Archives
3201 canlyniadau
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd gofod3 yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd, ond mae’r fformat nawr wedi newid i gydymffurfio â chyfyngiadau Covid, ac yn digwydd ar-lein dros gyfnod o bum niwrnod rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021. Archwiliwch y raglen lawn i weld beth sydd ar gael, gan gynnwys dros 60 o ddigwyddiadau AM DDIM.
Sut gallwch brofi eich bod wedi cael dos llawn y brechlyn er mwyn teithio’n rhyngwladol. Bydd pobl sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen (25ain Mehefin 2021) i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys. Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch...
Dyma gyfle i entrepreneuriaid cymdeithasol, arweinwyr busnes, cwmnïau cydweithredol gweithgar ac arloeswyr talentog y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru wneud cais ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2021. Yn ogystal ag ennill gwobr ariannol a rhoi hwb i’ch enw da, gallech roi eich cymuned ar y map ac ysbrydoli Cymru i wneud yn well ym myd busnes. Mae’r categorïau eleni yn cynnwys: Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Y Fenter i’w Gwylio - Cymru Technoleg er Budd...
Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threth newydd. Gall CThEM helpu eich busnes i ddeall yr heriau. Os oes gennych gwestiynau penodol am fewnforio, allforio neu ryddhad tollau tramor, dylech ffonio llinell gymorth Tollau Tramor a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am...
Mae gan un o bob pump o bobl yn y DU nam, a allai effeithio ar lle maen nhw'n dewis aros neu ymweld ag e. Mae gwella eich hygyrchedd o fudd i bob cwsmer a does dim angen gwneud newidiadau mawr na drud bob amser – gall darparu Canllaw Hygyrchedd am ddim ar gyfer eich lleoliad eich helpu i fod yn fwy cynhwysol i bobl ag ystod eang o namau gweladwy a chudd. Mae Visit...
Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro yn dechrau adolygiad o’r cyfresi canlynol o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, gan gynnwys: Gosod Trydan Modurol a Thrydan Symudol Cynnal a Chadw ac Atgyweirio – Trelars Cerbydau Trwm Cynnal a Chadw ac Atgyweirio – Tryciau Codi Gosod Cerbydau Ailgylchu Cerbydau Cerbydau ACES (Autonomous Connected Electric Shared) Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr i lywio hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol, a phrentisiaethau. I sicrhau bod canlyniad yr adolygiad...
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cysylltu â busnesau i ofyn am wybodaeth i gefnogi’r broses o ailbrisio ardrethi busnes ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr. Unwaith y bydd trethdalwyr yn derbyn cais drwy lythyr, mae angen iddynt fynd ar-lein a chyflwyno’u manylion diweddaraf. I rai dosbarthiadau eiddo arbenigol, gofynnir i chi ddarparu’ch gwybodaeth drwy e-bost, felly unwaith y byddwch yn derbyn cais dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich llythyr. Defnyddir y wybodaeth gan...
Mae seremonïau priodasau a phartneriaethau sifil awyr agored ar fin cael eu cyfreithloni am y tro cyntaf – gan gynnig rhagor o ddewis i gyplau a rhoi hwb i’r sector priodasau. O dan ddeddfau presennol ar gyfer eiddo cymeradwy fel gwesty, mae’n rhaid cynnal y seremoni briodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol mewn ystafell gymeradwy neu adeiledd parhaol. Bydd hyn yn newid fel bod modd i gwpl gynnal y seremoni gyfan y tu allan i leoliad...
Wedi’i leoli yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae’r tîm Lles drwy Waith yn cyflwyno Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu Rhaglenni Iechyd yn y Gweithle am ddim i fusnesau bach a chanolig lleol sydd eisiau gweithredu’n rhagweithiol er mwyn hybu a chefnogi iechyd a lles staff. Fel rhan o’u Rhaglenni Iechyd...
Mae gennych tan 6 Gorffennaf 2021 i roi gwybod am dreuliau a buddion a ddarparwyd gennych i bob cyflogai. I gael gwybod beth mae’n rhaid i chi ei nodi ar ffurflenni P11D a P11D(b) i ddatgan treuliau, buddion a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A eich cwmni, a sut i lenwi eich ffurflen P11D 2020 i 2021, ewch i GOV.UK.
Pagination
- Previous page
- Page 320
- Next page