Archives
4101 canlyniadau
Gall y gorchymyn i aros gartref achosi gorbryder i’r rhai sy’n profi neu’n teimlo eu bod mewn perygl o gam-drin domestig. Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig tuag at sicrhau staff y gallant adael eu cartrefi os ydyn nhw’n dioddef cam-drin domestig a bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau cymorth, llochesi a’r heddlu. Gall Byw Heb Ofn gynnig cymorth a chyngor i: unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig unrhyw un sy’n gwybod...
Mae Rhaglen Cymorth Cymunedol C)VID-19 100x100 Barclays yn gwneud 100 rhodd o £100,000 yr un i elusennau yn y DU sy’n gweithio i gynorthwyo cymunedau bregus sy’n cael eu heffeithio gan COVID-19, a’r caledi cymdeithasol ac economaidd cysylltiedig a achosir gan yr argyfwng. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi partneriaid elusennol sy’n diwallu anghenion uniongyrchol pobl yn ein cymunedau, gan gynnwys teuluoedd ar incwm isel, y rhai sy’n wynebu caledi, pobl hŷn wedi’u hynysu...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar sut mae hawliau gwyliau a thâl yn gweithredu yn ystod y pandemig coronafeirws, lle mae’n wahanol i’r canllawiau hawliau gwyliau a thâl safonol. Eu nod yw helpu cyflogwyr ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol, o ran gweithwyr: sy’n parhau i weithio sydd wedi’u rhoi ar ffyrlo fel rhan o gynllun y llywodraeth sef Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Gweithwyr ar ffyrlo Mae gweithwyr sydd ar ffyrlo...
Bydd y gweminar ar ffurf trafodaeth banel ac yn pwyso a mesur sut mae sefydliadau yn darparu cyfleoedd i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud, ydy’r cyfyngiadau symud wedi newid ein ffordd o feddwl am ddysgu a beth mae Sefydliad Bevan a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ei wneud i sicrhau bod gan fwy o bobl y gallu i ddysgu yn hyblyg ac o bell. Bydd o ddiddordeb penodol i: gyflogwyr gweithwyr yn yr economi...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau dan reoliad 7A Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ar gyfer cyflogwyr. Mae’r canllawiau ‘Cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle’ yn cynnwys: Egwyddorion cyffredinol Mesurau Rhesymol Gorfodaeth Adolygu Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.
Pryd rydych chi’n gymwys i gael prawf coronafeirws a sut i gael eich profi. Mae gan gynllun profi cenedlaethol Cymru ar gyfer Covid-19 ddau brif nod – lleihau'r niwed a achosir gan y coronafeirws a helpu’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddychwelyd i'w bywydau bob dydd arferol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar y broses brofi bresennol yng Nghymru, gan gynnwys: pryd i wneud cais am brawf pryd i gymryd y prawf gweithwyr hanfodol...
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol wedi cyhoeddi 24 Mawrth 2020 a’r dyddiau wedi hynny, yn ddyddiau tarfu. ‘Diwrnod tarfu’ yw diwrnod lle nad yw hi’n bosibl cyflawni busnes arferol yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Bydd y Swyddfa yn adolygu’r sefyllfa eto ar 22 Mehefin 2020. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ddyddiadau cau ar gyfer: patentau tystysgrifau diogelwch atodol nodau masnach cynlluniau a cheisiadau ar gyfer yr hawliau hyn, sy’n disgyn ar...
Mae WRAP Cymru’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau’n wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i COVID-19. Fel ymateb i hyn, rydym wedi gwneud newidiadau i’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn, sydd wedi’u cynllunio er mwyn cefnogi mwy fyth o sefydliadau yn gyflymach. Yn ogystal ag ariannu’r defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn nwyddau, mae WRAP Cymru nawr yn gallu cefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu nwyddau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau clir ar: hunanynysu aros gartref a chadw draw oddi wrth bobl eraill Ar 26 Mawrth 2020, cynyddol y llywodraeth ei mesurau i atal lledaeniad coronafeirws ac amlinellu pa fusnesau a safleoedd ddylai gau. Diweddarwyd y canllawiau hyn ar 12 Mai 2020, ewch i wefan LLYW.Cymru am ragor o wybodaeth.
Mae Yswiriant Credyd Masnach yn yswirio cannoedd o filoedd o drafodion busnes i fusnes, yn enwedig mewn sectorau nad ydynt yn wasanaethau, fel gweithgynhyrchu ac adeiladu. Mae’n yswirio cyflenwyr sy’n gwerthu nwyddau yn erbyn y cwmni y maent yn gwerthu iddo yn diffygdalu, gan roi’r hyder i fusnesau fasnachu gyda’i gilydd. Ond yn sgil y Coronafeirws a busnesau’n cael anhawster talu biliau, maent mewn perygl o golli eu hyswiriant credyd, neu bremiymau’n codi i lefelau...
Pagination
- Previous page
- Page 410
- Next page