Archives

721 canlyniadau

Bellach mae’r cyfnod ceisiadau wedi agor ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes nesaf Busnes Cymru, sy’n fenter allweddol y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Bydd y rhaglen deng wythnos, cwbl ar-lein, yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Medi 2025 i ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025, gan gynnig cymorth wedi'i dargedu i entrepreneuriaid twf uchel ledled Cymru. Mae'r rhaglen gyflymu wedi'i hadeiladu ar gyfer pobl sydd â syniadau busnes cryf ac sydd am fynd â'u cysyniad i'r...
Woman working in a Lab
Mae Llusern Scientific, a leolir ym Mharc Busnes Cardiff Edge, yn datblygu profion diagnostig cyflym i drawsnewid y modd y caiff heintiau’r llwybr wrinol eu diagnosio a’u trin. Gyda chymorth penodol gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni’n cyflwyno’i gynnyrch newydd ar y farchnad – gan baratoi’r ffordd ar gyfer diagnosis cyflymach, gwell canlyniadau i gleifion a chamddefnyddio llai ar wrthfiotigau. Fe wnaeth Llusern Scientific, a sefydlwyd yn 2020 fel cwmni a ddeilliodd o Brifysgol...
Bikes on Lon Eifion cycle path
Mae Wythnos y Beic 2025 yn cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Mehefin, ac mae’n argoeli i fod hyd yn oed yn well ac yn fwy na 2024. Mae gan sefydliadau ran bwysig i'w chwarae wrth ddatgarboneiddio'r economi a sicrhau bod targedau sero net yn cael eu cyrraedd. Ac er mai trafnidiaeth yw ffynhonnell unigol fwyaf allyriadau yn y DU o hyd, mae edrych ar sut yr ydym yn teithio o un lle i’r...
Marine Engineer in boiler room of a ship
Cyllid ar gyfer datblygu cyfleusterau gweithgynhyrchu a seilwaith porthladdoedd hanfodol i alluogi defnydd cyflymach o ynni ar y môr o amgylch y DU yw ffocws ail rownd Cynllun Sbarduno Cadwyn Gyflenwi arloesol Ystad y Goron. Yn dilyn llwyddiant y rownd ariannu gychwynnol yn 2024, mae Ystad y Goron wedi dyrannu £15 miliwn ar gyfer rownd nesaf y rhaglen sy'n ceisio rhoi hwb i fuddsoddiadau yn seilwaith porthladdoedd a chyfleusterau cadwyn gyflenwi ynni ar y môr...
Siop Narberth
Mae'r ceisiadau ar gyfer 100 Busnes Bach eleni bellach ar agor yn swyddogol! Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, 6 Rhagfyr 2025. Mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi...
Bethesda, Gwynedd overlooked by Penrhyn Quarry
Bydd ardaloedd sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn cael cymorth ychwanegol i gryfhau'r iaith yn ein cymunedau, ar ôl i Weinidogion dderbyn argymhellion adroddiad. Yn dilyn astudiaeth ddwy flynedd o hyd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg o dan arweiniad Dr Simon Brooks, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sawl cynnig i ddiogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, y cynlluniau yn Eisteddfod yr Urdd, gan gadarnhau y bydd y llywodraeth...
business conference - delegates applauding
Mae caethwasiaeth fodern yn her fyd-eang, ond gall pob un ohonom wneud ein rhan i fynd i'r afael â'r drosedd echrydus hon a'i hatal. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o'r ateb drwy ddod i gynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025. Mae Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n dod â phartneriaid a sefydliadau ynghyd i rwydweithio a rhannu eu dysgu a’u profiadau. Yn ogystal, mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. Cynhelir...
Piles of coins and plant shoots - business growth and investment
Helpodd cyllid dyled ac ecwiti gwerth cyfanswm o £152 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru 502 o fusnesau i greu a diogelu 6,185 o swyddi ledled Cymru yn ystod 2024/25. Dosbarthwyd 82% o'r busnesau hyn fel microfusnesau. Mae'r ffigurau record hyn wedi cael eu rhyddhau dydd Mercher 28 Mai 2025 gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025. Mae'n dod â'r cyfanswm a fuddsoddwyd mewn busnesau bach a...
disposable vapes
O ddydd Sul, 1 Mehefin 2025, bydd fêps untro yn cael eu gwahardd ledled y DU gyfan i leihau'r niwed amgylcheddol a achosir wrth eu cynhyrchu ac yn sgil eu taflu. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn amcangyfrif bod 360,000 o fêps untro yn cael eu taflu fel sbwriel ar lawr yng Nghymru dros flwyddyn, a bod 120,000 yn cael eu fflysio i lawr y toiled. Mae sbwriel yn difetha ein cymunedau, yn llygru pridd, afonydd...
Plastic pollution - bottles, bags in the sea
Mae Diwrnod Amgylchedd y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 5 Mehefin ac yn galw am weithredu ar y cyd i fynd i'r afael â llygredd plastig. Trwy dynnu ysbrydoliaeth o fyd natur ac dangos atebion yn y byd go iawn, bydd yr ymgyrch yn annog unigolion, sefydliadau, diwydiannau a llywodraethau i fabwysiadu arferion cynaliadwy sy'n gyrru newid systemig. Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Diwrnod Amgylchedd y Byd Mae'r Addewid...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.