Archives
2961 canlyniadau
Fel rhan o'u hymrwymiad i gefnogi menywod entrepreneuraidd yng Nghymru, mae Busnes Cymru wedi cynhyrchu Canllaw Arfer Da wedi'i anelu at unedau Deori a mannau cydweithio. Mae'r Canllaw hwn yn rhoi Cyngor ymarferol ac awgrymiadau ar sut i ddarparu dull sy'n canolbwyntio mwy ar y rhywiau ar gyfer y rhai sy'n rheoli mannau cydweithio er mwyn annog dull mwy personol i fenywod sy'n cymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/canllaw-arfer-da-i-unedau-deori-chan…
Bellach, gall arweinwyr busnesau bach gofrestru eu diddordeb ar gyfer Cymorth i Dyfu Rheolaeth/Help to Grow Management, rhaglen 12 wythnos a ddarperir gan ysgolion busnes blaenllaw ledled y DU. Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a bydd yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu eu sgiliau strategol gyda modiwlau allweddol sy'n rhoi sylw i reolaeth ariannol, arloesedd a meithrin y maes digidol. Rhaglen ar gyfer...
Mae dargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn haws nag yr ydych chi'n meddwl. Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol. Amcan y...
Galwad ryngwladol i weithredu yw Dydd Mawrth Porffor, 2 Tachwedd 2021, yn canolbwyntio ar newid profiad pobl anabl fel cwsmeriaid. Bydd yn golygu bod sefydliadau o bob maint ac o bob sector yn cymryd camau pendant, ymarferol, i ateb anghenion cwsmeriaid anabl. Ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r Bunt Borffor - grym gwario pobl anabl a’u teuluoedd - yn werth £274 biliwn ac yn codi 14% y flwyddyn ar gyfartaledd, ond mae gan lai na...
Ydych chi wastad wedi bod eisiau rhedeg eich busnes eich hun, ond ddim yn siŵr lle i ddechrau arni? Poeni na fydd eich syniad yn gweithio? Neu ddim hyd yn oed yn siŵr a oes gennych chi syniad o gwbl? Mae Chwarae Teg, NatWest a Simply Do Ideas yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfres o ddigwyddiadau ‘Oes gen i syniad?’ a fydd yn dod â darpar entrepreneuriaid at ei gilydd i gydweithio, rhannu a chael...
Waeth pa mor angerddol ydych chi am rywbeth, dydy angerdd ynddo’i hun ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant. Mae angen cyfeiriad clir arnoch chi a fydd yn eich tywys tuag at sut mae llwyddiant yn edrych ac yn teimlo i chi. Mae hynny’n gofyn am waith meddwl gofalus. Er mwyn dilyn eich angerdd yn llwyddiannus, mae angen i chi benderfynu sut rydych chi am ei ddilyn a beth yw pen draw’r daith. Mae’n golygu diffinio’ch...
Gall Eiddo Deallusol gyfrif am fwy na 70% o werth eich busnes, sy’n llawer mwy na’r asedau ffisegol yn eich busnes. Mae pedwar math o hawliau eiddo deallusol yn y DU: patentau hawlfraint nodau masnach cynlluniau cofrestredig Os nad ydych chi’n siŵr pa un (neu rai) sy’n iawn ar gyfer eich busnes chi, ewch i drosolwg Eiddo Deallusol Llywodraeth y DU. Gallwch weld sut mae nodi, diogelu a manteisio ar eich asedau Eiddo Deallusol gydag...
Heddiw [dydd Gwener 29 Hydref 2021] bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru. Bydd y Prif Weinidog yn dweud bod Cymru’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac oni bai bod y cyfraddau'n dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf, y bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau...
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau i weithio ar ddatblygu ecosystem meddalwedd digital security by design (DSbD). Daw’r cyllid hwn o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol. Nod y gystadleuaeth hon yw cyllido prosiectau amrywiol sy’n gweithio i gyfoethogi ac ehangu’r ecosystem meddalwedd DSbD cyn i’r caledwedd masnachol fod ar gael. Bydd prosiectau’n defnyddio Prototeip Caledwedd Technoleg DSbD (y “Morello Board” fel y’i...
Codwch arian i elusen sy’n golygu’r byd i chi wrth werthu’ch cynnyrch neu’n gwasanaethau dros y Dolig. Mae tymor y Nadolig yn adeg gyffrous! Dyma’r cyfnod gwerthu prysuraf, ond mae hefyd yn dymor ewyllys da. Dyma’r amser perffaith i’ch busnes bach gysylltu â’ch cymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae gan ‘Work for Good’ gronfa cyllid cyfatebol o £50,000 i’ch helpu i greu mwy o argraff nag erioed! Cymerwch ran mewn 3 cham hawdd...
Pagination
- Previous page
- Page 296
- Next page