Archives

641 canlyniadau

Cyber security concept
Mae llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag ymyriad dwy ran i fynd i'r afael â risgiau seiberddiogelwch i ddeallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cynnwys datblygu Cod Ymarfer gwirfoddol a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i greu safon fyd-eang yn y Sefydliad Safonau Telathrebu Ewropeaidd sy'n gosod gofynion diogelwch sylfaenol. Mae'n nodi sut y gall sefydliadau sy'n defnyddio AI amddiffyn eu hunain rhag ystod o fygythiadau seiber fel ymosodiadau AI a methiannau system...
Cabinet Secretary visiting site
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar Barth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint, wrth i'r busnes FI Real Estate Management (FIREM) fuddsoddi mewn twf. Prosiect cydweithredol yw'r Parth Buddsoddi, y disgwylir iddo ddenu buddsoddiad o £1 biliwn gan y sector preifat a chreu 6000 o swyddi newydd. Mae'n cael ei gefnogi gan £160 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar weithgynhyrchu uwch, gyda'r Parth...
Father and children
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cyfraddau statudol arfaethedig ar gyfer tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu, tâl profedigaeth rhieni a thâl salwch o fis Ebrill 2025. Mae'r cyfraddau fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ac fel arfer mae'n digwydd ar y dydd Sul cyntaf ym mis Ebrill, sef 6 Ebrill yn 2025. I weld y cyfraddau newydd, dewiswch y dolenni canlynol: Tâl...
Immersive game, person wearing a gaming headset
Mae Gwobrau Technoleg Ymgolli Innovate UK yn dychwelyd ar gyfer 2025! Nod y gwobrau unigryw hyn yw helpu i gysylltu myfyrwyr â’r diwydiant realiti estynedig (XR). Y syniad yw darganfod ble mae’r dalent XR orau yn y Deyrnas Unedig, a chreu llwybr o ddysgu academaidd i ddatrys problemau yn y byd go iawn trwy gyfleoedd interniaeth mewn cwmnïau blaenllaw sy’n arloesi â thechnoleg ymgolli. Dyma gategorïau eleni: Gêm Ymgolli Orau Adrodd Straeon XR Creadigol Synhwyraidd...
hands - person signing a business contract
Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025. Os ydych yn fusnes sy'n cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i chi wybod am y newidiadau hyn a'n cynlluniau i baratoi rhanddeiliaid ar gyfer eu rhoi ar waith. Beth yw'r Platfform Digidol Canolog (CDP)? Y Platfform Digidol Canolog (CDP) fydd pan fydd...
Factory workers
Mae modd gwneud cais ar gyfer Gwobrau Made in the UK, Sold to the World, yr Adran Busnes a Masnach, a bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 23:59 ar 9 Mawrth 2025. Mae'r DU yn dyfeisio, yn creu, yn datblygu, yn gwneud ac yn cynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau anhygoel sy'n cael eu gwerthu i'r byd. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiant allforio busnesau bach y DU. Cyflwynwch gais yn un o'r categorïau...
Business team celebrating
Gwobrau Busnes Prydain yw’r llwyfan gwobrau busnes traws-ddiwydiant cenedlaethol sy'n cydnabod busnesau sy’n nodedig am eu cyflawniadau mewn arloesi, arweinyddiaeth, effaith ESG (amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu) a llwyddiant masnachol. Os ydych chi neu'ch cwmni yn arloesi o fewn y gymuned fusnes Brydeinig, Gwobrau Busnes Prydain yw'r dewis amlwg i gydnabod eich llwyddiant a dathlu'ch busnes ar raddfa genedlaethol. Dyma'r categorïau eleni: Entrepreneur y Flwyddyn Prif Swyddog Gweithredol y flwyddyn BBaCh y Flwyddyn Busnes Mawr y...
Five Star Rating
Fel rhan o waith yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i fynd i'r afael ag adolygiadau ffug mae Google wedi cytuno i wneud newidiadau sylweddol i'w brosesau - sy'n golygu y gall pobl ymddiried yn fwy yn yr adolygiadau maen nhw'n eu gweld. Mae'r ymrwymiadau a lofnodwyd gan Google yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmni gosbi busnesau yn y DU sydd wedi rhoi hwb i'w sgoriau sêr gydag adolygiadau ffug - yn ogystal â...
Port
Mae Porthladd Mostyn yn bwrw ymlaen â'i gynllun i adeiladu angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt arnofiol. Gwnaed hyn yn bosibl ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru roi Trwydded Gwaith Morol i adeiladu cei 350 metr newydd ac adennill 13 erw o dir y tu ôl iddo. Mae'r cei newydd wedi'i gynllunio i alluogi cychod craen ‘jack-up’ mwyaf y byd i angori a llwytho'r tyrbinau. Yn y cyfamser, mae'r...
working group - innovation and ideas
Ydych chi'n fusnes newydd cynaliadwy sy'n ceisio cynyddu eich effaith gymaint â phosibl? Mae Rhaglen Sbarduno Cynaliadwyedd Amazon yn rhaglen heb ecwiti sy'n cefnogi busnesau newydd sy'n sbarduno arloesedd cynaliadwy, a'i nod yw helpu entrepreneuriaid i dyfu eu sgiliau a chynyddu eu busnesau er mwyn iddynt allu cael yr effaith fwyaf posibl ar yr hinsawdd mewn meysydd fel economi gylchol, technoleg ailgylchu a chynhyrchion defnyddwyr mwy cynaliadwy. Manteision y rhaglen yw: Grantiau ariannol Mentoriaeth arbenigol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.