Archives

3701 canlyniadau

Am wybod sut gall defnyddio’r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes? Ymuna yn ddigwyddiad rhithiol Helo Blod ‘Defnyddio’r Gymraeg – Cadw cwsmeriaid Ffyddlon’ yn rhad ac am ddim, i glywed gan 3 busnes – Jin Talog, Sir Gâr, Dyfi Reflexology, Powys a Beeswax Fabric Wraps, Ynys Môn sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn llwyddiannus. Mae’n gyfle hefyd i ddysgu sut gall Helo Blod helpu dy fusnes ddefnyddio’r Gymraeg am ddim: Dod â phobl at ei...
WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol o blymwyr cymeradwy. Mae ganddi gefnogaeth holl gwmnïau dŵr y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, a'r rheoleiddiwr dŵr yfed. Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo plymwyr medrus er mwyn helpu i gadw dŵr yfed Cymru’n ddiogel a’i amddiffyn rhag difwyniad. Mae holl Blymwyr Cymeradwy WaterSafe wedi cael hyfforddiant penodol ac wedi ennill cymwysterau'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Ac am fod rhaid i bob eiddo sy'n cael eu cyflenwadau gan Ddŵr...
Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch (DASA) wedi lansio cystadleuaeth arloesi er mwyn datblygu galluoedd newydd ar gyfer yr heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i rwystro troseddwyr arfog neu dreisgar gan ddefnyddio’r grym lleiaf posibl o bell. Mae Datblygu Arfau Llai Dinistriol yn gofyn i’r diwydiant a’r byd academaidd am gynigion ar gyfer technolegau arloesol sy’n gallu rhwystro unigolyn treisgar neu arfog dros dro er mwyn atal gwrthdaro pellach neu ddifrod i eiddo. Mae cyllid...
O fis Ebrill 2023, bydd rhaid i Hunanasesiadau Treth Incwm landlordiaid a busnesau anghorfforedig sydd ag incwm busnes neu eiddo o fwy £10,000 y flwyddyn gael eu cyflwyno ar-lein. Dysgwch am gynlluniau CThEM i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid gyflwyno eu manylion treth yn gywir a rheoli eu materion treth yn fwy effeithlon. Mae CThEM yn cynnal gweminar fyw sy’n rhoi trosolwg o Troi Treth yn Ddigidol, a bydd yn rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf gydag Hunanasesiadau...
Y Gwobrau hyn yw’r digwyddiad galwedigaethol mwyaf ei fri yng Nghymru, ac maent yn anrhydeddu llwyddiannau rhagorol busnesau, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae pedwar categori o wobrau ar gyfer cyflogwyr: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49 o weithwyr) Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 - 249 o weithwyr) Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 - 4999 o...
O ddydd Mercher, bydd y sefydliadau canlynol yn gallu gwneud cais am gyfran o £18.5 miliwn Cronfa Adfer Ddiwylliannol: cherddoriaeth stiwdios recordio a rihyrsio cyrff treftadaeth ac atyniadau hanesyddol amgueddfeydd ac archifdai llyfrgelloedd digwyddiadau a’u cyflenwyr technegol sinemâu annibynnol sector cyhoeddi Mae Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi bod ar gael ers 1 Medi 2020. Bydd grant (na fydd angen ei dalu’n ôl) o hyd at £150,00 (ar gyfer hyd at 100% o’r costau...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan gyhoeddi bydd gwisgo mygydau mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yn dod yn orfodol yng Nghymru o ddydd Llun 14 Medi 2020, ond ni fyddent yn orfodol mewn gweithleoedd. O ddydd Llun 14 Medi ymlaen bydd hi hefyd yn anghyfreithlon i fwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig ymgynnull dan do yng Nghymru. Ni fydd y rheol yn berthnasol...
Mae busnesau ledled Cymru a Lloegr, fel tafarndai, bwytai, salonau trin gwallt a sinemâu, yn cael eu hannog i arddangos posteri cod QR y GIG yn eu mynedfeydd, fel bod cwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho ap COVID-19 newydd y GIG yn gallu defnyddio eu ffonau clyfar i gofrestru’n hawdd yn y lleoliadau hyn. Daw'r cam cyn lansio ap COVID-19 y GIG ledled Cymru a Lloegr ddydd Iau 24 Medi 2020. Bydd cofrestru gyda'r ap yn galluogi...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar Ddeallusrwydd Artiffisial a diogelu data. Mae’r canllawiau yn cynnwys y canlynol (yn Saesneg): Beth yw goblygiadau atebolrwydd a llywodraethu Deallusrwydd Artiffisial? Beth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau system Deallusrwydd Artiffisial cyfreithlon, teg a thryloyw? Sut dylem ni asesu diogelwch a lleihau data ym maes Deallusrwydd Artiffisial? Sut mae sicrhau hawliau unigol yn ein systemau Deallusrwydd Artiffisial? Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r...
Mae’r Advanced Propulsion Centre (APC) yn buddsoddi hyd at £30 miliwn, deirgwaith y flwyddyn, mewn prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol. Mae’r rhain yn brosiectau cyn-cynhyrchu â chyllid cyfatebol. Yn y cylch hwn, mae APC yn buddsoddi £27 miliwn. Mae’n rhaid i’ch prosiect ganolbwyntio ar y farchnad fodurol fel y prif ddefnydd ohono. Mae APC 17 yn chwilio am: brosiectau sy’n cefnogi galluoedd hirdymor y DU drwy sicrhau buddsoddiad hirdymor mewn ymchwil a datblygu prosiectau y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.