Archives
2991 canlyniadau
Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithredu’n ofalus mewn perthynas â theithio rhyngwladol oherwydd y perygl o ddal y coronafeirws dramor a mewnforio ffurfiau newydd o’r feirws i’r DU. Rydym wedi cynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod eu taith yn hanfodol, gan eu hannog i ystyried cymryd gwyliau yn y DU. Wrth inni symud y tu hwnt i’r don Omicron o Covid-19, byddwn hefyd yn gweld mwy o gyfle i unigolion...
Bydd y mesurau “Stronger Nudge to pension guidance” sy’n dod i rym ar 1 Mehefin 2022 yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynlluniau pensiwn galwedigaethol gyflwyno arweiniad fel rhan reolaidd o gael mynediad at gynilion pensiwn. Mae’n rhaid iddynt hefyd gynnig trefnu apwyntiad Pension Wise ar gyfer yr unigolyn, oni bai ei fod yn dymuno optio allan o dderbyn yr arweiniad. Gwasanaeth gan lywodraeth y DU yw Pension Wise sy’n darparu arweiniad diduedd am ddim...
Os ydych chi’n gweithio i chi eich hun neu’n rhedeg busnes bach gyda llai na 10 o weithwyr, does dim rhaid i seiberddiogelwch fod yn dalcen caled i berchnogion busnesau bach. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi llunio camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun ar-lein, ac mae Cyber Aware yn hyrwyddo chwe cham ymarferol i helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes. Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes rhag...
Fe wnaeth cefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru roi hwb o tua £790 miliwn y flwyddyn i economi Cymru erbyn canol 2021, yn ôl ymchwil newydd a ddadorchuddiwyd gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw. Mae dros 25,000 o swyddi wedi'u creu diolch i gymorth gan y gwasanaeth ers 2015, gyda Busnes Cymru hefyd yn helpu busnesau i gynhyrchu cyfanswm o £469 miliwn mewn buddsoddiad dros yr un cyfnod. Mae hyn wedi arwain at...
Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn ddigwyddiad sy’n para penwythnos, gyda’r pwyslais ar dyddynwyr a phobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 21 a 22 Mai 2022 ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Gyda phwyslais ar ddathlu’r tyddyn a chefn gwlad, bydd yr ŵyl yn llawn dop o bethau diddorol i’w gweld, bwydydd a diodydd hyfryd i’w blasu, cerddoriaeth fyw, chwaraeon cefn gwlad, siopau...
Beth yw Gweithlu Bwyd Cymru? Mae Gweithlu Bwyd Cymru yn ymgyrch a gyflenwir gan Sgiliau Bwyd Cymru (Lantra) ar ran Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru). Gan arddangos pa mor foddhaus ac amrywiol y gall gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru fod, nod yr ymgyrch hon yw i roi ffocws ar rolau sydd yn helpu i fwydo’r genedl. O gyfrannu ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu bwyd i fod ar flaen...
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar gynigion i newid tâl ac amodau gweithwyr amaethyddol. Mae hyn yn cynnwys: Cyfraddau a lwfansau cyflog lleiaf. Cynnwys seibiannau o fewn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Chwefror 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru
Mae’n rhaid i chi ddarparu’r cyfleusterau iawn i bawb yn eich gweithle, gan gynnwys pobl ag anableddau. Mae’n rhaid i chi fod â’r canlynol: cyfleusterau lles – y nifer cywir o doiledau a basnau ymolchi, dŵr yfed a rhywle i orffwys a bwyta pryd amgylchedd gwaith iach – gweithle glân gyda thymheredd gwaith rhesymol, awyru da, goleuadau addas a digon o le a seddi gweithle diogel – cyfarpar yn cael ei gadw mewn cyflwr da...
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gefnogaeth i adfywio canol trefi Cymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy'n arwain at dwf economaidd ynghyd â'u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau ddeall sylfaen a thueddiadau eu cwsmeriaid yn well, er mwyn cefnogi busnesau yn eu gweithgareddau cynllunio a marchnata yn y dyfodol. A wnaethoch chi golli'r cyfle i fynychu un...
Mae Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, wedi datgelu cynlluniau i drawsnewid y diwydiant gwastraff yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws mynd i'r afael ag allforion anghyfreithlon ac ar droseddau gwastraff. Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gwledydd eraill y DU ar wasanaeth olrhain gwastraff digidol. Byddai'r gwasanaeth olrhain yn ei gwneud yn orfodol i'r rhai sy'n trin gwastraff gofnodi gwybodaeth am yr hyn...
Pagination
- Previous page
- Page 299
- Next page