Archives

591 canlyniadau

business growth - target
Mae Upscale yn ôl ar gyfer 2025 fel rhaglen dri mis eang ei heffaith gan Tech Nation a adeiladwyd ar gyfer sylfaenwyr a thimau arwain uchelgeisiol sy'n mynd drwy’r cyfnod allweddol ar ôl Cyfres A. P'un ai ydych chi newydd gau cam A ac yn datblygu'n gyflym neu'n paratoi ar gyfer y cam hollbwysig o godi i Gyfres B (yn aml y cam anoddaf), mae Upscale ar eich cyfer chi. Mae'r rhaglen hon wedi'i hariannu'n...
AI and ethics - digital logos
Bydd grŵp arbenigol yn cyfarfod am y tro cyntaf i edrych ar sut y gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wella gwasanaethau cyhoeddus i bawb sy'n byw yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans yn cynnal cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori Strategol ar AI. Mae'r aelodau'n dod o feysydd busnes ac arloesi, y byd academaidd a chefndiroedd partneriaeth gymdeithasol. Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth...
Florist looking at a digital device
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi lansio ei ymarfer data meintiol mwyaf yn 2025. Arolwg Mawr y Busnesau Bach yw eich cyfle chi i sôn am yr hyn sydd bwysicaf i chi, a bydd eich adborth yn siapio rhaglen bolisi'r Ffederasiwn yn uniongyrchol ac yn eu helpu i hyrwyddo anghenion busnesau bach ledled Cymru. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg: The Big Small Business Survey Wales I...
Deputy First Minister with responsibility for Climate Change and Rural Affairs
Aeth y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd a materion gwledig ar daith o amgylch Lolfa Fusnes flaenllaw Bwyd a Diod Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru, heddiw [dydd Mawrth 22 Gorffennaf] gan weld drosto'i hun sut mae cymorth Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd masnachol mawr i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru. Y llynedd, sicrhaodd y Lolfa Fusnes y canlyniadau mwyaf erioed, gan ddenu 287 o brynwyr o wahanol sectorau'r farchnad a...
small business owner online training
Mae’n bleser gan Small Business Britain gyflwyno'r rhaglen Small and Mighty Enterprise i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol. Mae'r rhaglen achrededig DPP chwe wythnos hon, sy’n rhad ac am ddim ac sy’n anelu at roi hwb mawr i unig fasnachwyr a microfusnesau, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le...
Circular economy concept
Yn barod i arloesi, tyfu ac ennill mwy o waith yng Nghymru? Mae rhaglen Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC) rhaglen hon yn rhoi'r offer, y gefnogaeth a'r rhwydwaith i chi i ymgorffori egwyddorion yr Economi Gylchol, datgloi twf glân, a chyd-fynd ag uchelgeisiau Net Sero Cymru. Pam Ymuno? Torri allyriadau Arbed arian Cryfhau eich busnes Ymunwch â rhwydwaith pwerus o hyrwyddwyr cynaliadwyedd Dewiswch y llwybr cywir i chi: Opsiwn 1: wedi'i ariannu'n llawn – Efallai...
Darcey Harry - Royal Porthcawl Golf Course
Yr haf hwn, mae Cymru’n croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd wrth i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl gynnal y Bencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod, bydd hyn yn gyfle gwych i lawer o fusnesau gymryd rhan a manteisio o’r digwyddiad. Dyma’r tro cyntaf i’r Bencampwriaeth gael ei chynnal yng Nghymru ac, fel y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf i’w gynnal yn y wlad, bydd yn croesawu’r golffwyr gorau yn y byd a’r ymwelwyr i’n harfordir...
person waiting to travel at an airport
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi diwygiadau i'r system fewnfudo. Mae'r newidiadau, y cyntaf i gael eu cyflwyno o'r Papur Gwyn Mewnfudo , yn cynnwys: codi'r trothwy sgiliau ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus, gan ddileu 111 o alwedigaethau cymwys cau'r llwybr fisa gweithiwr gofal cymdeithasol i recriwtio o dramor dim ond caniatáu cyfyngedig o ran amser o dan lefel gradd trwy restr gyflog mewnfudo wedi'i thargedu a rhestr prinder dros dro, ar gyfer rolau hanfodol yn...
People taking a break at a conference
Mae cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) De Cymru yn ôl, gyda siaradwyr a chyfleoedd rhwydweithio er mwyn helpu eich busnes i dyfu. Cynhelir y gynhadledd ar 3 Medi 2025 yn Abertawe a diolch i’r partneriaid, Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Business News Wales, mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i'w fynychu, ond mae cofrestru'n gynnar yn hanfodol. Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn i roi hwb i’ch...
Jar of coins and heart - philanthropy
Mae The Fore yn helpu’r elusennau bach hynny sy'n cael effaith fawr, a gallant gynnig cyllid digyfyngiad o hyd at £45,000 i helpu ymgeiswyr i ehangu, i gryfhau, ac i ddod yn fwy effeithlon neu gydnerth. Mae'r rhaglen grantiau ar agor i: Elusennau Cofrestredig (gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau anghorfforedig elusennol, sefydliadau corfforedig elusennol, a chwmnïau elusennol cyfyngedig drwy warant) Sefydliadau Corfforedig Elusennol Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC) cyfyngedig drwy warant, neu Gymdeithasau Buddiant Cymunedol Bydd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.