Archives

4081 canlyniadau

Mae Rhwydwaith Menter Ewrop yn helpu busnesau arloesol, sy’n tyfu, i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd busnes yn Ewrop a’r tu hwnt. Trwy’r rhwydwaith gall eich busnes gael cymorth, yn cynnwys: arloesi i dyfu mynediad at gyllid a threfniadau cyllido mynediad at gynghorwyr ledled y byd dod o hyd i bartneriaid dibynadwy gwneud cysylltiadau byd-eang tyfu ymhellach ac ehangu I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Rhwydwaith Menter Ewrop. For further information please visit...
Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. O ddydd Llun 1 Mehefin 2020, bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws. Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir...
Gall elusennau, ysgolion a grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau hyd at £1,000 drwy Gronfa Gymunedol NFU Mutual Mae’r gronfa ar gael mewn ardaloedd sy’n lleol i weithrediadau NFU Mutual yn y DU Mae ceisiadau’n fwy tebygol o lwyddo os ydyn nhw’n bodloni un neu fwy o flaenoriaethau canlynol y gronfa: cysylltu’r gymuned; lleihau ynysu cymdeithasol, darparu cyfleoedd ac annog cydnerthedd darparu gofal a chymorth i aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed lleddfu tlodi...
Bydd mesurau newydd yn dod i rym ar ffin y DU ar 8 Mehefin 2020. Maent yn cynnwys gofyniad i unrhyw un sy’n dod i mewn i’r DU hunanynysu am 14 diwrnod, heblaw am restr fer o eithriadau. Mae’r rhestr lawn ar gael ar GOV.UK ac yn cynnwys: gweithwyr cludiant ffyrdd a gweithwyr cludo, er mwyn sicrhau na effeithir ar gyflenwad nwyddau gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n teithio i helpu yn y frwydr yn erbyn y...
Yn sgil yr argyfwng COVID-19 bydd llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i ohirio darpariaeth wyneb yn wyneb a/neu hyfforddiant oddi ar y safle. Bydd hyn yn golygu cynnal rhaglenni hyfforddiant y gellir eu darparu ar-lein am y tro. Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yma i gynorthwyo’ch busnes i gynnal hyfforddiant ar-lein. Mae’r Rhaglen yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru i roi cyfraniad ariannol tuag at uwchsgilio gweithwyr busnesau yng Nghymru, Mae hyn yn...
Mae gan gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a phobl sy’n rheoli eu heiddo eu hunain, fel landlordiaid, ddyletswydd i nodi a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â chlefyd y lleng filwyr. Os yw’ch adeilad wedi cau neu os oes llai yn ei ddefnyddio yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19), gall eich system ddŵr ddioddef yn sgil aros yn llonydd am nad yw’n cael ei defnyddio cymaint, gan gynyddu’r perygl o glefyd y lleng filwyr. Ewch i wefan yr...
Mae Pick For Britain yn helpu i ddod â gweithwyr a chyflogwyr at ei gilydd a sicrhau y gall y DU barhau i ddarparu’r ffrwythau a’r llysiau gorau o Brydain i bawb eu mwynhau. Mae gan wefan Pick for Britain wybodaeth ar gyfer tyfwyr, recriwtwyr ac asiantaethau sydd â chyfleoedd swyddi ledled y wlad. O gasglwyr a gweithwyr pecynnu, i gynnal a chadw peiriannau a gyrwyr tractors a wagenni fforch godi, mae dewis eang o...
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau i helpu busnesau sy’n symud o ddarpariaeth ffisegol i ddarpariaeth ddigidol fel rhan o’r ymateb parhaus i Covid-19. Mae’r canllawiau wedi’u llunio’n benodol i gefnogi busnesau sy’n dibynnu’n fwy nag erioed ar wasanaethau TG i gynnal eu busnes. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau ar weithio o gartref, fideo-gynadledda ac adnabod sgamiau e-bost sy’n gysylltiedig â Covid-19. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Ymunwch â gweminar am ddim, a gynhelir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ddysgu mwy am sut i wneud eich gweithle yn ddiogel o ran COVID-19. Bydd y gweminarau yn cynnwys gwahanol fathau o leoliadau gweithle sy’n cael agor. Mae sawl busnes yn gweithredu mwy nag un math o weithle, fel swyddfa, ffatri a fflyd o gerbydau. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio mwy nag un o’r canllawiau/ gweminarau wrth i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd. Gobeithio y bydd y gwiriwr cymhwystra ar gyfer ceisiadau newydd ar agor erbyn canol mis Mehefin 2020, gan roi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio agor y gronfa ar gyfer ceisiadau llawn yn hwyrach yn y mis. Bydd hyn yn agor y ffordd i’r £100 miliwn sydd ar ôl o’r £300 miliwn sydd eisoes wedi’i gymeradwyo a’i ddyrannu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.