Archives

3851 canlyniadau

Mae’r DU wedi gadael yr UE. Ar 31 Rhagfyr 2020, bydd y DU yn gadael marchnad sengl yr UE a’r undeb dollau. Mae CThEM wedi creu cyfres o fideos byr gyda’r nod o helpu’r busnesau hynny sy’n gwbl anghyfarwydd â thollau: Beth yw Tollau? Beth rydych chi angen ei wybod i ddod â nwyddau i mewn i'r DU? Beth rydych chi angen ei wneud i anfon nwyddau allan o'r DU?
Mae Llywodraeth y DU yn ymestyn pedwar cynllun benthyciadau dros dro a gynlluniwyd i gefnogi busnesau'r DU sy'n colli refeniw ac sy'n profi tarfu ar eu llif arian o ganlyniad i argyfwng COVID-19. Bydd mwy o fusnesau nawr yn gallu elwa ar y canlynol: Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS) Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS) Cynllun Benthyciadau Adfer (BBLS) Cronfa Swyddi’r Dyfodol Bydd y cynlluniau'n...
Mae Estyniad i’r Grant SEISS yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r hunangyflogedig. Bydd y grant yn gyfyngedig i unigolion hunangyflogedig sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer y SEISS ac sy'n parhau i fasnachu ond sy'n wynebu llai o alw oherwydd COVID-19. Bydd yr estyniad yn darparu dau grant a bydd yn para chwe mis rhwng Tachwedd 2020 ac Ebrill 2021. Telir y grantiau mewn dau gyfandaliad, pob un yn cwmpasu cyfnod o dri...
Mae Hwb Menter M-Sparc a Rhaglen Cyflymu Twf Cymru (AGP) wedi ymuno i ddod â mis yn llawn dop o ddigwyddiadau ysbrydoledig trwy gydol mis Hydref. Trwy ddewis neu ffawd, mae'r siaradwyr i gyd wedi newid gyrfa ac wedi cychwyn busnes. Cewch glywed eu straeon, dysgu mwy am fyd busnes, am wytnwch, a sut y gall eich meddylfryd effeithio ar lesiant ym myd busnes! Mae'r siaradwyr yn cynnwys: Mark Williams o LIMB-art – cyn nofiwr...
Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140 miliwn o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil Covid-19 ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE. Bydd trydydd cymal Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy o arian i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol. Trwy gymal newydd...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol gan y llywodraeth i roi sicrwydd i fusnesau a gweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws ledled y DU. Mae pecyn o fesurau wedi’i gyhoeddi a fydd yn parhau i ddiogelu swyddi a helpu busnesau drwy’r misoedd i ddod. Mae’r pecyn yn cynnwys Cynllun Cefnogi Swyddi newydd, a fydd yn dechrau ar 1 Tachwedd 2020, ymestyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a gostyngiad o 15% mewn...
Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn. Cynnwys: Cyffredinol Cwrdd â phobl o dan do Gweld pobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig Gorchuddion wyneb Ymweld â lleoedd Bwytai, caffis, tafarndai a gwerthu alcohol Casglu gwybodaeth gyswllt Adloniant Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus Siopa a bwyd Gwasanaethau cysylltiad agos Chwaraeon a gweithgareddau awyr agored Symud tŷ Mannau addoli, priodasau a...
Busnesau lletygarwch yng Nghymru i gau am 10pm, daw hyn wrth i fesurau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru i atal argyfwng newydd oherwydd y coronafeirws. O ddydd Iau ymlaen, gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig y bydd busnesau lletygarwch yn cael ei gynnig, a bydd siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, yn gorfod rhoi’r gorau i werthu alcohol am 10pm. Mae’r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cydgysylltiedig sy’n cael eu...
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yr adnoddau i helpu cyflogwyr i gefnogi staff sydd â straen cysylltiedig â gwaith a chyflyrau iechyd meddwl. Gall cynllunio, hyfforddiant a chymorth oll ysgafnhau’r pwysau a dod â lefelau straen i lawr. Gall canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch eich helpu i gefnogi iechyd meddwl drwy reoli straen sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’n cynnwys canllawiau ar adnabod arwyddion o straen, ynghyd â dolen i becyn cymorth...
Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn newid o 1 Hydref 2020. Bydd Llywodraeth y DU yn talu 60% o gyflogau hyd at derfyn o £1,875 am yr oriau y mae’r gweithiwr ar ffyrlo. Bydd cyflogwyr yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol seiliedig ar enillion a chyfraniadau pensiwn ac yn ychwanegu at gyflogau gweithwyr i sicrhau eu bod yn derbyn 80% o’u cyflogau gyda therfyn o £2,500 am yr amser y maent ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.