Archives

3601 canlyniadau

Mae y Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd cyfyngiadau symud lefel rhybudd pedwar yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall er mwyn rhoi cyfle i'r GIG adfer. Mae grantiau Ardrethi Annomestig a grantiau Dewisol i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gyfer y sectorau manwerthu dianghenraid, lletygarwch, twristiaeth a hamdden wedi'u hymestyn i ddarparu un taliad ychwanegol i dalu am y cyfnod rhwng 25 Ionawr a diwedd Mawrth 2021 ar gyfer busnesau y mae cyfyngiadau cenedlaethol...
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau penodol ar bryd y dylech wneud adroddiad RIDDOR (dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus) ar COVID-19. Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylech chi wneud adroddiad dan RIDDOR yn ymwneud â’r coronafeirws: pan fo damwain anfwriadol yn y gwaith wedi rhoi rhywun mewn perygl o ddod i gysylltiad posibl neu wirioneddol â’r coronafeirws, mae’n rhaid cofnodi hyn fel digwyddiad peryglus pan...
Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 8 a 14 Chwefror 2021. Mae'n ddathliad blynyddol o brentisiaethau, a'r gwerth y maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr, ar draws Cymru. Mae prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau recriwtio talent newydd, sy’n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol a galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau. Mae Wythnos Prentisiaethau, sy’n dod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd, yn amlygu'r...
Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon wedi'i chynllunio i helpu gweithwyr llawrydd ym maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol i adfer y colledion maent wedi'u profi o ganlyniad i'r pandemig COVID-19. Mae'r gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd y mae eu gwaith yn darparu gweithgarwch yn uniongyrchol i gyfranogwy r (e.e. hyfforddwyr personol, cyfarwyddwyr/ ymarferwyr a hyfforddwyr cyflogedig) sydd wedi colli o leiaf £2,500 o incwm oherwydd pandemig. Bydd gweithwyr llawrydd sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn cael...
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 5 Chwefror 2021. P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg. Sut y gall dy fusnes gymryd rhan: ymuna â'r sgwrs drwy ddefnyddio #dyddmiwsigcymru dilyna ni ar Twitter a Facebook rhanna’r dudalen hon gyda dy...
Gallwch barhau i wneud gwaith gwirfoddol o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru - ond mae’n rhaid i chi wneud hynny o gartref os yw hynny’n ymarferol. Mae rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau lefel rhybudd 4 ar gael yn adran Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru. Gallwch ganfod a chofrestru cyfleoedd gwirfoddoli i gynorthwyo gyda’r pandemig Coronafeirws ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Os ydych chi’n chwilio am fwy o gyfleoedd gwirfoddoli lleol, gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) lleol.
Mae #SheMeansBusiness yn safle i fenywod entrepreneuraidd wneud cysylltiadau gwerthfawr, i rannu cyngor, ac i symud ymlaen gyda’i gilydd. Gyda chyngor busnes, cyrsiau ar-lein, astudiaethau achos, pethau i’w lawrlwytho, a digwyddiadau i gefnogi eich busnes. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan She Means Business. Ewch i wefan Cefnogi Menywod yng Nghymru i weld pa gymorth sydd ar gael i fenywod sy’n entrepreneuriaid.
Ymrwymiad yw’r Siarter gan Drysorlys EM a chwmnïau sydd wedi’i lofnodi i weithio gyda’i gilydd i greu diwydiant mwy cytbwys a theg. Mae cwmnïau sy'n ymrwymo i’r Siarter yn addunedu y byddan nhw’n dod yn un o’r busnesau gorau yn y sector. Mae’r Siarter: yn rhwymo cwmnïau i gefnogi menywod i symud ymlaen i swyddi uwch yn y sector gwasanaethau ariannol drwy ganolbwyntio ar y ffrwd sy’n bwydo’r haen weithredol a lefel yr haenau canol...
Os na wnaethoch chi gyflwyno’ch hawliad ffyrlo mis Rhagfyr erbyn y dyddiad cau ar 14 Ionawr, efallai y bydd CThEM yn barod i’w dderbyn o hyd os oes gennych chi esgus rhesymol am beidio â hawlio erbyn y dyddiad cau, er enghraifft eich bod yn hunanynysu neu wedi gorfod aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, a oedd yn golygu nad oeddech chi wedi gallu ei gwblhau. Os yw’ch rheswm yn golygu y gallwch chi hawlio’n hwyr...
Nid yw'r Gyfarwyddeb e-fasnach yn berthnasol i'r DU mwyach, gan fod y cyfnod pontio bellach ar ben. Gall rheolau sy'n ymwneud â gweithgareddau ar-lein yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd fod yn berthnasol o'r newydd i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU sy'n gweithredu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan fod y cyfnod pontio bellach ar ben. Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau ar-lein, dylech gymryd camau mewn ymateb i'r newidiadau hyn. Mae canllawiau, sy'n amlinellu'r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.