Archives

691 canlyniadau

Happy employees working in a warehouse
Dathliad blynyddol o Berchnogaeth Gweithwyr (PG) yw Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr, ac mae’n rhoi’r cyfle i filoedd o berchnogion sy’n weithwyr, busnesau PG a chefnogwyr PG ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac addysgu am fuddion perchnogaeth gan weithwyr. Bydd yn cael ei gynnal ar 20 Mehefin 2025. Os ydych chi eisiau gwerthu'ch busnes neu'n bwriadu datblygu eich busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae PG yn opsiwn arloesol sydd â buddion masnachol profedig...
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans with Owner of Wild Creations, Matt Wild and Business in Focus CEO, Phil Jones
Mae cwmni creadigol yn mwynhau taith twf hynod lwyddiannus gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Mae Wild Creations yn cerfio, mowldio a chastio i greu propiau ac arddangosfeydd ar raddfa fawr i'w defnyddio mewn parciau thema byd-eang ac mewn digwyddiadau mawr ledled y byd. Cynhyrchodd y cwmni y Bêl yn y Wal yng Nghastell Caerdydd i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd 2015, a draig 13 troedfedd sy'n chwythu mwg yng Nghastell Caerffili mewn cydweithrediad â...
satellite defence
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad sector amddiffyn mwy cynhyrchiol a chystadleuol yn y DU. O ganlyniad, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi lansio'r Rhaglen Datblygu Gallu Cyflenwyr Amddiffyn (DSCDP) i roi cefnogaeth gwella busnes i fusnesau bach a chanolig a chyflenwyr haen ganol yng nghadwyn gyflenwi'r sector amddiffyn. Bydd y rhaglen yn cynnig hyd at £200,000 o gefnogaeth dros gyfnod o flwyddyn i gyflenwyr yn y DU sy'n tyfu yn y sector, a’r...
rubber duck in a bath
Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn partneru â Taskmaster Education i gynnig cyfle newydd i adeiladu sgiliau ar gyfer ysgolion uwchradd, sef y 'Taskmaster Club 100'. Mae'r fenter newydd arloesol hon yn canolbwyntio ar adeiladu sgiliau hanfodol yn y genhedlaeth nesaf o arloeswyr trwy weithgareddau hwyliog yn y dosbarth. Ei nod yw gwneud cyfleoedd dysgu creadigol yn hygyrch i fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed o bob cefndir ledled y DU, ac mewn lleoliadau addysgol...
Wind turbines and solar panels
Bydd Gogledd Cymru yn adeiladu ar ei chryfder fel arweinydd ym maes ynni carbon isel, wedi i'r achos busnes llawn ar gyfer Cronfa Ynni Glân y rhanbarth, sy’n werth £24.6 miliwn gael ei gymeradwyo’n ddiweddar. Bydd y gronfa, sy'n rhan o raglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn cynnig arian dyled gyfalaf yn bennaf i brosiectau'r sector preifat gyda chyllid cyfalaf grant/dyled ar gael i brosiectau'r sector gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar ynni glân...
person using a calculator
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Adolygiad Gwariant ar gyfer y DU gyfan. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK: Spending Review 2025 - GOV.UK Llywodraeth Cymru yn ymateb i Adolygiad Gwariant y DU - Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa ar gynnydd sylweddol mewn cyllid ar ôl Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU heddiw. Mae buddsoddiad ychwanegol mewn diogelwch tomenni glo ac yn seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael ei gyhoeddi, ochr yn ochr...
Tennis court and solar panels
O gadw eich hen glwb yn gynnes yn ystod y gaeaf i dorri biliau trydan gyda phaneli solar, mae mwy a mwy o glybiau chwaraeon yng Nghymru yn uwchraddio i ddod yn fwy effeithlon ac arbed arian ar filiau. Diolch i'r Grant Arbed Ynni, gallai eich clwb gael hyd at £25,000 i gyllido gwelliannau arbed ynni sy'n gwneud gwahaniaeth. Dyma 7 ffordd i uwchraddio y gallwch chi eu gwneud yn eich clwb chwaraeon i ddod...
Beach clean - people collecting rubbish from a beach
Bydd cymunedau arfordirol ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth barhaus wrth i Lywodraeth Cymru ymestyn ei Chynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol am ddwy flynedd arall. Bydd y cynllun, a ddarperir drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yn darparu £260,000 y flwyddyn rhwng 2025/26 a 2026/27 i gefnogi mentrau amgylcheddol lleol. Ers ei lansio ym mis Hydref 2023, mae'r cynllun wedi cefnogi un ar ddeg o brosiectau sy'n helpu pobl i gysylltu â'u hamgylchedd arfordirol a...
Wind turbines at sunset
Mae Diwrnod Gwynt Byd-eang yn ddigwyddiad byd-eang sy'n digwydd yn flynyddol ar 15 Mehefin. Mae'n ddiwrnod i ddarganfod ynni gwynt, ei bŵer a'r posibiliadau sydd ganddo i ail-lunio ein systemau ynni, datgarboneiddio ein heconomïau a hybu swyddi a thwf. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Global Wind Day - Celebrate the power of wind Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd...
Business exhibition
Digwyddiad a drefnir gan CGGC yw gofod3, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, ac mae'n cael ei gynnal ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n benodol i bobl sy’n gysylltiedig â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd y digwyddiad hwn am ddim i fynychu, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.