Disgrifiad o’r canllawiau
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar y fframwaith gwrthweithio osgoi ar gyfer ardrethi annomestig (ardrethi busnes). Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.
Dylid anfon ymholiadau bilio i’r awdurdod lleol perthnasol. Mae manylion cyswllt yr awdurdodau lleol i’w gweld ar wefan Busnes Cymru.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r canllawiau hyn i: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
Mae rhagor o wybodaeth am ardrethi annomestig ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Amcangyfrifwyd cyn hyn fod graddfa’r achosion o osgoi ardrethi annomestig, drwy amrywiol ddulliau, yng Nghymru yn golygu colli gwerth o leiaf £10 miliwn i £20 miliwn o refeniw y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i ragor na 1 i 2% o’r incwm a geir o ardrethi annomestig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r cyfleoedd sydd i osgoi’r atebolrwydd i dalu yn y system ardrethi annomestig.
Mae adrannau 63F i 63M o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn sefydlu fframwaith gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol i wrthweithio manteision treth a gafwyd drwy drefniadau artiffisial i osgoi’r atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig. Osgoi’r atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig neu leihad yn yr atebolrwydd hwnnw yw mantais, a gall hyn ddigwydd yn ystod trefniant neu’n dilyn y trefniant. Rhaid bod mantais o’r fath er mwyn i drefniant osgoi artiffisial fodoli o dan y fframwaith.
Mae llawer o’r trefniadau mwyaf hysbys ar gyfer osgoi ardrethi annomestig yn dibynnu ar ymelwa ar y diffiniad o feddiannaeth lesiannol a sefydlwyd drwy gyfraith achosion. Nod trefniadau o’r fath yn aml yw ailosod cymhwystra ar gyfer rhyddhad eiddo gwag, pan geir y fantais o leihad mewn atebolrwydd yn dilyn cyfnod o feddiannaeth. Mae manteision eraill hefyd yn bosibl (e.e. os yw’r meddiannydd yn gymwys i gael rhyddhad arall neu’n gwneud trefniant i atal y taliad rhag cael ei gasglu).
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi yn golygu ei bod yn bosibl i Lywodraeth Cymru ddiffinio trefniadau osgoi yr ystyrir eu bod yn gyfystyr â meddiannaeth artiffisial, fel y gellir gwrthweithio’r manteision a gafwyd. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 yn rhoi effaith i’r fframwaith drwy ddiffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial y mae’n eu gwrthweithio, o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi yn gwrthweithio ystod o drefniadau osgoi artiffisial sy’n dod o fewn pedwar math eang.
Mae trefniadau yn aml yn cynnwys cytundebau tenantiaeth neu les sydd wedi’u cynllunio i’w gwneud yn bosibl i’r atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig gael ei osgoi. Mae gan drefniadau o’r fath amrywiaeth o nodweddion cyffredin sy’n eu gwneud yn wahanol i gytundebau dilys yr ymrwymir iddynt am resymau masnachol gwirioneddol. Gallai cytundeb am feddiannaeth nad yw ar sail fasnachol fod yn drefniant osgoi ynddo’i hun, neu gall fod yn nodwedd o fath arall o drefniant osgoi.
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi yn gwrthweithio pedwar trefniant penodol o’r math hwn. Ym mhob achos, mae’r trefniant yn un artiffisial pan fo’n gwneud person (“P”) yn feddiannydd yr eiddo nad yw’n cael ei feddiannu ar sail fasnachol oherwydd bod yr amgylchiadau penodedig yn berthnasol.
Yn y trefniant cyntaf, nid yw’n ofynnol i P dalu am feddiannu’r eiddo. Mae lesoedd sy’n cynnwys cymalau rhent lle na fwriedir i’r taliad gael ei hawlio na’i wneud yn ofynnol wedi bod yn nodweddion o achosion o osgoi a nodwyd. Byddai disgwyl i unrhyw gytundeb masnachol ar gyfer meddiannaeth wirioneddol ei gwneud yn ofynnol bod rhent yn cael ei dalu. Adlewyrchir hyn yn yr arfer sefydledig o ddefnyddio rhenti’r farchnad ar gyfer eiddo tebyg fel y sail ar gyfer asesu gwerthoedd ardrethol at ddibenion ardrethi annomestig.
Yn yr ail drefniant, mae’r taliad y mae’n rhaid i P ei wneud ar gyfer meddiannu’r eiddo yn sylweddol is na’r lefel y gellid yn rhesymol fod wedi’i chyrraedd ar y farchnad agored ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant, neu mae’n cael ei wrthbwyso neu ei ganslo (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) gan drafodiadau eraill. Pan fo angen talu, mae rhent minimol neu ‘rhent hedyn pupur’ wedi cael ei nodi fel nodwedd o gyfraith achosion amlwg sydd wedi bod yn sail i arferion osgoi eang. At hynny, mae taliadau ar wahân i’r ‘tenant’ oddi wrth y landlord am wasanaethau er mwyn ei gwneud yn bosibl i osgoi atebolrwydd yn aml yn gwrthbwyso neu’n rhagori ar y rhent a delir.
Yn y trydydd trefniant, mae un neu ragor o bartïon iddo (gan gynnwys darparwr gwasanaethau sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig) wedi nodi bod lliniaru atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig fel diben neu ysgogiad. Ystyrir bod lliniaru ardrethi yn derm sydd, yn ymarferol, yn cyfeirio at drefniadau osgoi artiffisial sy’n ceisio ymelwa ar ddiffygion mewn deddfwriaeth a chanlyniad cyfraith achosion. Mae nod trefniant sy’n sicrhau meddiannaeth at ddibenion lliniaru ardrethi yn aml i'w canfod mewn cytundebau les, neu ar wefannau darparwyr trydydd parti sy’n mynd ati yn agored i hysbysebu’r gwasanaethau lliniaru ardrethi a gynigir ganddynt.
Yn y pedwerydd trefniant, nid oes gan P yr asedau a fyddai’n ei alluogi i ddefnyddio’r eiddo yn y modd a hawlir. Mae hyn yn golygu na all yn wirioneddol feddiannu a defnyddio’r eiddo at y diben a nodwyd. Mae meddiannydd heb unrhyw briodoleddau busnes (e.e. dim cofnod Tŷ’r Cwmnïau sy’n cynnwys y staff a’r asedau y byddai eu hangen) yn nodwedd o rai trefniadau osgoi a nodwyd yn flaenorol.
Ystyrir bod pob un o’r trefniadau o’r math hwn yn artiffisial ar y sail nad yw’n ffordd resymol o weithredu oherwydd nad oes iddo sylwedd economaidd na masnachol (ac eithrio cael y fantais o osgoi neu leihau’r atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig). Mae nodweddion y trefniadau hyn yn dangos nad oes bwriad i’r feddiannaeth wneud defnydd masnachol gwirioneddol o’r eiddo. Felly, ystyrir eu bod yn ddangosyddion cryf o weithgarwch osgoi.
Mae rhai trefniadau osgoi cymharol soffistigedig yn ymwneud â phrydlesu eiddo i ‘gyfryngau at ddibenion arbennig’ a ‘chwmnïau ffenics’. Mae cyfrwng at ddibenion arbennig yn endid cyfreithiol ar wahân a sefydlwyd gan riant-sefydliad, yn aml i ynysu risgiau neu rwymedigaethau ariannol. Defnyddir cwmnïau ffenics ar gyfer yr arfer o barhau i gynnal yr un busnes neu fasnach drwy gwmnïau olynol – cwmnïau y mae pob un ohonynt yn mynd yn ansolfent ac yn methu â thalu ei ddyledion.
Gosodir cwmni fel talwr ardrethi yr eiddo fel nad yw’r perchennog cofrestredig neu’r landlord yn atebol i dalu ardrethi annomestig. Fel arfer, bydd y cwmni hwn yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol, yn aml (ond nid bob amser) yn dilyn cyfnod o feddiannaeth pan fo atebolrwydd ardrethi annomestig yn ddyledus ond heb ei dalu. Pan fydd y cwmni’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol, ni fydd yr eiddo y mae wedi’i wneud yn dalwr ardrethi arno yn ddarostyngedig mwyach i atebolrwydd ardrethi annomestig. Gall y budd hwn barhau am gyfnod hir pan fo’r broses dirwyn i ben yn fwriadol faith.
Fel arfer, mae gan y talwr ardrethi ‘gysylltiad cymwys’ â’r perchennog cofrestredig neu’r landlord (e.e. strwythur cwmni cysylltiedig neu’r un cyfarwyddwr) neu, fel rhan o batrwm osgoi mynych, cwmni blaenorol a osodwyd yn dalwr ardrethi. Fel arall, mae trefniadau weithiau’n cael eu sefydlu hyd braich oddi wrth y landlord, gan ddarparwr gwasanaethau lliniaru ardrethi trydydd parti y mae’r cysylltiad cymwys yn bodoli ag ef.
Ystyr cysylltiad cymwys yw pan fo’r naill berson a’r llall yn gwmnïau, un yn is-gwmni i’r un arall, y naill a’r llall yn is-gwmnïau i’r un cwmni, neu’r un person naill ai yn (neu wedi bod yn) gyfarwyddwr neu’n unigolyn sydd â rheolaeth sylweddol mewn perthynas â’r naill gwmni a’r llall. Mae hefyd yn golygu, pan dim ond un person sy’n gwmni (neu oedd yn gwmni), bod gan y person arall (neu roedd ganddo) fuddiant o’r fath a fyddai’n ei wneud yn gwmni daliannol (ar yr amod ei fod ef ei hun yn gwmni). Bwriad y diffiniad yw cofnodi cysylltiadau sydd wedi’u nodi’n flaenorol mewn trefniadau perthnasol.
Mae tri threfniant artiffisial penodol o’r math hwn sy’n cael eu gwrthweithio gan y fframwaith gwrthweithio osgoi trethi. Ym mhob achos, ymrwymir i’r trefniant rhwng y person (“L”) a roddodd y cytundeb am feddiannaeth a’r person (“P”) a wneir yn dalwr ardrethi ar gyfer yr eiddo.
Yn y trefniant cyntaf, cyn ymrwymo i drefniant gyda P, ymrwymodd L i drefniant a oedd yn gwneud person arall (“X”) yn dalwr ardrethi ar gyfer eiddo (naill ai’r un eiddo sy’n ddarostyngedig i’r trefniant presennol, neu eiddo gwahanol). Cafodd X ei ddirwyn i ben yn wirfoddol yn dilyn hynny, tra bo’n dal i fod yn barti i’r trefniant. Ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant presennol (gyda P), roedd gan P gysylltiad cymwys â X.
Yn yr ail drefniant, ar y diwrnod yr ymrwymwyd iddo, roedd gan P gysylltiad cymwys â L neu berson sy’n darparu gwasanaethau i L sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig (e.e. asiant ardrethu neu gynghorydd treth). Cyn ymrwymo i drefniant gyda P, ymrwymodd L i drefniant a wnaeth berson arall (“Y”) yn dalwr ardrethi ar gyfer eiddo (naill ai’r un eiddo sy’n ddarostyngedig i’r trefniant presennol, neu eiddo gwahanol). Ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant blaenorol hwnnw, roedd gan Y gysylltiad cymwys ag L (neu â pherson sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig). Cafodd Y ei ddirwyn i ben yn wirfoddol yn dilyn hynny, tra bo’n dal i fod yn barti i’r trefniant.
Mae’r trefniant cyntaf a’r ail drefniant yn adlewyrchu patrymau ymddygiad y mae awdurdodau lleol wedi sylwi arnynt, sy’n golygu gosod cyfryngau at ddibenion arbennig neu gwmnïau ffenics dro ar ôl tro fel talwyr ardrethi o dan drefniadau gyda’r un landlord, cyn iddynt gael eu diddymu (yn aml gydag atebolrwydd sydd heb ei dalu). Yn ystod cyfnod o feddiannaeth gan dalwr ardrethi newydd, mae’r awdurdod lleol yn ymwybodol o gysylltiad cymwys perthnasol â thalwr ardrethi blaenorol a gafodd ei ddirwyn i ben yn wirfoddol yn y pen draw. Mewn achosion o’r fath, y bwriad yw bod yr awdurdod lleol yn gallu gwrthweithio’r trefniant cyn i’r talwr ardrethi presennol fynd ati i gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol. Ni fydd yn bosibl cofnodi digwyddiad cyntaf cyn i gwmni gael ei ddirwyn i ben, oherwydd dibynnir ar dystiolaeth o ymddygiad yn y gorffennol.
Yn y trydydd trefniant, ar y diwrnod yr ymrwymwyd iddo, roedd gan P gysylltiad cymwys ag L neu berson sy’n darparu gwasanaethau i L sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig. Cyn pen tair blynedd o ymrwymo i’r trefniant rhwng L a P, roedd P yn y broses o gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol. Mae diffinio’r trefniant hwn yn sicrhau, pan na fydd awdurdod lleol wedi gallu nodi’r trefniant a’i wrthweithio cyn dechrau’r broses dirwyn i ben, bydd yn gallu gwneud hynny pan fydd y cam hwnnw wedi’i gymryd.
Mae trefniadau o’r math hwn yn cynrychioli gwahanol gamau yn yr hyn a all fod yn gylch cymhleth ac ailadroddus o gamau gweithredu i drosglwyddo atebolrwydd ardrethi annomestig i gwmni a sefydlwyd at ddibenion osgoi.
Yn ei hanfod, sail y system ardrethi annomestig yw mai’r talwr ardrethi yw meddiannydd dilys eiddo a bod atebolrwydd yn cael ei briodoli a’i dalu’n gywir. Byddai nodweddion ac ymddygiadau penodol y perchennog neu’r meddiannydd yn tanseilio gweithrediad bwriadedig y system mewn ffyrdd, o’u cyfuno â mantais, sy’n ddangosyddion cryf o osgoi.
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi yn gwrthweithio pedwar trefniant penodol o’r math hwn. Ym mhob achos, mae’r trefniant yn un artiffisial oherwydd bod y nodweddion neu’r ymddygiadau penodedig yn berthnasol.
Yn y trefniant cyntaf, methodd y perchennog, y meddiannydd neu’r person a roddodd y cytundeb am feddiannaeth â darparu enw’r talwr ardrethi mewn ymateb i gais statudol am wybodaeth gan awdurdod lleol. Mae dal enw’r talwr ardrethi yn ôl yn tanseilio’r system ardrethi annomestig, drwy atal atebolrwydd rhag cael ei briodoli’n gywir a’i gasglu. Er enghraifft, gellir defnyddio’r trefniant hwn i osgoi talu atebolrwydd yn ystod cyfnod cychwynnol meddiannaeth, cyn i dalwr ardrethi gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol fel rhan o drefniant ‘Math 2’ a ddisgrifir uchod.
Yn yr ail drefniant, mae person (“P”) yn cael ei wneud yn dalwr ardrethi ond nid oes gan P unrhyw gysylltiad â’r gweithrediad na’r gweithgarwch economaidd sy’n digwydd yn yr eiddo. Ni fydd talwr ardrethi sydd heb asedau na busnes sy’n gysylltiedig â’r defnydd honedig o’r eiddo yn gallu ei feddiannu a’i ddefnyddio at y diben a nodir.
Yn y trydydd trefniant, yr ymrwymwyd iddo rhwng person (“L”) a roddodd y cytundeb am feddiannaeth a pherson arall (“P”), mae P yn cael ei wneud yn dalwr ardrethi ar gyfer yr eiddo ac, ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant, roedd P yn gyflogai, yn gontractwr, yn bartner neu’n berthynas agos i L. Pan fydd cysylltiad o’r fath yn bodoli, yn aml, y person a roddodd y cytundeb sy’n bwriadu cadw rheolaeth dros yr eiddo mewn gwirionedd. Mae awdurdodau lleol wedi nodi bod y trefniant hwn yn cael ei ddefnyddio i osgoi’r terfyn dau eiddo fesul talwr ardrethi ym mhob awdurdod lleol wrth hawlio Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Yn y pedwerydd trefniant, mae person (“P”), neu’r cwmni, ffyrm neu ymddiriedolaeth y mae P yn gweithredu fel cyfarwyddwr, partner, ymddiriedolwr elusen neu unigolyn sydd â rheolaeth sylweddol ar ei gyfer/ei chyfer, yn cael ei wneud yn dalwr ardrethi. Ar y diwrnod yr ymrwymwyd i’r trefniant, mae un neu ragor o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- Yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, roedd P wedi cynnal busnes neu wedi arfer pwerau benthyca cwmni cyhoeddus heb dystysgrif fasnachu. Mae gwneud hynny’n drosedd.
- Yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, roedd P yn ddarostyngedig i ddatganiad a roddwyd gan y llys am fasnachu twyllodrus neu fasnachu anghyfiawn cyn i gwmni ansolfent gael ei ddirwyn i ben neu yn ystod y broses o’i ddirwyn i ben. Gall y llysoedd orfodi atebolrwydd ar berson sydd wedi bod yn anonest neu sydd ar fai mewn perthynas â dyledion cwmni ansolfent.
- Roedd P wedi’i anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni. Gellir anghymhwyso person rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni os nad yw’n cyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithiol. Gall cyfnod anghymwyso bara hyd at 15 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaiff person fod yn gyfarwyddwr cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU, na chwarae unrhyw ran mewn ffurfio, hyrwyddo neu reoli cwmni.
- Cafodd P ei anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr elusen. Gellir anghymhwyso person rhag bod yn ymddiriedolwr am amryw o resymau sy’n ymwneud â throseddau, camreoli neu gamymddwyn wrth weinyddu elusen. Gall rhai cyfnodau anghymwyso bara hyd at 15 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaiff person ddal swydd na chael ei gyflogi mewn swyddogaethau uwch-reoli ar gyfer elusen.
- Yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, cafwyd P yn euog o dorri cyfyngiadau ar ailddefnyddio enwau cwmnïau. Byddai hyn yn datgelu bod P yn rhedeg yr un busnes â’r cwmni ansolfent, sy’n nodwedd gyffredin o drefniadau sy’n ymwneud â chwmnïau ffenics a chyfryngau at ddibenion arbennig.
- Roedd P yn ddarostyngedig i gyfyngiadau methdalu. Gall y llysoedd osod cyfyngiadau ar berson sy’n fethdalwr ac sydd wedi bod yn anonest neu sydd ar fai am ei ddyledion. Gellir gosod y cyfyngiadau am gyfnod rhwng 2 a 15 mlynedd, pan na chaiff person (ymhlith llawer o bethau eraill) fod yn gyfarwyddwr cwmni na ffurfio, rheoli neu hyrwyddo cwmni.
Mae’r diffiniad o’r pedwerydd trefniant yn nodi amrywiaeth o amgylchiadau pan fydd y talwr ardrethi wedi cynnal ei fusnes yn ddiweddar mewn modd anghyfreithlon, wedi’i gael yn euog o drosedd gysylltiedig, wedi’i anghymhwyso rhag ymgymryd â rolau uwch mewn cwmni neu wedi bod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau methdalu. Mae’r rhain yn ddangosyddion cryf nad ydynt yn dalwr ardrethi gwirioneddol sy’n gallu cynnal busnes dilys yn ddi-rwystr.
Ystyrir bod pob trefniant o’r math hwn yn artiffisial ar y sail ei fod yn rhwystro gweithrediad bwriadedig y system ardrethi annomestig. Mae trefniadau o’r fath naill ai’n golygu nad oes modd nodi’r talwr ardrethi cywir neu’n gosod talwr ardrethi nad yw, yn sgil ei ymddygiad busnes diweddar, yn gallu cynnal busnes yn gyfreithlon.
Mae’r trothwyon ar gyfer pennu meddiannaeth ‘wirioneddol’ a ‘buddiol’ wedi’u sefydlu mewn cyfraith achosion, mewn ymateb, yn gyffredinol, i awdurdodau lleol sy’n ceisio herio trefniadau osgoi. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y trothwyon hyn yn rhy isel, ac yn ei gwneud yn bosibl i fanteision gael eu hennill o drefniadau sy’n anghyson â’r amcanion polisi a’r egwyddorion ehangach sy’n sail i’r system ardrethi annomestig.
Mae dau drefniant penodol o’r math hwn sy’n cael eu gwrthweithio gan y fframwaith gwrthweithio osgoi trethi. Ym mhob achos, mae’r trefniant yn un artiffisial oherwydd bod gan y feddiannaeth nodweddion penodedig sy’n ddangosyddion cryf o osgoi.
Yn y trefniant cyntaf, mae’r feddiannaeth yn fuddiol yn bennaf oherwydd ei bod yn cyfrannu at barhau â busnes lliniaru ardrethi annomestig. Mae cyfraith achosion wedi sefydlu y gall prydlesu eiddo at ddibenion lliniaru ardrethi yn unig fod yn ‘fuddiol’, hyd yn oed os nad oes budd arall i’r trethdalwr o dan y trefniant. Mae hefyd wedi sefydlu bod meddiannaeth yn ‘wirioneddol’ pan fo eitemau nad ydynt yn sylweddol eu gwerth na’u pwysigrwydd yn cael eu rhoi yn yr eiddo. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r sefyllfa hon gan ei bod wedi’i gwneud yn bosibl i eiddo sydd, i bob pwrpas, heb ei feddiannu gael ei drin fel eiddo sy’n cael ei feddiannu at ddibenion ardrethi annomestig.
Yn yr ail drefniant, mae budd y feddiannaeth yn deillio o drosglwyddydd WiFi neu Bluetooth a ddefnyddir ar gyfer marchnata neu hysbysebu electronig (a elwir yn aml yn ‘farchnata sy’n defnyddio agosrwydd’ neu ‘proximity marketing’ yn Saesneg). Mae cyfraith achosion wedi sefydlu y gall meddiannaeth fod yn ‘wirioneddol’ pan fo dim ond cyfran fach iawn o arwynebedd llawr eiddo yn cael ei defnyddio. Mae marchnata sy’n defnyddio agosrwydd yn drefniant hysbys sy’n ymelwa ar ba mor hawdd ydyw i fodloni’r prawf hwn. Bwriad hyn yw cofnodi enghraifft benodol o ddefnydd amhriodol neu o ddefnydd bach iawn o eiddo sydd yn fuddiol. Er bod marchnata sy’n defnyddio agosrwydd yn fenter ddilys, nid dyma’r unig ddefnydd y disgwylir yn rhesymol iddo gael ei wneud o eiddo annomestig. Gan mai ychydig iawn o le ffisegol sydd ei angen, gellid yn hawdd defnyddio eiddo fel hyn ochr yn ochr â’r prif ddefnydd o’r eiddo a heb ymyrryd ar y defnydd hwnnw.
Mae’r ddau drefniant o’r math hwn wedi profi’n effeithiol o ran sicrhau meddiannaeth drwy wneud defnydd bach iawn neu ddim defnydd gwirioneddol o eiddo. Y nod yn aml yw ailosod cymhwysedd y perchennog i gael rhyddhad eiddo gwag am gyfnod, pan fydd y trefniant wedi dod i ben, ond gallai manteision eraill godi.
Os oes gan awdurdodau lleol unrhyw reswm dros gredu bod trefniant osgoi artiffisial wedi’i wneud, a bod hynny wedi rhoi mantais, efallai y bydd angen iddynt gasglu rhagor o dystiolaeth. Byddai’r dystiolaeth berthnasol yn dibynnu ar y trefniant penodol a gall gynnwys gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd o amrywiaeth o ffynonellau. Mae’r ffynonellau hyn yn cynnwys y canlynol, ond mae’n bosibl nad ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyhoeddi gwybodaeth am gwmnïau, gan gynnwys natur eu busnes a’u hasedau, pwy yw’r cyfarwyddwyr, y partneriaid, a’r unigolion sydd â rheolaeth sylweddol, a gwybodaeth am achosion o ansolfedd
- mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn cyhoeddi’r Gofrestr Ansolfedd Unigol, sy’n cyfuno gwybodaeth am fethdaliadau ac achosion o ansolfedd
- mae manylion cyfarwyddwyr sydd wedi’u hanghymwyso yn cael eu cyhoeddi gan y Gwasanaeth Ansolfedd (mewn perthynas â’r 3 mis diweddaraf) ac yng nghronfa ddata Tŷ’r Cwmnïau o gyfarwyddwyr sydd wedi’u hanghymwyso (gydol cyfnod yr anghymhwyso)
- mae’r Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi’r Gofrestr Elusennau, sy’n cynnwys enw’r ymddiriedolwyr, a’r Gofrestr o Ymddiriedolwyr sydd wedi’u Diswyddo, sy’n rhoi manylion y personau sydd wedi’u hanghymhwyso fel ymddiriedolwyr elusen
- mae’n bosibl y bydd gwybodaeth ar gael gan y llysoedd hefyd am droseddau ac euogfarnau perthnasol
Gellir cael gafael ar rywfaint o dystiolaeth berthnasol nad yw ar gael i’r cyhoedd drwy ddulliau eraill. I gael tystiolaeth o'r fath, gellir defnyddio’r pwerau presennol ar gyfer awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth a chael mynediad i eiddo a'i arolygu (o dan baragraffau 5 a 7A, yn y drefn honno, o Atodlen 9 i Ddeddf 1988). Mae enghreifftiau o’r ffyrdd y gellir defnyddio’r pwerau hyn yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- gellir gofyn am gopi o gytundeb les, i ddarparu manylion y trefniant ar gyfer meddiannu eiddo (e.e. y partïon i’r cytundeb, ei ddiben a’r rhent cysylltiedig)
- gellir cynnal arolwg o eiddo, i bennu graddau a nodweddion unrhyw feddiannaeth
- gellir gofyn am gopi o gytundeb â darparwr trydydd parti o wasanaethau sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig, i ddarparu manylion y darparwr, y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a’i ddiben
Mae’n bosibl bod amgylchiadau a ffynonellau gwybodaeth eraill sy’n hysbys i’r awdurdodau lleol sy’n berthnasol i ganfod a oes unrhyw rai o’r trefniadau arfaethedig wedi cael eu gwneud. Pan fydd trefniant diffiniedig wedi’i nodi, bydd yr awdurdod lleol yn mynd i’r afael ag ef, yn unol â’r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi.
Mewn perthynas â'r holl drefniadau diffiniedig, gall awdurdodau lleol benderfynu nad yw trefniant penodol yn artiffisial, gan ystyried holl amgylchiadau achos unigol, a all gynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):
- a yw'r meddiannydd (neu a oedd y meddiannydd) yn gweithredu busnes y mae neu nad oedd ei brif ddiben yn ymwneud â lleihau atebolrwydd ardrethi annomestig
- y gyfran o'r hereditament sy’n cael ei feddiannu (neu a oedd yn cael ei feddiannu) i gynnal y busnes a weithredir gan y meddiannydd
- y cyfnod o amser y mae’r hereditament (neu yr oedd yr hereditament) yn cael ei feddiannu ar ei gyfer
- a yw nodweddion yr hereditament yn gydnaws â phrif ddiben y busnes sy’n cael ei gynnal yno
Gall fod gan awdurdod lleol wybodaeth leol am y meddiannydd neu’r eiddo, sy’n arwain at benderfyniad o’r fath. Ni fyddai angen penderfyniad i drin trefniant diffiniedig fel un artiffisial, sef y canlyniad diofyn.
Pan fydd trefniant osgoi artiffisial wedi cael ei wneud, mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wrthweithio’r fantais a gafwyd. Lleihad yn yr atebolrwydd ardrethi annomestig sydd wedi’i gael ers 1 Ebrill 2026 (y dyddiad y mae’r Rheoliadau sy’n diffinio’r trefniadau osgoi artiffisial yn cael effaith) neu’r dyddiad pan wnaed y trefniant gyntaf (pa un bynnag yw’r diweddaraf) fydd y fantais fel arfer.
I wrthweithio’r fantais, rhaid i’r awdurdod lleol drin y person a fyddai wedi bod yn dalwr ardrethi fel yr un sy’n atebol am swm yr ardrethi annomestig a fyddai wedi bod yn daladwy, fel pe na bai’r trefniant wedi’i wneud. Meddiannydd yr eiddo sydd fel arfer yn atebol am ardrethi annomestig. Perchennog (person sydd â hawl i feddiannu) yr eiddo sy’n atebol os nad yw wedi ei feddiannu. Mae pob trefniant wedi’i ddiffinio i sicrhau, os caiff ei anwybyddu, byddai’r person a fyddai wedi bod yn berchennog yr eiddo pe na fyddai meddiannaeth artiffisial yn bodoli yn cael ei drin fel yr un sy’n atebol am y swm a fyddai wedi bod yn daladwy.
Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i berson sydd i’w drin fel yr un sy’n atebol, gan nodi’r rhesymau dros wneud hynny a gwybodaeth am y prosesau adolygu ac apelio. Gall person ofyn am adolygiad o’r hysbysiad sy’n nodi y caiff ei drin yn atebol, cyn pen 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y daw’r hysbysiad hwnnw i law. Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person o’r canlyniad cyn pen 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daw y cais am adolygiad i law.
Pan fo hysbysiad wedi’i gadarnhau yn dilyn adolygiad, caiff y person apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru cyn pen 30 o ddiwrnodau. Rhaid i apêl gynnwys copi o’r hysbysiad a datganiad o'r rhesymau pam mae’r apelydd o’r farn na ddylai’r awdurdod lleol fod wedi’i roi. Gellir gwneud apêl bellach i’r Uwch Dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad a wnaed gan Dribiwnlys Prisio Cymru cyn pen 28 o ddiwrnodau.
Bydd person sy’n cael ei drin fel un sy’n atebol yn ddarostyngedig i’r fframwaith presennol ar gyfer casglu a gorfodi atebolrwydd ardrethi annomestig (a nodir yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989). Pan fydd yr amser ar gyfer adolygu ac apelio wedi dod i ben, bydd yr awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad galw am dalu mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol drethadwy yr effeithir arni gan y trefniant. Ar wahân i’r posibilrwydd o gosb ychwanegol am fethu â thalu swm sy’n ddyledus (gweler isod), bydd y trefniadau sefydledig ar gyfer gorfodi atebolrwydd ardrethi annomestig na fydd yn cael ei dalu yn dilyn hysbysiad galw am dalu yn gymwys.
Mae’r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi yn caniatáu i gosb ariannol gael ei gorfodi am fethu â thalu swm sy’n ddyledus o ganlyniad i fod wedi gwneud trefniant osgoi artiffisial. Yng nghyd-destun y prosesau casglu a gorfodi a nodir uchod, dim ond os na thalwyd swm sy’n ddyledus mewn hysbysiad galw am dalu (yn dilyn y cyfle i gael adolygiad ac i apelio) y gallai hyn ddigwydd. Mae’n bwysig bod y fframwaith yn cael ei ategu gan gosb cymesur i helpu i sicrhau bod modd mynd i’r afael â threfniadau osgoi artiffisial yn effeithiol.
Mae cosb o £500 yn ogystal â 3% o werth ardrethol yr eiddo (ar ddyddiad yr hysbysiad yn nodi y bydd y person yn cael ei drin fel yr un sy’n atebol) yn gymwys mewn perthynas â phob math o drefniant. Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad cosb i berson sydd wedi methu â thalu swm sy’n ddyledus mewn hysbysiad galw am dalu, a roddir i wrthbwyso’r fantais a gafwyd o drefniant osgoi artiffisial ac ar ôl i’r cyfle i gael adolygiad ac i apelio, fel y disgrifir uchod, ddirwyn i ben. Rhaid i’r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r gosb gael ei thalu cyn pen cyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf. Os na thelir y gosb, bydd yr awdurdod lleol yn gallu ei hadennill fel dyled sifil.