Archives

391 canlyniadau

Elliot Tanner of Stashed Products
Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb gyda'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) i gefnogi busnesau ac i sbarduno mwy o fuddsoddiad mewn creadigrwydd ac arloesedd. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) yn cydnabod pwysigrwydd rheoli asedau ac eiddo deallusol (IP) yn effeithiol ar gyfer ysgogi twf yr economi. Mae'n gosod y sylfeini i'r ddau sefydliad weithio'n agosach â'i gilydd i roi cymorth ac arweiniad gydag IP i fusnesau arloesol yng Nghymru. Daw hyn â manteision cymdeithasol ac economaidd...
Marketing meeting
Enillwch £5,000 i dyfu eich busnes ar y stryd fawr. Mae Realising the Remarkable yn ôl! Mae Enterprise Nation a VistaPrint yn dod ynghyd eto i hyrwyddo busnesau annibynnol ar y stryd fawr yn y Deyrnas Unedig. Os ydych chi’n rhedeg siop, caffi neu unrhyw safle masnachol arall, dyma'ch cyfle i gymryd y cam beiddgar nesaf. Bydd y gronfa’n dosbarthu £30,000 i fusnesau manwerthu annibynnol bach yn y DU i'w helpu i wireddu eu huchelgeisiau...
Engineers meeting - robotics
Ydych chi’n entrepreneur, yn fusnes bach neu’n ddyfeisiwr sydd â syniad arloesol am gynnyrch neu wasanaeth? Neu efallai eich bod yn fusnes bach a chanolig sy’n wynebu heriau o ran datblygu cynnyrch neu weithgynhyrchu? Ymunwch â ni am sesiwn galw heibio un-i-un am ddim i gael arweiniad a chymorth arbenigol. Bydd AMRC Cymru yn darparu cymorth technegol un-i-un i’ch helpu i strwythuro eich problem a/neu’ch syniad am gynnyrch, ac i edrych ar ffyrdd posibl ymlaen...
children looking at a map
Ledled Ewrop, anogir 700 miliwn o Ewropeaid a gynrychiolir gan 46 o aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop i ddysgu mwy o ieithoedd, beth bynnag eu hoedran. Mae Cyngor Ewrop yn argyhoeddedig bod amrywiaeth ieithyddol yn ffordd o sicrhau gwell dealltwriaeth ryngddiwylliannol, ac yn elfen allweddol o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein cyfandir. Felly, mae Cyngor Ewrop yn hyrwyddo amlieithedd dros Ewrop gyfan. Drwy fenter Cyngor Ewrop, rydyn ni wedi dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop ar 26 Medi bob blwyddyn...
campsite
Ar 18 Medi 2025, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf sy'n caniatáu i gynghorau gyflwyno ardoll ymwelwyr dros nos i godi arian ar gyfer twristiaeth leol. Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno tâl bach ar gyfer arosiadau dros nos, gyda'r holl arian yn cael ei ailfuddsoddi'n lleol i gefnogi twristiaeth. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ar gyfer cynghorau. Mae'r gyfraith hefyd...
UK Defence - soldier
Cymru i dderbyn cyfran o £250 miliwn o gyllid i greu partneriaethau hirdymor. Mae Bargeinion Twf Amddiffyn yn cael eu creu fel rhan o fenter feiddgar i gefnogi potensial twf y diwydiant amddiffyn, wedi ei ategu gan y cynnydd hanesyddol mewn gwariant ar amddiffyn i 2.6% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027 a’r uchelgais i gyrraedd 3% yn y Senedd nesaf.   Gan ddefnyddio cyfran o £250 miliwn o arian ar gyfer Bargeinion Twf Amddiffyn y...
Modern dancer
Mae'r Gwobrau Agored yn cynnig deg cyfle i artistiaid anabl sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, yr Alban neu Loegr. Mae'r gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £413,000 i artistiaid anabl gyda gwobrau unigol yn amrywio o gomisiynau sbarduno gwerth £15,000 i £80,000 ar gyfer cefnogaeth sylweddol i gynyrchiadau sy’n barod i’w harddangos. Mae'r rownd hon o wobrau comisiynu yn cefnogi artistiaid anabl beiddgar, gwych i greu, datblygu a rhannu gwaith anhygoel. Croesewir ceisiadau gan artistiaid...
small business owner
Mae Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru newydd gwerth £40 miliwn wedi'i lansio gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi allbryniannau a mewnbryniannau gan reolwyr ledled y wlad, gan helpu i gynnal perchnogaeth Gymreig, diogelu swyddi, a sicrhau parhad busnes hirdymor. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd, mae'r gronfa'n cynnig pecynnau ecwiti a dyled strwythuredig rhwng £500,000 a £5 miliwn gyda thelerau hyd at saith mlynedd. Rhagwelir y bydd yn cefnogi mwy na 1,000 o...
robot hand and human hand
Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer AI Week 2025, gŵyl dysgu ar-lein, 10 diwrnod am ddeallusrwydd artiffisial y DU. O 13-24 Hydref 2025, bydd Arweinwyr Digidol yn cynnal yr 8fed ŵyl ar-lein fwyaf o ddysgu am ddeallusrwydd artiffisial yn y DU. Yn ystod y 10 diwrnod, byddwch yn elwa ar mewnwelediadau ymarferol a phersbectifau newydd gan 240 siaradwr arbenigol o fyd busnes, llywodraeth, academaidd, ac o’r sector elusennol. Pam ddylid mynychu? datblygu hyder gyda...
Cabinet Secretary Rebecca Evans with representatives of Challoch Energy Ltd and the South Cornelly Renewable Energy Community Interest Company (SCRE-CIC)
Bydd prosiectau ynni gwyrdd ledled Cymru yn rhannu dros £12.9 miliwn i gefnogi eu hymdrechion tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol. O osod paneli solar a phympiau gwres i storio batris a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, bydd y 48 o brosiectau llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod y trawsnewid i ynni glân o fudd uniongyrchol i gymunedau Cymru. Nod Cynllun Grant Cyfalaf Ynni Cymru yw cyflymu'r gwaith o ddefnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ac...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.