Archives

3951 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion i wahardd eitemau plastig untro amrywiol ac am glywed eich barn ar sut gall Cymru fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch fyd-eang i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig. Mae’r plastigion untro y cynghorir arnynt yn cynnwys: gwellt troellwyr ffyn cotwm ffyn balŵn platiau a chelfi cynwysyddion bwyd a diod sydd wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ymestyn a; chynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig...
Mae arolygwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal arolygiadau dirybudd mewn dinasoedd a threfi lle mae argyfwng coronafeirws, er mwyn sicrhau bod busnesau yn COVID-ddiogel. Mae bod yn COVID-ddiogel yn golygu bod angen i fusnesau roi addasiadau yn y gweithle ar waith, bod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf a rhoi mesurau ar waith i reoli'r risg a diogelu gweithwyr ac eraill. Mae camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd, gan gynnwys: cam 1...
O 1 Awst 2020 bydd newidiadau yn effeithio ar y grant y gall cyflogwyr ei hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Bydd gofyn i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn ar gyfer gweithwyr sydd ar ffyrlo. Bydd y gweminar ‘Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a ffyrlo hyblyg’ yn cynnig: Trosolwg o’r cynllun, gan gynnwys ffyrlo hyblyg Enghreifftiau o sut i gyfrifo’r swm y gallwch chi ei hawlio...
Mae Clybiau Plant Cymru wedi bod yn cefnogi’r sector gofal plant gydol cyfyngiadau symud Covid-19 gyda chymorth busnes penodol i’r sector, gan gynnwys cynllunio brys a chyllid. Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd lleoliadau gofal plant yn gallu cynyddu nifer y plant y maent yn gofalu amdanynt, maent bellach yn cefnogi lleoliadau gofal plant gyda’u cynlluniau i ailagor, gan gynnwys y canlynol: Gweminarau rhwydwaith - 8 gweminar rhwydwaith am ddim i’w cyflwyno ym mis Awst...
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnes eu hun wrth iddo lansio cronfa £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi. Bydd y pecyn yn darparu: mwy na £20miliwn i ysgogi cyflogwyr i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid, cynyddu capasiti rhaglenni hyfforddeiaeth a chefnogi mwy o raddedigion i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl bron £9miliwn...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar y canlynol: Os ydych chi yn y DU a bod eich dyddiad gadael yn dod i ben rhwng 24 Ionawr 2020 a 31 Gorffennaf 2020 Os ydych chi'n gweithio i'r GIG Os ydych chi y tu allan i'r DU Os ydych chi'n gwneud cais i ddod i mewn i'r DU neu'n aros ar sail bywyd teuluol neu breifat Os ydych chi am ganslo'ch fisa Canolfan Cymorth Mewnfudo...
Rhagor o gymorth gyda chofrestru, cymhwysedd a sut i gynnig y gostyngiad ar gyfer cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’. Y sefydliadau cymwys yw'r rhai lle caiff bwyd ei werthu i'w fwyta'n syth ar y safle. Gallai hyn gynnwys: bwytai caffis tafarndai sy'n gweini bwyd bwytai mewn gwestai bwytai a chaffis mewn atyniadau i dwristiaid, safleoedd gwyliau a chyfleusterau hamdden ystafelloedd bwyta o fewn clybiau aelodau ffreuturau yn y gweithle ac mewn ysgolion I gael...
Ar 31 Rhagfyr 2020 bydd cyfnod pontio’r DU gyda’r UE yn dod i ben a bydd y DU yn gweithredu ffiniau llawn, allanol fel cenedl sofran. Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Ffiniau 2025 y DU ac mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar sut y gall systemau digidol newydd wella profiad masnachwyr a theithwyr a gwneud y DU yn lle mwy diogel. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Awst...
Mae Gwobrau'r Frenhines am Fenter yn cael eu rhoi am gyflawniad rhagorol busnesau'r DU yn y categorïau hyn: arloesi masnach ryngwladol datblygu cynaliadwy hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol Beth fydd yn digwydd os bydd eich cwmni’n ennill Os byddwch yn ennill, byddwch yn: cael eich gwahodd i'r derbyniad Brenhinol derbyn y wobr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan un o gynrychiolwyr y Frenhines sy’n Arglwydd Raglaw, yn eich cwmni cael hedfan baner Gwobrau'r Frenhines...
Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau a rennir, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2020 ymlaen, ynghyd ag atyniadau tanddaearol. Dyma nodi carreg filltir bwysig gan y bydd atyniadau Cymru i ymwelwyr yn ailagor yn llawn. Hefyd, bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020. Dyma’r cam diweddaraf yn y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.