Archives
3151 canlyniadau
Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un o 17 Gorffennaf 2021. Gohiriwyd gwneud y newidiadau hyn bedair wythnos yn ôl oherwydd ymddangosiad a lledaeniad amrywiolyn Delta ar draws y DU, ac er mwyn gallu brechu mwy o bobl yng Nghymru. A bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer y tu allan wrth i Gymru gymryd y cam gofalus cyntaf tuag at lefel rhybudd sero newydd. Mae manylion lefel rhybudd sero wedi’u...
Mae pandemig y Coronafeirws wedi amlygu’n hallt pa mor fregus yw sefyllfa ariannol pobl heb gynilion neu rai sydd â dim ond ychydig o arian wrth gefn. Ni fu erioed amser gwell nag yn awr i wella lles ariannol eich gweithlu ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i gyflogwyr helpu drwy bartneru ag undeb credyd i gynnig cynllun cynilo i’r rheini ar gyflogres y gweithle a mynediad at gredyd fforddiadwy. Mae cynlluniau cynilo cyflogres yn...
Mae gan bob gweithiwr hawl gyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys staff tymhorol dros dro, sy'n aml yn gweithio contractau tymor byr mewn bariau, gwestai, siopau a warysau dros yr haf. Y cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol fesul awr o 1 Ebrill 2021 yw: £8.91 - 23 oed neu drosodd (Cyflog Byw Cenedlaethol) £8.36 - 21 i 22 oed £6.56 - 18 i 20 oed £4.62 - dan 18 oed £4.30...
Cafodd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu ei agor ym mis Tachwedd 2020 i helpu pobl i oresgyn rhai o’r rhwystrau ariannol a wynebir gan y rheini y mae gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt bod yn rhaid hunanynysu gan fod ganddynt symptomau’r coronafeirws neu eu bod wedi dod i gysylltiad â’r haint. Mae’n helpu i gefnogi pobl na allant weithio gartref, yn ogystal â rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â...
Bydd busnesau yng Nghymru sy'n dal i deimlo effeithiau cyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf a mis Awst 2021 busnesau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau ac sy'n parhau i ddioddef yn ddifrifol o ganlyniad i barhad y cyfyngiadau. Bydd busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi y mae’r cyfyngiadau yn...
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn am hyd at dri phrosiect cerbydau awtomatig. Daw’r cynnig hwn gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a’r Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV). Bydd yr Adran Drafnidiaeth a CCAV yn gweithio gydag Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn am hyd at dri phrosiect cerbydau awtomatig. Nod y gystadleuaeth hon yw...
Atal tollau a chwotâu tariffau dros dro ar gyfer mewnforio nwyddau i’r DU. Diben atal tollau yw helpu busnesau’r DU a busnesau tiriogaethau dibynnol ar y Goron i barhau’n gystadleuol yn y farchnad fyd-eang. Maent yn gwneud hyn drwy atal tollau mewnforio ar nwyddau penodol, sef y rhai a ddefnyddir mewn cynhyrchu domestig fel arfer. Nid yw’r trefniant atal hwn yn gymwys i dollau eraill a allai fod yn daladwy fel TAW neu’r doll gwrth-ddympio...
Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yn gweithio gyda Gwobrau Arloeswyr Ifanc Innovate UK i ddeall yn well sut y gallant helpu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes. Mae Innovate UK yn sbarduno cynhyrchiant a thwf economaidd drwy gefnogi busnesau i ddatblygu a gwireddu potensial syniadau newydd. Nod y Gwobrau Arloeswyr Ifanc yw helpu pobl ifanc – waeth beth fo'u lleoliad neu eu cefndir – i gael y cymorth cywir i sefydlu busnesau a dilyn eu syniadau...
Wrth gyflogi person ifanc o dan 18 oed, mae cyfrifoldebau cyflogwyr am eu hiechyd, eu diogelwch a’u llesiant yr un fath â’u cyfrifoldebau am weithwyr cyflogedig eraill. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn newydd i’r gweithle a gallent wynebu risgiau anghyfarwydd. Mae gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gweithio. Mae gan yr Awdurdod...
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio cylch cyllido newydd i hyrwyddo’r broses o greu rhwydweithiau newydd a chryfhau cyfleoedd rhwydweithio presennol ledled sector y celfyddydau a’r sector diwylliant. Gall rhwydweithiau o bob math – grwpiau lleol/rhanbarthol; grwpiau dan arweiniad artistiaid neu rwydweithiau sydd wedi’u cysylltu gan fath o gelfyddyd neu weithgaredd – wneud cais am grantiau gwerth hyd at £2,000 o’r Gronfa Cydrannu ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo ac yn cryfhau amrywiaeth a chynhwysiant ledled...
Pagination
- Previous page
- Page 315
- Next page