Archives

3221 canlyniadau

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnata (CMA) wedi nodi ei safbwynt ar y mathau o honiadau amgylcheddol camarweiniol a wneir am gynhyrchion a allai fod yn torri'r gyfraith, ac mae’n gofyn am ymateb ar ganllawiau drafft i fusnesau am honiadau 'gwyrdd'. Mae hyn yn seiliedig ar adolygiad gofalus o sut mae'r honiadau hyn yn cael eu gwneud a sut mae pobl yn ymateb iddynt. Mae'n esbonio'r ffordd orau i fusnesau gyfleu eu rhinweddau gwyrdd, gan leihau'r...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi ehangu ei gyfres o becynnau cymorth i siarad i gynnwys fersiynau penodol ar gyfer y GIG a’r sector gofal cymdeithasol. Mae yna becynnau cymorth gwahanol i Gymru, sy’n cynnwys fersiwn Gymraeg, ac ar gyfer Lloegr a’r Alban. Fe’u datblygwyd gyda chymorth y sector. Mae pob pecyn cymorth yn gyfrwng i helpu rheolwyr ac eraill i gychwyn sgwrs a allai fod yn anodd gyda’u gweithwyr er mwyn cychwyn...
Mae CThEM yn cyhoeddi'r bwletin i gyflogwyr 6 gwaith y flwyddyn, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau am bynciau a materion a allai effeithio arnynt. Mae bwletin mis Mehefin yn cynnwys diweddariadau a gwybodaeth am: COVID-19 y cynllun Talu Wrth Ennill treth a newidiadau i ganllawiau cymorth i gwsmeriaid Mae’r bwletin i gyflogwyr ar gael ar-lein yn unig. Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysiadau e-bost i gyflogwyr CThEM ac fe gewch e-byst gan...
Mae busnesau yng Nghymoedd De Cymru wedi wynebu nifer o heriau enfawr dros y 24 mis diwethaf - effeithiau llifogydd difrifol, ansicrwydd ynghylch Prydain yn gadael yr UE, cynnydd mewn seiberdroseddu ac, yn amlwg, y pandemig COVID. Mae sicrhau cadernid busnes yn bwysicach nag erioed, ac mae cynllunio ar gyfer parhad busnes yn rhywbeth y dylai pob busnes ei ystyried. Yn y gynhadledd hon, bydd cynrychiolwyr yn clywed gan Wasanaeth Yswiriant y Ffederasiwn Busnesau Bach...
Heddiw (14 Mehefin 2021), mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodas, yn cael gwerth £2.5m o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid ychwanegol bellach ar gael i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y newid graddol i Lefel Rhybudd 1, oherwydd yr effaith y mae...
Mae newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol eich gweithwyr ar ffyrlo am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at derfyn o £2,500 y mis, hyd ddiwedd mis Mehefin 2021. Ym mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn talu 70% o gyflogau arferol gweithwyr am yr oriau nad ydynt yn gweithio...
Mae FarmWell Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr Cymru a manylion gwasanaethau cymorth gan gynnwys: Yn cadw eich busnes yn gydnerth drwy newid - Dolenni i’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf defnyddiol a hawdd eu defnyddio ar draws pob agwedd ar fusnes fferm, lle gallwch ddod o hyd i’r ffeithiau i’ch helpu chi i gynllunio’n llwyddiannus ac yn effeithlon. Aros yn ffit ac yn iach - Dolenni, cyngor a chymorth i’ch helpu chi, gyda’r bwriad o...
Diweddariad i’r Diwydiant Twristiaeth Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth smygu newydd yng Nghymru ar 1 Mawrth 2021. Y prif newidiadau yw bod tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal i blant yn awr yn lleoliadau di-fwg. Yn y diwydiant twristiaeth, mae’r cyfreithiau newydd yn golygu y bydd yr eithriad presennol i’r gwaharddiad ar smygu sy’n galluogi i unigolion smygu mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol a lletyau dros...
Mae gweithgareddau bob dydd fel siopa yn gallu bod yn heriol i gwsmeriaid sy'n agored i niwed. Mae'r Association of Convenience Stores (ACS) wedi cynhyrchu canllawiau, sy'n amlinellu rhai o'r ffyrdd y gallwch ddiwallu anghenion cwsmeriaid bregus neu agored i niwed yn y siop. Gallwch gymryd llawer o gamau bach i sicrhau bod eich siopau'n fwy hwylus a hygyrch i bawb. Gall hyn olygu darparu'r gwasanaeth mewn ffordd wahanol. Bydd gwneud addasiadau i'ch siop o...
Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mewn cydweithrediad â’r gweinyddiaethau datganoledig, yn defnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer codi ardaloedd y tu allan i Lundain i lefel uwch a rhoi diwylliant wrth galon cynlluniau adfer ar ôl effeithiau’r pandemig. Mae’r gystadleuaeth ar agor nawr ac anogir ceisiadau gan drefi a dinasoedd o bob cwr o’r DU. Am y tro cyntaf, bydd grwpiau o drefi...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.