Archives
3091 canlyniadau
Mae rhifyn Awst o’r Bwletin Cyflogwyr yn dod â’r holl newyddion diweddaraf i chi o CThEM a chyfarwyddyd i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres. Mae gwybodaeth bwysig am: pontio’r DU a’r newidiadau o archwiliadau hawl i weithio o 1 Gorffennaf 2021 gwybodaeth am COVID-19 gyda diweddariadau ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws y Cynllun Talu wrth Ennill diweddariadau treth a newidiadau i gyfarwyddyd, gan gynnwys y diweddaraf ar y cymorth rheolau gweithio...
Mae grantiau gwerth hyd at £15,000 ynghyd â chymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n awyddus i gychwyn neu ddatblygu menter gymdeithasol sydd eisoes wedi’i sefydlu. Mae’r cyllid hwn ar gael trwy UnLtd. Mae UnLtd wedi ymrwymo i ddarparu 50% o’i ddyfarniadau i entrepreneuriaid cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a/neu entrepreneuriaid cymdeithasol anabl. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn byw yn y DU ac...
Gall gweithwyr unigol fod mewn o berygl o niwed gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un i’w helpu neu eu cefnogi os yw pethau’n mynd o chwith. Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i’r rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Lawrlwythwch daflen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ' Protecting lone workers: How to manage the risks of working alone' ar gyfer unrhyw un sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n eu...
Ymunwch yr rhaglen Miwtini Canol Tref a fydd yn ymdrin â'r holl wybodaeth hanfodol sydd angan arnoch i redeg busnes llwyddiannus. Bydd canllawiau Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Gogledd Cymru hefyd yn cael eu cynnwys. Cronfa sydd yn rhoi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng 9.30am...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau newydd i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod yn iawn beth sydd angen iddynt ei wneud i dalu eu prentisiaid a’u holl weithwyr yn briodol. Mae gan bob un gweithiwr yn y DU hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, faint bynnag eu hoedran neu beth bynnag eu proffesiwn. Er nad yw pob achos o beidio â thalu’r isafswm cyflog yn fwriadol, cyfrifoldeb pob cyflogwr yw hi wedi bod erioed i...
Os ydych chi’n rhedeg busnes dillad, bwyd a diod, atchwanegiadau, chwaraeon, ffitrwydd, harddwch neu nwyddau cartref yn y sector llesiant, dyma’r digwyddiad i chi. Cewch gyfarfod prynwyr manwerthu gan glywed sut i sicrhau bod eich cynhyrchion yn cael eu stocio, cewch gyngor gan entrepreneuriaid llwyddiannus yn y diwydiant a dysgu sut i dyfu’ch busnes yn y digwyddiad ar-lein cyffrous hwn. Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 20 Awst 2021, rhwng 12pm a 5.30pm. Mae digwyddiadau cyfnewidfa...
Mae busnesau o bob cwr o Gymru (a thu hwnt!) yn gallu creu arwyddion dwyieithog yn hyderus, diolch i wasanaeth cyfieithu a gwirio testun hwylus a chyfeillgar Helo Blod. Dyma’n union mae Siop Lyfrau Trefaldwyn – The Bookshop Montgomery wedi’i wneud, gan fabwysiadu enw dwyieithog yn y broses! Clicia’r ddolen isod i glywed y perchennog, Barry Lord, yn sôn am sut mae gwasanaeth hawdd-i’w-ddefnyddio Helo Blod wedi’u helpu nhw i wneud mwy o ddefnydd o’r...
Nod y grantiau prosiect Reimagine newydd yw helpu sefydliadau fel amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, archifau a llyfrgelloedd cyhoeddus, asiantaethau a gwyliau y DU wrth iddynt ailddychmygu eu gweithgareddau wedi’r pandemig. Maent yn cynnig cymorth i feithrin arbenigedd, gallu a chysylltiadau o fewn a thu hwnt i’r sector. Nid bwriad y grantiau newydd hyn yw darparu cyllid ‘brys’ neu ‘adfer’. Fodd bynnag, mae’r cynllun wedi’i lunio i fodoli yn y presennol ac i fynd i’r afael...
Bydd hawliau dinasyddion yr AEE ac aelodau eu teuluoedd sy’n gwneud cais yn hwyr am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn cael eu diogelu wrth i’r Swyddfa Gartref ddal ati i gefnogi’r rhai sydd am aros yn y DU. Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi trefniadau cynhwysfawr ar waith i alluogi’r rhai sydd â seiliau rhesymol dros beidio â chyflwyno cais i’r Cynllun cyn y dyddiad cau. Mae Llywodraeth y DU wedi hysbysu’r...
Mae Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid 2022 i 2023 Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb. Bydd y grantiau hyn yn galluogi sefydliadau llwyddiannus i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau er mwyn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy, modern a deniadol mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ledled Cymru. Mae gwybodaeth am y cynllun grant a sut i wneud cais ar gael isod: Grant cyfalaf ar gyfer...
Pagination
- Previous page
- Page 309
- Next page