Archives

2851 canlyniadau

Mae Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar gyfer arloesi, cystadleurwydd a thalent yn y diwydiant bwyd a diod. Pwy sy’n cael ymgeisio? Gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, lletygarwch Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg Cymerwch gip ar gategorïau'r gwobrau a gwnewch gais am ddim cyn 28 Chwefror 2022, am gyfle i ennill -...
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ar gyfer rhai sy'n gweithio gartref ag unrhyw weithiwr arall. Mae canllawiau gweithio gartref yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer unrhyw un sy'n cyflogi gweithwyr cartref, gan gynnwys rhai sy'n rhannu eu hamser rhwng eu gweithle a'u cartref (gweithio hybrid). Mae'r canllawiau hyn wedi'u hailwampio a'u hehangu i roi mwy o fanylion am gamau syml i reoli iechyd a diogelwch gweithwyr cartref. Mae...
“Ar ddiwedd mis Rhagfyr cyhoeddais ddatganiadau am y £120m o gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae Omicron yn effeithio arnynt, gallaf gadarnhau yn awr y bydd y cyllid hefyd ar gael i fusnesau sydd newydd eu sefydlu yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cefnogi'r rhai a ddechreuodd fusnes newydd yn ystod misoedd yr haf. Bydd y cyllid yn cynnig achubiaeth bosibl i'r rhai sydd...
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bobl barhau i gymryd camau i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru rhag y don o achosion Omicron. Mae wedi cadarnhau y bydd mesurau lefel rhybudd 2 yn aros yn eu lle yng Nghymru yn dilyn canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau. Mae achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn i'w lefelau uchaf erioed wrth i'r don Omicron gynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod ar ôl y...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cyfraddau statudol arfaethedig ar gyfer tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu, tâl profedigaeth rhiant a thâl salwch o fis Ebrill 2022. Mae'r cyfraddau fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ac yn digwydd ar y Sul cyntaf ym mis Ebrill, sef 3 Ebrill yn 2022. Mae cyfraddau’r isafswm cyflog cenedlaethol a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2022...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad 5 Ionawr 2022. “Mae capasiti Cymru o ran profion COVID-19 wedi cynyddu’n sylweddol yn labordai GIG Cymru ac fel rhan o raglen brofi’r DU, sef y rhaglen fwyaf yn Ewrop gyda bron i 400 miliwn o brofion PCR wedi’u cynnal ers dechrau’r pandemig. Wrth i’r don omicron ledu ar draws y wlad, mae’r galw am brofion PCR wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed ar draws...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad 5 Ionawr 2022. “Yn sgil y risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd omicron, sydd wedi dod i’r amlwg yn gyflym yn ddiweddar, rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol. Ychydig wythnosau yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu...
Mae'r Swyddfa Gartref a DEFRA wedi cyhoeddi y bydd llwybr fisa'r Gweithiwr Tymhorol yn cael ei ymestyn tan ddiwedd 2024, sy'n caniatáu i weithwyr tramor ddod i'r DU am hyd at chwe mis i weithio yn y sector garddwriaeth. Bydd 30,000 o fisâu ar gael yn 2022, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus gyda'r potensial i gynyddu gan 10,000 os bydd angen. Bydd nifer y fisâu yn dechrau lleihau o 2023. Am ragor...
Mae'r Farm Shop and Deli Retailer Awards, nad oes angen talu i gystadlu ynddyn nhw, yn wobrau uchel eu parch yn y diwydiant am chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi a dathlu marchnad fanwerthu arbenigol annibynnol y DU. Yn 2022, bydd y Gwobrau'n cydnabod manwerthwyr arbenigol sy'n helpu i greu byd gwell drwy fentrau cynaliadwy law yn llaw â chefnogi eu cwsmeriaid, eu cymunedau a'u cyflenwyr. Os ydych chi'n fanwerthwr annibynnol sy'n gwerthu...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y gall gweithwyr yn y DU hunanardystio absenoldeb oherwydd salwch am 28 diwrnod yn lle saith. Daeth y newid i rym ar 17 Rhagfyr 2021 ac mae'n berthnasol i absenoldebau sy'n dechrau ar 10 Rhagfyr 2021 neu ar ôl hynny, hyd at ac yn cynnwys absenoldebau sy'n dechrau ar neu cyn 26 Ionawr 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i Statutory Sick Pay: employee fitness to work - GOV.UK...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.