Archives

551 canlyniadau

different hands touching a globe
Wythnos y Ffoaduriaid yw'r ŵyl gelfyddydau a diwylliant fwyaf yn y byd sy'n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am noddfa. Wedi'i sefydlu ym 1998 yn y DU, mae Wythnos y Ffoaduriaid yn cael ei chynnal bob blwyddyn tua’r un pryd â Diwrnod Ffoaduriaid y Byd (20 Mehefin) ac mae wedi tyfu i fod yn fudiad byd-eang. Mae’r Wythnos Ffoaduriaid wedi esblygu i fod yn fudiad rhyngwladol, gyda digwyddiadau dros y...
Tiwtora ATOM
Mae athro sy’n awyddus i gynyddu cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi defnyddio cymorth Busnes Cymru i lansio cwmni tiwtora preifat i ddarparu cymorth academaidd pwrpasol ar gyfer dysgwyr yn Gymraeg. Gan gydnabod bod y galw lleol am diwtora trwy gyfrwng y Gymraeg yn drech na’r ddarpariaeth sydd ar gael, aeth Dafydd Jones o Benarlâg, Sir y Fflint, ati i sefydlu Tiwtora ATOM, sy’n cynnig tiwtora personol mewn mathemateg, gwyddoniaeth a bioleg trwy...
Refillable water bottle
Ymgyrch fyd-eang i atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw â llai o wastraff yw Diwrnod Ail-lenwi'r Byd . Mae’r ymgyrch yn ddiwrnod o weithredu sy'n uno cymuned fyd-eang ar 16 Mehefin bob blwyddyn, ac mae wedi'i chynllunio i greu gweledigaeth amgen ar gyfer y dyfodol a chyflymu'r broses i drawsnewid o ddefnyddio plastigion untro i systemau ail-lenwi ac ailddefnyddio. O baned o goffi wrth i chi deithio i’r gwaith, i ddŵr yfed wrth...
Busnes Cymdeithasol Cymru
A yw eich menter gymdeithasol yn cydbwyso elw â buddion diriaethol yng Nghymru?  Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025 ar agor - ac ni allwn aros i gael gwybod mwy am eich sefydliad ac y gwaith gwych rydych yn ei wneud. P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n arwain y mudiad i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol a chreu cyfleoedd mewn cymunedau ledled Cymru, mae yna gategori i chi. Eleni, y categorïau yw: Un...
Engineer fixing solar panels to roof
Mae llywodraeth y DU wedi lansio galwad am dystiolaeth i ddeall sut i harneisio potensial ynni solar gan ddefnyddio meysydd parcio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gallai archfarchnadoedd, parciau manwerthu a swyddfeydd hefyd arbed arian ar eu biliau ynni trwy droi eu meysydd parcio'n 'byrth ceir solar', gan arbed hyd at £28,000 y flwyddyn a phweru busnesau a chartrefi ledled y DU. Mae'r alwad am dystiolaeth yn cau am 11:59pm ar 18 Mehefin 2025...
Shop in Cowbridge - Stwff - stuff
Mae ymchwil ar sut mae enwau eiddo, strydoedd a busnesau yn newid ledled Cymru yn dangos newid clir tuag at ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg. Casglodd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ystod eang o dystiolaeth werthfawr, gan gynnwys y canlynol: Derbyniodd awdurdodau lleol dair gwaith yn fwy o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg nag enwau Saesneg rhwng 2018-2023. Nid yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn iaith enw'r eiddo...
Boxes of fruit and vegetables
Bydd llywodraeth y DU yn dileu gwiriadau ar y ffin ar ffrwythau a llysiau a fewnforir o'r Undeb Ewropeaidd mewn cam cynnar i hwyluso masnach cyn ei gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol newydd gyda'r UE. Mae hyn yn golygu na fydd angen gwiriadau ar ffrwythau a llysiau risg canolig (gan gynnwys tomatos, grawnwin, eirin, ceirios, eirin gwlanog, pupurau, a mwy) a fewnforir o'r UE - ac felly ni fyddant yn dod i rym yr haf hwn...
Business event, networking
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru yn dod â'i Gynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru i Brifysgol Wrecsam ddydd Iau, 26 Mehefin 2025. Diolch i bartneriaethau gyda Business News Wales, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim (rhaid cofrestru). Bydd sesiynau’n rhoi strategaethau ymarferol i fusnesau lwyddo, gan gwmpasu popeth o gael yr apwyntiad cyntaf hollbwysig hwnnw i’w droi’n werthiant a chadw cwsmeriaid ar gyfer refeniw...
man holding hands in a heart shape
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Iechyd Dynion, o 9 i 15 Mehefin 2025, i ddechrau sgyrsiau ac annog gweithwyr i gymryd camau rhagweithiol tuag at iechyd gwell. Mae Wythnos Iechyd Dynion yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd y mae dynion yn eu hwynebu ac yn eu hannog i weithredu. Mae’r ymgyrch yn sicrhau bod gan bob bachgen a dyn fynediad at y wybodaeth, y gwasanaethau a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt i fyw...
Tidal stream turbine blades
Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anelu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau llif lanw, gyda'r potensial i drawsnewid y diwydiant ynni'r llanw. Bydd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mrychdyn, yn ymuno â Menter Môn a thîm Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE) Cymru i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a pherfformiad cyffredinol llafnau ynni llanw. Mae'r prosiect yn un o bump i dderbyn cyfran o...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.