Archives
3541 canlyniadau
Rheolau newydd i fusnesau Rhaid i chi ddatgan unrhyw nwyddau rydych chi'n eu hanfon i'r UE, gan roi manylion am yr hyn rydych chi'n ei anfon a'i werth, gan ddefnyddio ffurflen datganiad tollau. Gallwch chi gael cyfryngwr tollau i'ch helpu chi i wneud hyn. Os ydych chi'n anfon nwyddau gan ddefnyddio gweithredwr parseli cyflym neu gludwr cyflym, byddan nhw'n datgan y nwyddau ar eich rhan, gan ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Gallai'r opsiwn hwn...
Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cael eu hannog i ymrestru am ddim ar gyfer cyfeirlyfr ar-lein sy’n caniatáu iddynt hyrwyddo eu cynhyrchion i brynwyr yn y DU ac ar draws y byd. Mae Cyfeirlyfr Bwyd a Diod Cymru yn bodoli i godi ymwybyddiaeth a sbarduno gwerthiant cynhyrchion Cymru ac mae eisoes yn cynnwys cofnodion gan dros 600 o gwmnïau. Mewn ymdrech i hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effeithlonrwydd gwastraff, mae nodweddion newydd...
Gwybodaeth am dreuliau a buddion trethadwy sy’n cael eu talu i weithwyr oherwydd y coronafeirws a sut i hysbysu CThEM amdanynt. Mae’r cynnwys yn trafod: Profion coronafeirws (COVID-19) Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) Llety byw Costau tanwydd a milltiroedd gwirfoddolwyr Talu neu ad-dalu costau teithio Prydau am ddim neu am bris gostyngol ‘Argaeledd’ car cwmni Cynlluniau Perchnogaeth Car Gweithwyr Aberthu cyflog Benthyciadau a ddarperir gan gyflogwyr Gweithwyr yn gweithio gartref Sut i hysbysu CThEM Am ragor...
Bydd Pythefnos Masnach Deg 2021 rhwng 22 Chwefror a 7 Mawrth. Thema eleni yw Cyfiawnder yr Hinsawdd. Bob blwyddyn, mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ar draws y DU i ddathlu llwyddiannau Masnach Deg, a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud. Gyda’r pandemig COVID byd-eang sydd wedi ymddangos, mae’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu bellach yn fwy nag erioed gyda phrisiau is ac ergydau ar...
Bydd panel o ffigyrau blaenllaw o ddiwydiant modurol y DU yn archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau i fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi sy’n dod i’r amlwg yn gyflym iawn ar gyfer ceir wedi’u trydaneiddio ac i fanteisio ar y twf yn y galw yn y farchnad gartref a thramor wrth i ni bontio i ddyfodol sero-net. Cynhelir y gweminar ddydd Iau 25 Chwefror 2021 rhwng 10.30am a 11.30am. I ddysgu mwy ac...
Bydd y cyfyngiadau ‘aros gartref’ yn parhau yng Nghymru wrth i’r plant lleiaf ddechrau mynd yn ôl i’r ysgol o ddydd Llun 22 Chwefror 2021. Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau’r coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd newidiadau bach i’r rheolau presennol: O ddydd Sadwrn 20 Chwefror, bydd pedwar person o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod y tu allan i wneud ymarfer corff yn lleol gan gadw pellter wrth ei gilydd. Nid yw hyn...
A wnaeth eich cwmni arwain prosiect llwyddiannus rydych chi'n falch iawn ohono? Oes gennych chi gydweithiwr arbennig sy’n haeddu cydnabyddiaeth? Yna beth am gymryd rhan yng Ngwobrau Ffederasiwn Bwyd a Diod 2021. Dyma gategorïau'r gwobrau: prentis y flwyddyn lansiad brand y flwyddyn gwydnwch busnes ymgyrch y flwyddyn partner cymunedol deiet ac iechyd menter addysg busnes sy'n dod i’r amlwg arweiniad amgylcheddol allforiwr y flwyddyn peiriannydd bwyd a diod y flwyddyn technolegydd bwyd a diod /...
Newydd: Canllawiau cam wrth Gam ar fewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE: Mae rheolau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a gwledydd yn yr UE. Waeth a ydych yn cwblhau datganiadau tollau eich hun neu'n cael cyfryngwr i wneud hynny ar eich rhan, bydd y canllawiau hyn yn eich tywys chi drwy bob cam ac yn nodi eich opsiynau. Mewnforio nwyddau i'r DU: cam wrth gam: Sut i...
Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru. Eleni. fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau oherwydd y Coronafeirws yn golygu y bydd rhaid canolbwyntio ar weithgareddau rhithiol rhwng 20 Chwefror a 7 Mawrth 2021. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n ffurfiol i lansio Cronfa Cymorth Llifogydd, sydd ar gael i BBaChau yng Nghymru (gan gynnwys unig fasnachwyr a microfusnesau) i'w helpu i adfer eu busnesau yn dilyn difrod ac aflonyddwch stormydd Bella a Christoph. Gall busnesau sy'n ceisio dod dros effeithiau dinistriol y llifogydd wneud cais am grant o £2,500 i'w helpu gyda chostau uniongyrchol cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i'r Gronfa Cymorth...
Pagination
- Previous page
- Page 354
- Next page