Archives
4041 canlyniadau
Ar ddiwedd y cyfnod pontio, pan ddaw Protocol Gogledd Iwerddon i rym bydd newidiadau yn y ffordd o symud nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon. I fusnesau gael clywed am y newidiadau diweddaraf, bydd angen iddynt lenwi’r holiadur Protocol Gogledd Iwerddon ar y sgrin, ei gadw, a’i e-bostio at: hmrctraders@hmrc.gov.uk
Sut gall darparwyr gofal plant ddarparu gofal o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws newydd. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed o deuluoedd cymwys, ar gau i blant newydd ar hyn o bryd. O wneud hyn, mae modd defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithwyr allweddol gyda’u costau gofal plant a chefnogi plant agored...
Yn dilyn cyfarfod gyda’r Cyd-bwyllgor Ymadael ar 12 Mehefin 2020, mae’r DU wedi hysbysu’r UE yn ffurfiol na fydd yn derbyn nac yn ceisio estyniad i’r Cyfnod Pontio. Gan gydnabod effaith y coronafeirws ar allu busnesau i baratoi, bydd y DU yn cyflwyno rheolaethau ffiniau newydd mewn tri chyfnod hyd at 1 Gorffennaf 2021. O fis Ionawr 2021: Bydd angen i fasnachwyr sy’n mewnforio nwyddau safonol, gan gynnwys popeth o ddillad i offer electronig, baratoi...
Mae Furlonteer.com yn galluogi i elusennau ddod o hyd i wirfoddolwyr a all lenwi swyddi hollbwysig ac amrywiol yn ystod y cyfnod hwn; gallai fod yn unrhyw beth o farchnata digidol, codi arian a TG i gadw llyfrau, adnoddau dynol a datblygu busnes. Gall gweithiwr ar ffyrlo gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol, os nad yw’n darparu gwasanaethau i neu’n cynhyrchu refeniw i’ch sefydliad neu’n gwneud hynny ar ei ran neu ar ran sefydliad cysylltiedig. Mae...
Dros yr haf, bydd Grŵp Diddordeb Arbennig Datrysiadau wedi’u Hysbrydoli gan Natur KTN (NIS SIG) yn cynnal cyfres o weminarau byr i bwyso a mesur sut gall mecanweithiau naturiol ysgogi gwaith cynllunio, llywio prosesau a systemau a sbarduno twf glân yn y DU. Mae’r sesiwn gyntaf yn ymchwilio i rôl datrysiadau sy’n cael eu hysbrydoli gan natur wrth weddnewid y diwydiant adeiladu. Trwy ddatgelu’r mecanweithiau a ddefnyddir ym myd natur, gallwch weld sut i’w defnyddio...
Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch – Galwad Agored am Gynigion Arloesol yn chwilio am syniadau arloesol i wella’r dulliau o amddiffyn a/neu ddiogelu’r DU. Gallai’ch syniad fod yn gysyniad, technoleg neu wasanaeth i fynd i’r afael ag unrhyw Faes Ffocws Arloesedd o dan y categorïau canlynol: Mae’r Categori Cynigion Arloesol Newydd ar gyfer cynigion llai aeddfed Mae’r Categori Cynigion Arloesol Effaith Gyflym ar gyfer cynigion sydd wedi datblygu mwy. Disgwylir y bydd rhai cynigion...
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi llunio canllawiau ar sut i ddiogelu eich cwmni rhag sgamiau a thwyll a sut i roi gwybod os yw hyn yn digwydd. Mae’r canllawiau yn cynnwys: Cofrestru ar gyfer ffeilio ar-lein a chadw eich cod dilysu yn ddiogel Cofrestrwch ar gyfer y cynllun PROOF Defnyddiwch y gwasanaeth dilyn am ddim Dewiswch y cyfeiriad gohebiaeth cywir Gwiriwch fod cyfeiriadau gwefannau yn ddilys Byddwch yn ymwybodol o negeseuon e-bost a galwadau ffôn sgamio...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd y cyfnod pontio yn cael ei ymestyn ac y bydd mesurau rheoli ar gyfer mewnforio nwyddau yn gymwys nawr o fis Gorffennaf 2021. Mae CThEM wedi datgelu pecyn newydd o fesurau a chyllid i gyflymu twf sector cyfryngwyr tollau'r DU - gan gynnwys broceriaid tollau, cwmnïau sy’n anfon llwythi ymlaen a gweithredwyr parseli cyflym - er mwyn helpu busnesau i fewnforio ac allforio eu nwyddau drwy sicrhau...
Yn sgil yr argyfwng coronafeirws, efallai na fydd Tŷ’r Cwmnïau yn gallu prosesu dogfennau papur mor gyflym ag y mae’n arfer ei wneud ac mae wedi cyflwyno gwasanaeth dros dro i lanlwytho dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau. Wrth i’r gwasanaeth hwn gael ei ddiweddaru, bydd yn cynnwys mwy o wahanol fathau o ddogfennau a nodweddion fel cydnabyddiaethau a thaliadau. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae’r cynllun Bwrsariaeth Niwclear, a reolir gan yr Academi Sgiliau Niwclear Cenedlaethol (NSAN) yn darparu cymorth ariannol i unigolion ar gyfer cyfleoedd addysg a hyfforddiant gyda’r nod o’u helpu i ddechrau a datblygu eu gyrfaoedd proffesiynol yn y byd niwclear. Mae cylch diweddaraf y Fwrsariaeth Niwclear yn canolbwyntio ar unigolion sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan Covid-19, drwy ddarparu cymorth ariannol i’r rhai sydd ar ffyrlo neu wedi’u diswyddo o gwmni sy’n gweithio yn y sector...
Pagination
- Previous page
- Page 404
- Next page