Archives

311 canlyniadau

cyber - digital padlock
Mae'r Pecyn Cymorth Gweithredu Seiber yn offeryn seiberddiogelwch rhad ac am ddim, wedi'i bersonoli gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer unig fasnachwyr a sefydliadau bach. Mae'r pecyn cymorth yn rhannu seiberddiogelwch yn gamau syml, cyraeddadwy. Gallwch weithio wrth eich pwysau eich hun, ac mae'n olrhain eich cynnydd wrth i chi fynd yn eich blaen. Mae'n helpu i amddiffyn arian ac enw da eich busnes rhag seiberdroseddwyr. Dysgwch fwy am y Pecyn...
Business owner selling goods on line via mobile phone app
Mae TikTok Shop wedi lansio 'Shop Local', cynllun cymorth sydd â'r nod o gysylltu busnesau bach y DU â chwsmeriaid lleol. Bydd 'Shop Local' TikTok yn dyfarnu pecyn cymorth gwerth £150,000 i bum busnes bach, wedi'i gynllunio i gael busnesau bach ar waith ar TikTok Shop. Mae'r gystadleuaeth 'Shop Local' yn agored i holl fusnesau yn y DU: sy’n gwerthu nwyddau a gynhyrchir yn lleol (o leiaf 40% wedi'u gwneud neu sy’n dod o’r DU)...
person wrapping Christmas presents
Byddwch ar y blaen o ran rhuthr y Nadolig gan wneud yn siŵr eich bod yn postio eich holl lythyrau a pharseli ar amser. Er mwyn sicrhau bod eich llythyrau a'ch parseli Nadolig yn cyrraedd pen eu taith mewn da bryd, mae bob amser yn syniad da postio cyn gynted â phosibl. Darganfyddwch y dyddiadau postio diweddaraf ar gyfer cwsmeriaid busnes a chwsmeriaid personol . Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth...
St Brides Spa Hotel, Saundersfoot
Daeth y Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) yn gyfraith ar 18 Medi 2025. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un syn codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Rhaid i bawb sy’n darparu llety i ymwelwyr gofrestru, hyd yn oed os na fydd eu cyngor yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal. Bydd cofrestru'n agor yn nhymor yr hydref 2026...
stressed employee
Mae'r Gymdeithas Ryngwladol Rheoli Straen [ISMAUK] yn elusen gofrestredig ac yn brif gorff proffesiynol ar gyfer rheoli straen yn y gweithle ac yn bersonol, gan gefnogi iechyd meddwl, lles a pherfformiad da. Bydd Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen yn digwydd yn ystod yr wythnos rhwng 3 a 7 Tachwedd 2025 a chynhelir y chweched Uwchgynhadledd Straen a Lles Ar-lein Byd-eang ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Straen, ddydd Mercher 5 Tachwedd 2025. Y thema ar gyfer 2025...
business event
Mae digwyddiad busnes mwyaf y byd, The Business Show 2025, yn dychwelyd i Excel Llundain ar 12 ac 13 Tachwedd 2025. Ymunwch â dros 25,000 o fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd yn yr arddangosfa fusnes flaenllaw hon yn Llundain, sydd wedi'i chynllunio i roi'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddechrau, tyfu, neu ehangu’ch busnes. Mae’r tocynnau am ddim felly cofrestrwch heddiw: The Business Show London | 12th & 13th November...
person using a laptop - online course
Caethwasiaeth fodern yw pan fo pobl yn cael eu hecsbloetio er budd personol neu fasnachol. Mae'n cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ledled Cymru, y DU a gweddill y byd. Mae modiwlau Dysgu Ar-lein Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Rydym yn annog y rhai sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn lleoliadau sydd â risg uchel o gaethwasiaeth fodern, yn ogystal â’r rhai sy'n ymgysylltu â...
Bus Shelter
Bydd grantiau gwerth £1.75 miliwn yn helpu i sicrhau bod busnesau twristiaeth a lletygarwch bach ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd. Yn dilyn llwyddiant y gronfa gychwynnol i liniaru effeithiau'r tywydd a ganiataodd i'r sector atyniadau twristiaeth fuddsoddi mewn mesurau diogelu rhag tywydd gwael, bydd ail gam newydd yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch bach i liniaru effaith pob math o dywydd a gwella'r profiad i ymwelwyr. Mae grantiau o rhwng...
Tutor and student
Hyd yn oed gyda chynnydd mewn newyddion sy’n gysylltiedig â chostau byw, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian. Bob blwyddyn mae Wythnos Siarad Arian, eleni rhwng 3 ac 7 Tachwedd, yn annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid. Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian, o arian...
Happy employees
Ymunwch â'r digwyddiad i glywed gan Gyflogwyr, gweithwyr ac ymgyrchwyr Cyflog Byw ar y gwahaniaeth y mae Cyflog Byw, Oriau Byw, a Phensiynau Byw yn ei wneud - ac i glywed am ddatblygiadau newydd ar draws y gofod Cyflog Byw a Gwaith Teg yng Nghymru. Bydd rhestr y siaradwyr yn cael ei gyhoeddi yn nes at y dyddiad - gan gynnwys gweithwyr, uwch weinidogion y llywodraeth, arweinwyr yr awdurdodau lleol, ac arweinwyr busnesau mawr ac...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.