Archives
3171 canlyniadau
Mae rheolau newydd yn berthnasol ar gyfer theithio a gwneud busnes â Ewrop. Defnyddiwch yr adnodd gwirio Brexit i dderbyn rhestr o gamau personol i chi, eich busnes, a’ch teulu. Mae’n rhaid i chi gymryd camau nawr os ydych chi’n: mewnforio nwyddau o’r UE allforio nwyddau i’r UE symud nwyddau i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon teithio i’r UE byw a gweithio yn yr UE aros yn y DU os ydych chi’n ddinesydd o’r...
Ar eich taith i wireddu’ch gweledigaeth bydd yn rhaid i chi wneud nifer o benderfyniadau hanfodol. Bydd eich llwyddiant yn dibynnu’n fawr ar y llwybr y byddwch chi’n ei ddewis ym mhob achos. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd mwy na dau ganlyniad mewn sawl achos ac o bryd i’w gilydd bydd pawb arall yn cymryd y ffordd amlwg neu hawsaf. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol o fynd â chi ymhellach yn...
Mae’r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS) yn cynnig gwasanaeth annibynnol a hygyrch, yn rhad ac am ddim, i ddatrys anghydfodau rhwng busnesau cymwys a banciau sy’n cymryd rhan. Mae cynrychiolwyr busnes a’r sector bancio wedi cydweithio i lunio’r BBRS i fynd i’r afael â chwynion cyfredol gan fusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ac fel bod dewis ganddynt yn lle herio banc yn y llys. Mae gan y BBRS...
O 1 Gorffennaf 2021, bydd rheolau newydd ar gyfer gwiriadau hawl i weithio yn berthnasol. Bydd angen i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir ddarparu tystiolaeth o statws mewnfudo cyfreithlon yn y DU. Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi diweddaru'r canllawiau gwirio manylion adnabod (ID) ar gyfer: Gwiriadau DBS sylfaenol, a gyflwynir drwy Sefydliad Cyfrifol. Gwiriadau DBS Safonol a Manylach. Mae’r canllawiau ar wiriad ID sylfaenol y DBS...
Mae fersiwn y DU ac Iwerddon o ‘Go Global 11.11 Pitch Fest’ yn gyfle i fusnesau bach a chanolig o Brydain ac Iwerddon gael eu troed i mewn i farchnad Tsieina, a thyfu’n rhyngwladol, gyda llwybr carlam i ddigwyddiad siopa mwyaf y byd, Gŵyl Siopa Fyd-eang 11.11 Alibaba. Fe wnaeth mwy na 800 miliwn o gwsmeriaid o Tsieina gymryd rhan yng Ngŵyl Siopa 11.11 y llynedd. Gall brandiau cymwys gyflwyno eu cynhyrchion i banel arbenigwyr...
Mae sefydliadau treftadaeth ledled y DU dan bwysau cynyddol a chyfyngiadau ariannol, gyda llawer yn wynebu heriau eithafol er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog. Gydag effaith ychwanegol Covid-19, mae angen diwylliant o fentergarwch i adeiladu sector treftadaeth cynaliadwy a gwydn yn awr yn fwy nag erioed. Bydd Camau at Gynaliadwyedd, rhaglen newydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan yr Academi Mentrau Cymdeithasol, yn darparu llwybr cymorth i fynd i'r afael â'r heriau hyn...
Mae i Gymdeithasau a Sioeau Amaethyddol hanes hir a chlodfawr ac maen nhw wrth galon cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae i bob un rôl bwysig wrth hyrwyddo ffermio a chynhyrchu bwyd cynaliadwy i’r cyhoedd ehangach ac wrth gynnal cydlyniant cymunedol, ein diwylliant, a’r agenda gwell iechyd. O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, cafodd y rhan fwyaf, os nad pob un o’r sioeau amaethyddol ar draws Cymru eu canslo yn 2020 a bydd nifer fawr yn cael...
Ceir gwahanol gyfraddau a bandiau trethi ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (TTT). Maent yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru. Mae faint o TTT rydych chi'n ei thalu yn dibynnu ar: pryd wnaethoch chi brynu'r eiddo p'un ai ei fod yn eiddo preswyl neu beidio faint wnaethoch chi dalu amdano Fel arfer y ‘dyddiad dod i rym’ yw’r diwrnod y gwnaethoch...
Mae Clore Social Leadership, mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, wedi lansio rhaglen datblygu arweinyddiaeth newydd ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru yn 2021. Mae’r rhaglen am ddim, yn cael ei chynnal ar-lein ac ar gael i arweinwyr cymdeithasol ac arweinwyr y dyfodol o fewn y trydydd sector ym mhob rhan o Gymru. Emerging Leader Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, 12 Gorffennaf 2021 Experienced Leader Cymru – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau...
Bydd busnesau a sefydliadau eraill yn y DU yn gallu manteisio ar drosglwyddiadau data personol heb gyfyngiadau. Gall data personol barhau i lifo’n ddirwystr rhwng Ewrop a’r DU yn dilyn penderfyniad gan yr UE i ddechrau defnyddio penderfyniadau ‘digonolrwydd data’. Bydd dechrau defnyddio’r penderfyniadau hyn yn swyddogol o dan Reoliad Cyffredinol yr UE ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith (LED) yn caniatáu i ddata personol lifo’n ddirwystr o’r UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd...
Pagination
- Previous page
- Page 317
- Next page