Archives
2941 canlyniadau
Mae Enterprise Nation wedi ffurfio partneriaeth â TSB i sicrhau bod sylfaenwyr busnes benywaidd uchelgeisiol yn gallu cael mynediad at ddigwyddiadau ysbrydoledig, modelau rôl y gellir uniaethu â nhw a chymorth busnes cynhwysol am ddim. Mae'r manteision yn cynnwys: Cymorth – Cewch gyfle i gyfarfod â menywod entrepreneuraidd o'r un anian i sgwrsio, cydweithio a chefnogi eich gilydd ar eich taith. Digwyddiadau a rhwydweithio – Cofrestrwch ar gyfer y Sesiwn Gymdeithasu Fisol nesaf i rwydweithio...
Mae CThEM yn ysgrifennu at unigolion sydd wedi derbyn grantiau o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ond heb gwblhau’r ffurflen dreth hunanasesu yn llawn ar gyfer 2019/20 eto. Mae’r llythyr yn rhoi manylion y camau sydd angen i hawlwyr eu cymryd. I fod yn gymwys am grant o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS), roedd yn rhaid i unigolion fod yn masnachu yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth yn 2019/20. Roedd gofyn...
Bydd mentoriaid o BT a Google yn rhannu arbenigedd a syniadau ar sut i wella eich strategaethau marchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i chi drwy Chwilio a mwy. Gallwch chi ddysgu sgiliau busnes digidol, fel defnyddio Google Analytics, creu strategaeth marchnata digidol neu strategaeth cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy. Gallwch chi gymhwyso'r hyn a ddysgoch i’ch busnes i wneud iddo dyfu. Ar ôl cofrestru, bydd mentor...
Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru. Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd 2021. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cael eich pàs COVID y GIG. Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo | LLYW.CYMRU - Gallwch arddangos a rhannu'r posteri hyn i hyrwyddo ac esbonio...
Lloerennau bach y gellir eu defnyddio i gasglu data gwyddonol, fel gwybodaeth am y newid yn yr hinsawdd, yn amrywio o fesuriadau lefel y môr i fapio datgoedwigo, yw nanolloerennau. Mae'r gystadleuaeth yn gwahodd ymgeiswyr i ddylunio nanolloeren a fydd yn llywio atebion i helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Bydd ymgeiswyr yn cystadlu am gyfran o Gronfa Her gwerth £600,000, gan eu galluogi i ddatblygu ac adeiladu eu dyluniad lloeren...
Gyda Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Ymchwil Polisïau Ewropeaidd, Prifysgol Strathclyde. Mae'r prosiect TRACER a ariennir o dan raglen Horizon 2020 wedi bod yn ymchwilio i sut mae Cymru ac wyth ardal glo-ddwys (a chyn-ardaloedd glo-ddwys) Ewropeaidd eraill yn rheoli'r broses o bontio tuag at systemau ynni mwy cynaliadwy. Mae trafodaethau yn 2020/21 gyda rhanddeiliaid allweddol yn y broses o bontio ynni yng Nghymru wedi amlinellu naratif cryf o ddau gyfnod pontio, gyda dimensiynau...
Mae Wythnos Masnach Ryngwladol gyntaf erioed y DU yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau cyffrous i helpu busnesau i ddysgu mwy am werthu byd-eang ac am gysylltu ag arbenigwyr y diwydiant masnach. Os yw’ch busnes yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau yn rhyngwladol yn barod, neu heb ddechrau arni eto, os ydych chi’n fusnes bach sy’n newydd i allforio i gwmnïau amlwladol ac am ehangu eich gorwelion, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn eich ysbrydoli ac yn...
Os ydych chi’n gyw-entrepreneur 16-30 oed, mae’r digwyddiad yma i chi. Cynhelir Next Gen Fest yn rhithiol eleni ar 12 Tachwedd 2021, a bydd yn llawn dop o sgyrsiau gan bobl ysbrydoledig a fydd yn rhannu eu straeon a’u gwybodaeth am redeg eich busnes eich hun fel sylfaenydd ifanc. Bydd cynghorion gan baneli arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio â rhai o’r un anian â chi a’r cynnig i werthu’ch syniad busnes i banel o arbenigwyr er...
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau menter fusnes newydd ac yn manteisio ar y newidiadau economaidd a ffordd o fyw sydd wedi'u gyrru gan bandemig Covid-19, meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw wrth i wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ddechrau. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor ac arweiniad i 3,020 o unigolion sy'n ystyried dechrau busnes ers mis Mawrth 2020, a oedd yn cefnogi creu 1,556...
Mae'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi lansio gwasanaeth newydd i allforwyr. Os oes gennych fusnes yn y DU a'ch bod am werthu nwyddau neu wasanaethau dramor, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn cwestiwn i dîm cymorth allforio DIT. Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’ch busnes, gan gynnwys: allforio i farchnadoedd newydd gwaith papur sydd ei angen arnoch i werthu eich nwyddau dramor rheolau ar gyfer gwlad benodol lle rydych am werthu gwasanaethau Am ragor...
Pagination
- Previous page
- Page 294
- Next page