Archives
3041 canlyniadau
Mae BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein. Mae pob cwrs wedi'i greu gan arbenigwyr cymwys, profiadol i sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu ar-lein gorau posib. Gallwch ddefnyddio BOSS ar unrhyw ddyfais, boed yn ffôn symudol, yn ddyfais tabled neu'n gliniadur, unrhyw le 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Os oes angen help arnoch 'Datblygu Eich Syniad Busnes' yna cofrestrwch ar...
Bydd profion gyrru HGV yn cael eu hailwampio, gyda gyrwyr yn gorfod sefyll 1 prawf yn unig i yrru lori anghymalog a chymalog, yn hytrach na sefyll 2 brawf gwahanol (3 wythnos ar wahân). Bydd profion yn cael eu byrhau hefyd drwy ddileu’r elfen ‘ymarfer gyrru am yn ôl’ – a’r ymarfer ‘datgysylltu ac ailgysylltu’ i gerbydau â threlar – gan eu cynnal fel prawf ar wahân gan drydydd parti. Mae’r rhan hon o’r prawf...
Mae cynllun cyflogres moesegol newydd yn caniatáu i weithwyr fenthyg ac arbed arian yn hawdd. Mae Moneyworks Cymru yn gydweithrediad o 10 cwmni cydweithredol ariannol blaenllaw ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru a TUC Cymru. Ymhlith y busnesau sydd eisoes yn cynnig Moneyworks Cymru mae Legal and General, Airbus, Admiral. Nod Moneyworks Cymru, cynllun cyflog newydd a lansiwyd y mis hwn, yw helpu gweithwyr ledled Cymru i adeiladu dyfodol ariannol gwell. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru...
Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 20 a 26 Medi 2021, a dyma’r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, nawr yn ei ddeunawfed flwyddyn! Mae gan ailgylchu rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Defnyddir 95% yn llai o ynni i wneud cynhyrchion o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu na defnyddio deunyddiau crai. Mae’n rhywbeth syml y gall pawb ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha yn cefnogi thema Wythnos Ailgylchu eleni i...
Os ydych yn symud nwyddau y tu allan i'r DU, bydd angen i chi wneud datganiad gadael cryno os na wnaethoch chi fodloni gofynion diogelwch trwy ddatganiad allforio tollau. Dysgwch ragor am: Pwy sy'n gorfod cyflwyno Nwyddau nad oes angen datganiad gadael cryno ar eu cyfer Beth fydd arnoch ei angen Pryd i gyflwyno Sut i gyflwyno Ar ôl i chi gyflwyno O 1 Ionawr 2022 Am ragor o wybodaeth ewch GOV.UK.
Cronfa newydd gwerth £1.8 miliwn i annog arloesi yng Nghymru mewn technoleg cerbydau carbon isel. Bydd Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o etifeddiaeth Ford yng Nghymru, yn mynd i'r afael â heriau technegol diwydiannol strategol sy'n gysylltiedig â cherbydau carbon isel. Bydd ffocws clir ar fasnacheiddio a manteisio ar gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd a chapasiti cynyddol mewn technolegau carbon isel. Rhaid i brosiectau gyd-fynd ag un...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau a chyngor, i helpu i wneud eich gweithle yn lle mwy diogel. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: Cymorth cyntaf – Gofynion cymorth cyntaf mewn lleoliadau nad ydyn nhw’n lleoliadau gofal iechyd, ynghyd â gwasanaethau cyflenwi a chymwysterau cymorth cyntaf, yn ystod y pandemig. Gyrwyr – Mae’n rhaid i’r sawl sydd â dyletswydd mewn safleoedd lle ceir llwytho a/neu ddadlwytho gymryd camau cyfrifol i...
Mae’r gystadleuaeth ar gyfer cwmnïau technoleg arloesol cymharol newydd wedi’i chynllunio i arddangos y gorau sydd gan wledydd Prydain i’w gynnig, gan ddarparu llwyfan i fusnesau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddisgleirio. Mae’r sawl sy’n cyflwyno cynnig yn cael eu cefnogi drwy’r broses o wneud cais, ac yn cael hyfforddiant a chefnogaeth ym mhob cam o’r gystadleuaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i gystadlu a sicrhau bod eich busnes yn barod...
Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 1.25% am flwyddyn yn unig i weithwyr, cyflogwyr a’r hunangyflogedig o fis Ebrill 2022. Bydd hyn yn berthnasol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gweithwyr a chyflogwyr), Dosbarth 1A a 1B a Dosbarth 4 (hunangyflogedig). Ni fydd pobl hŷn nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu heffeithio gan newidiadau mis Ebrill 2022. O fis Ebrill 2023, bydd Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd wedi’i glustnodi o 1.25%...
Pagination
- Previous page
- Page 304
- Next page