Heddiw yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi amlinelliad wedi'i diweddaru o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gan weithio mewn partneriaeth â'r undebau ffermio, grwpiau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill ar y Ford Gron Gweinidogol a grwpiau ategol, gan gynnwys y Panel Atafaelu Carbon, mae yn y fersiwn ddiweddaraf hon newidiadau pwysig i'r cynigion blaenorol. Mae'r newidiadau'n mynd i'r afael ag anghenion ffermwyr Cymru ac maent...