Archives

81 canlyniadau

Deputy First Minister with responsibility for Climate Change and Rural Affairs, Huw Irranca-Davies
Gall ffermwyr Cymru nawr wneud cais am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) am y tro cyntaf, wrth i'r Ffurflen Cais Sengl (SAF) agor heddiw, 2 Mawrth 2026. Mae'r ffenestr SAF yn rhedeg rhwng 2 Mawrth a 15 Mai 2026. Trwyddi, gall ffermwyr roi gwybod i Lywodraeth Cymru a ydynt yn hawlio'r SFS neu'r Cynllun Taliad Sylfaenol. Anogir ffermwyr sy'n ystyried ymuno â'r SFS yn gryf i ddechrau eu cais yn gynnar. Bydd dechrau'n gynnar yn...
man holding carrots
Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod yw'r dathliad blynyddol o dalent, arloesedd a rhagoriaeth yn y diwydiant bwyd a diod. Pwy all gystadlu? Cynhyrchwyr bwyd a diod Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, darparwyr lletygarwch Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, y sector iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg Mae ceisiadau yn agor ar 2 Mawrth 2026 ac yn cau ar 4 Mai 2026. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen...
A55 Colwyn Bay
Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i leisio eu barn ar anghenion gweithlu’r dyfodol yn y rhanbarth, fel rhan o’r gwaith i ddatblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd ar gyfer 2026 i 2028. Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol - Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio arolwg byr ar-lein i gyflogwyr er mwyn casglu mewnwelediad uniongyrchol i’r heriau sgiliau a recriwtio sy’n wynebu busnesau heddiw, a pha gefnogaeth fydd ei hangen dros y blynyddoedd nesaf...
female tech engineer
Mae Diwrnodau Datrysiadau Seiber Sefydliad Seiberddiogelwch Ewrop (ECSO) yn ôl gyda digwyddiad newydd sbon. Wedi'i drefnu gyda The Cyberhive EUROPE gan ECSO, Women4Cyber Foundation, Llywodraeth Cymru a'r Hyb Arloesedd Seiber, cynhelir y digwyddiad ar 24 Mawrth 2026 yn sbarc|spark yng Nghaerdydd. Mae'r digwyddiad hwn yn cysylltu Prif Swyddogion Diogelwch Gwybodaeth ac arweinwyr corfforaethol â darparwyr seiberddiogelwch Ewropeaidd blaenllaw i rannu dealltwriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o'r gymuned seiberddiogelwch Ewropeaidd ar y pwnc 'Cymwysiadau arloesol AI...
Barber - smiling cutting a customer's hair
Mae cyfradd fesul awr yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed ac a ydych chi’n brentis. Rhaid i chi fod o leiaf yn: oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol 21 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol - bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 20 oed ac iau Dyma’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 21 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol...
Minister Jack Sargeant at Llay Miners
Mae cynllun grant arbed ynni wedi buddsoddi dros £5.4miliwn i helpu clybiau chwaraeon ledled Cymru i wneud gwelliannau sy'n lleihau costau ynni ac yn gwneud eu hadeiladau'n fwy effeithlon. O gadw clybiau chwaraeon yn glyd yn y gaeaf i baneli solar sy'n torri biliau trydan, mae mwy a mwy o glybiau wedi gallu gwneud uwchraddiadau craff er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni ac arbed arian diolch i'r cynllun Grantiau Arbed Ynni, sy'n cael ei redeg gan...
Vlad Tanasescu safeIncent founder
“Helpodd Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, fi i feddwl yn fwy ac adeiladu’n gynt. Rhoddodd yr hyder, yr offer a'r momentwm i mi fynd â safeIncent o syniad i gynnyrch byw gyda defnyddwyr go iawn mewn ychydig wythnosau.” I lawer o bobl, cynnal cymhelliant yw’r rhan anoddaf o fagu gwell arferion pan fydd cynnydd yn teimlo'n araf ac na ddaw’r budd yn syth. Y bwlch hwn rhwng bwriadau da a newid parhaol oedd sbardun...
Webinar
Hoffech chi wybod mwy am sut y gall eich sefydliad fanteisio ar gyllid ymchwil a datblygu ar gyfer prosiectau cydweithio, dod o hyd i bartneriaid a hyrwyddo eich gallu technegol a’ch anghenion? Mae'r Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn cynnal Gweminar Cyfleoedd Cydweithredu Rhyngwladol. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar 17 Mawrth 2026 i ddarganfod pa gyfleoedd a allai fod o fudd i'ch sefydliad: Digwyddiadur Busnes Cymru - Gwe-seminar Cyfleoedd Cydweithredu Rhyngwladol. Gall arloesi helpu'ch sefydliad...
01 03 Dydd Gwyl Dewi/St David's Day
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr lawn o ddigwyddiadau a gefnogir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026. Mae'r gronfa gwerth £1 miliwn yn galluogi grwpiau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, ar 1 Mawrth. Bydd sefydliadau yn cael grantiau sy'n amrywio o £500 ar gyfer digwyddiadau cymunedol bach i £40,000 ar gyfer gweithgareddau ledled y wlad. Bydd 92 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru, rhwng 16 Chwefror a...
calculator
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae'r Bwletin yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Chwefror o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2026 Hysbysu ar ddiwedd y flwyddyn Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd ar ddod - effaith ar weithrediad y gyflogres Gweithredu’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025 Newidiadau i Dâl...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.