Archives

361 canlyniadau

MES worker inside engine
Lleolir pencadlys Metrology Engineering Services (MES) yn Sain Tathan ac mae’r brif swyddfa beirianneg wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, Cymru. Mae MES yn helpu i ail-lunio gwaith atgyweirio awyrennau trwy ddefnyddio technoleg ddigidol uwch. Gyda chymorth gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi buddsoddi mewn technoleg newydd, mae wedi creu swyddi medrus ac mae wedi esgor ar atebion cynaliadwy sydd wedi arbed miliynau o bunnoedd i gwmnïau hedfan ledled y byd. Sefydlwyd MES yn 2023...
Digital checklist
Mae Adolygiadau Diogelwch Arloesi Diogel yn cynnig canllawiau arbenigol, wedi'u teilwra i fusnesau technoleg arloesol yn y DU sydd yng nghyfnod cynnar eu cyfnod i’w helpu i amddiffyn eu syniadau, eu technolegau, eu mantais gystadleuol a'u henw da. Yn cael ei gyflwyno gan adolygwyr diogelwch cymeradwy, mae'r gwasanaeth yn helpu busnesau i nodi a rheoli risgiau diogelwch allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â bygythiadau gan y wladwriaeth ac yn eu helpu i integreiddio...
wind turbine
Mae daearyddiaeth unigryw, lleoliad strategol a degawdau o arbenigedd morwrol a diwydiannol yn gosod porthladdoedd Cymru yn borth naturiol i ddatgloi potensial rhyfeddol gwynt ar y môr. Dyna'r neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, wrth iddi lansio Prosbectws Porthladdoedd Llywodraeth Cymru yng nghynhadledd Dyfodol Ynni Cymru heddiw (7 Hydref). Rhagwelir y bydd y sector gwynt ar y môr yn creu 29,000 o swyddi, yn sicrhau effaith economaidd o...
group of employees smiling
Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia 2025 (#DAW25) yn cael ei chynnal o ddydd Llun 6 Hydref tan ddydd Sul 12 Hydref 2025. Thema'r wythnos fydd Dyslecsia: Codi Llais. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dyslexia Awareness Week - British Dyslexia Association . Mae pob person â dyslecsia yn ei brofi mewn ffordd unigryw iddyn nhw. Bydd gan bob un ei gryfderau a'i heriau ei hun a byddant yn cerdded eu llwybrau eu...
woman wearing a headscarf in conversation
Gwnewch gais i gronfa’r Grant Sgyrsiau am yr Hinsawdd i gynnal eich digwyddiad cymunedol eich hun yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru neu ar ôl hynny. Grant gan Lywodraeth Cymru yw'r gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd. Gall mudiadau sydd â chysylltiadau â chymunedau wneud cais am gyllid i gynnal digwyddiadau lleol. Nod y gronfa yw casglu tystiolaeth a syniadau gan y cyhoedd. Bydd yr wybodaeth hon wedyn yn llywio proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru am y...
Viking Venus ship in Holyhead
Mae Cymru'n dod yn wlad y mae'n rhaid ymweld â hi ar gyfer mordeithiau, gyda’r ffigurau newydd yn datgelu cynnydd mewn ymweliadau llongau dros y blynyddoedd diwethaf. Croesawodd y wlad 84 o longau mordeithio yn 2025, sy'n gynnydd o fwy na 100% o'i gymharu â'r 41 o longau a ymwelodd â phorthladdoedd Cymru yn 2021. Mae'r twf parhaus hwn yn dangos cydnabyddiaeth gynyddol Cymru fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld ag ef ymhlith teithwyr mordeithio...
Family walking with children
Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith, sy’n cael ei chynnal er 2010, yw ymgyrch flynyddol Working Families i annog cyflogwyr a gweithwyr i siarad am les yn y gwaith a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos i ddarparu gweithgareddau ar gyfer staff, ac i arddangos eu polisïau a’u harferion gweithio hyblyg. Daw Wythnos Genedlaethol Bywyd Gwaith eleni ar adeg dyngedfennol o ran ein hystyriaeth o hyblygrwydd a chynhwysiant yn y gweithle. O dan y...
Clwb Ifor Bach
Mae’r trydedd rownd o gyllid yn cefnogi 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios a busnesau ledled Cymru. Dyfarnwyd hyd at £40,000 yr un i 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios recordio, mannau ymarfer a chanolfannau celfyddydau o bob cwr o Gymru i roi hwb i'w gwaith a'u cynaliadwyedd ar gyfer eu llwyddiant hirdymor. Bellach yn ei thrydedd rownd, mae Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol (MCF) yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 - cyfanswm o dros £700,000...
raven
“Rhoddodd y Rhaglen Cyflymu Twf i ni’r eglurder strategol roedd ei angen arnom ni i droi grŵp o arbenigwyr technegol yn rym unedig gan symbylu adeiladau iachach, mwy cynaliadwy ar draws y DU a thu hwnt.” Mae Grŵp Raven Delta, sydd wedi ei leoli yn Abertawe, yn chwyldroi’r modd rydyn ni’n meddwl am adeiladau. Yn hytrach na’u gweld nhw’n strwythurau statig, mae’r Grŵp yn eu trin nhw’n amgylcheddau deinamig sy’n cael effaith uniongyrchol ar ein...
family walking through and airport
Bob blwyddyn mae'r DU yn croesawu miliynau o ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Gall hyn gynnwys gwyliau, cyfnod astudio tymor byr neu daith busnes. Mae Llywodraeth y DU yn gwneud gwelliannau i ddarparu system fewnfudo ddigidol symlach a fydd yn gyflymach ac yn fwy diogel i'r miliynau o bobl sy'n pasio trwy ffiniau’r DU bob blwyddyn. Mae angen Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) ar ymwelwyr â'r DU os nad oes angen fisa arnyn nhw ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.