil Health Suite a’u rhoi ar waith i gymharu camau rheoli ar amrywiol ffermydd, caeau a chnydau wedi darparu adnodd gwerthfawr i’r ffermwyr dan sylw. Bydd ailadrodd y profion hyn bob 4–5 mlynedd hefyd yn caniatáu i gaeau gael eu meincnodi dros amser ar gyfer eu cynnwys maethol ac elfennau hybrin, ynghyd â deunydd organig y pridd a’r carbon a atafaelir.
Casgliad
Mae’r asesiad pridd manwl hwn wedi darparu gwybodaeth werthfawr am ymarferoldeb priddoedd o dan wahanol arferion rheoli. Mae’n cynnwys prawf ar gyfer Deunydd Organig, a ddefnyddir i asesu iechyd y pridd sy’n ofynnol gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae’r dadansoddiad yn helpu i gydymffurfio â safonau sicrwydd fferm fel LEAF Marque ar gyfer mesur a monitro iechyd y pridd.
Y tu hwnt i fodloni gofynion rheoleiddiol, mae Sgôr Asesiad Pridd yn cynnig offeryn meincnodi ymarferol ac effeithlon i ffermwyr, gan ganiatáu iddynt dargedu gwelliannau ar gyfer cydbwysedd maethol. Mae’r darnau hyn o wybodaeth yn helpu i optimeiddio perfformiad cnydau, lleihau gwastraff o ran mewnbynnau, ac adeiladu cydnerthedd yn erbyn amrywioldeb yr hinsawdd. Mae hyn oll yn gwneud monitro iechyd y pridd yn elfen hanfodol o systemau cynhyrchu cynaliadwy.