Archives

901 canlyniadau

Export - ship, plane, trucks
Mae cynadleddau Archwilio Allforio Cymru Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnal ddydd Iau 13 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dydd Iau 20 Mawrth 2024 yn Venue Cymru, Llandudno. Mae'r cynadleddau yn dod ag Ecosystem Allforio Cymru ynghyd mewn un lle i ddarparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar allforio. Ymunwch â seminarau arbenigol a byrddau crwn ar faterion allweddol am allforio, ymweld ag arddangoswyr ecosystemau sy'n cwmpasu cyllid, materion cyfreithiol a logisteg a...
single use vapes
Mae pleidlais wedi'i phasio yn y Senedd yn cyflwyno rheoliadau newydd i wahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru. Bydd cyflwyno Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 i wahardd cyflenwi fêps untro (gan gynnwys am ddim) yng Nghymru yn gam hanfodol arall wrth fynd i'r afael â'r llygredd sbwriel a phlastig sy'n difetha ein strydoedd a'n hamgylchedd. Daw y Rheoliadau i rym ar 1 Mehefin 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y...
Mac
£1.5 biliwn yn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach a sbarduno twf economaidd – dyna sylfaen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026. Bydd y cynlluniau gwario cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf yng ngham y Gyllideb Ddrafft, sy’n golygu y bydd modd buddsoddi’n sylweddol mewn adeiladau ysgolion, seilwaith y GIG, tai a thrafnidiaeth gyhoeddus. Er mwyn cefnogi busnesau Cymru, bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei gapio...
younger helping an older person
Cyhoeddwyd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Mharis ar 10 Rhagfyr 1948 ac mae'n nodi, am y tro cyntaf, hawliau dynol sylfaenol sydd i'w gwarchod yn gyffredinol. Mae'r ddogfen nodedig hon yn ymgorffori'r hawliau diymwad y mae gan bawb hawl iddynt fel bod dynol - waeth beth fo'u hil, lliw, crefydd, rhywedd, iaith, barn wleidyddol neu arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall. Gall...
Llyn Ogwen, Eryri
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130 miliwn, a gynorthwyir gan Fanc Busnes Prydain, wedi taro £10 miliwn o fuddsoddiadau o Gaerffili i Lannau Dyfrdwy ac o Abertawe i Fangor. Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) gwerth £130 miliwn wedi taro ei charreg filltir fawr gyntaf ar ôl buddsoddi a benthyca £10m i fusnesau llai yng Nghymru . Daw’r cyhoeddiad blwyddyn ar ôl lansio’r IFW. Cronfa Buddsoddi i Gymru’r Banc yw’r gronfa buddsoddi gyntaf ar...
small business owner, florist, using a laptop
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnig mynediad beta gwahoddiad-yn-unig i My Cyber Toolkit i ddarllenwyr ein cylchlythyr - gwasanaeth rhad ac am ddim gan llywodraeth y DU sy'n helpu busnesau bach i amddiffyn eu hunain rhag seiberdroseddwyr. Mae My Cyber Toolkit yn cael ei ddylunio gyda mewnbwn gan fusnesau fel eich un chi ac mae'n cynnig arweiniad cam wrth gam syml sydd wedi ei deilwra i fusnesau bach. Sicrhewch eich pecyn cymorth heddiw i amddiffyn...
heart shape map of Wales and a recycling symbol
Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn rhaglen ariannu grantiau i helpu cymunedau sy'n byw o fewn pum milltir i orsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi penodol i weithredu dros eu hamgylchedd lleol. Mae'r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brif grantiau rhwng £5,000 a £49,000 a phrosiect 'o bwys cenedlaethol' gyda gwerth rhwng £50,000 a £250,000. Bydd y gronfa ar agor i unrhyw sefydliad ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar...
View of Europe from Space
Horizon Europe yw rhaglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd sy’n werth £80bn+ dros 7 mlynedd (o 2021). Ei nod yw hybu rhagoriaeth ymchwil, meithrin arloesedd a mynd i’r afael â heriau byd-eang trwy brosiectau cydweithredol a chyfleoedd ariannu. Bydd Innovate UK, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwyddoniaeth Arloesi a Thechnoleg (DSIT) yn cynnal digwyddiad gwybodaeth a rhwydweithio wyneb yn wyneb cyffrous ar 28 Ionawr 2025 yng Nghaerdydd . Bydd cyfranogwyr yn dysgu, cysylltu...
community group
Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig. Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol...
Mature business owner
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.  Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:  newidiadau i’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr a Lwfans Cyflogaeth wedi’u cyhoeddi yng Nghyllideb yr Hydref 2024 dyletswyddau o ran Cofrestru Awtomatig ar gyfer gweithwyr tymor yr ŵyl cadarnhau cynlluniau i fandadu’r broses o...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.