Archives

281 canlyniadau

Wylfa Power Station
Mae’r newyddion am fuddsoddiad enfawr mewn adweithyddion niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gogledd Cymru yn “fuddugoliaeth ddwbl i Gymru” yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan. Dywedodd y Prif Weinidog fod y ddau ddatblygiad yn ddatganiadau pwysig am ddyfodol economi Gogledd Cymru, ac yn dystiolaeth o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio’n agos i gyflawni buddsoddiad fydd yn creu effaith am genedlaethau. I gael...
Bluestone Park - children's play area
Yn dilyn ymgysylltiad cryf â’r sector a diddordeb mawr yn ein cronfa addasu i’r tywydd Blwyddyn Croeso, rydym yn lansio cam olaf sef y trydydd cam, i gefnogi busnesau twristiaeth canolig eu maint (50–250 o weithwyr). Mae’r rownd ddiweddaraf hon yn sicrhau bod busnesau o bob maint yn y diwydiant yn cael cyfle i wella eu cynnig. Mae grantiau rhwng £5,000 a £20,000 ar gael i gefnogi'r gwaith o osod mesurau sy’n gwarchod rhag y...
technology conference
Paratowch ar gyfer siaradwyr ardderchog, arddangosiadau technoleg ymarferol, arddangosfeydd deinamig, cyfarfodydd bwrdd crwn, a llawer mwy yn ystod Wythnos Tech Cymru 2025. Cynhelir Wythnos Tech Cymru 2025 rhwng 24 a 26 Tachwedd 2025 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd, ac mae'n cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd a chyfle ar gyfer technolegau galluogi a rhai sy'n dod i'r amlwg, a'u defnydd ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw. Mae'n amlygu rôl hanfodol...
Anglesey-based BIC Innovation became fully employee owned via an Employee Ownership Trust (EOT)
Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru wedi cyrraedd 100 – sy'n cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r model perchnogaeth gan weithwyr a'r manteision y mae'n ei ddarparu i'r economi a chymunedau ledled Cymru. Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru lawer yn uwch bellach na'r nifer yr ymrwymwyd iddo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu'r nifer yng Nghymru a chyrraedd 74 erbyn 2026. Mae gwasanaeth Busnes Cymru a Busnes...
Fliw Adar
Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o ddydd Iau 13 Tachwedd 2025 yn sgil cyflwyno mesurau i leihau'r risg o ledaenu ffliw adar. Mae Cymru'n wynebu bygythiad sylweddol uchel oherwydd nifer cynyddol o achosion o ffliw'r adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr. Mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt...
Female Entrepreneur
Cynhelir Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod ar 19 Tachwedd 2025. Mae Sefydliad Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod yn fudiad cymdeithasol sydd â’r nod o gefnogi ac ehangu entrepreneuriaeth ymhlith menywod y byd, yn ogystal â chreu tîm o arweinwyr ym mhob gwlad i ddatblygu sgiliau arwain allweddol. Y digwyddiad hwn yw dathliad mwyaf y byd ar gyfer menywod sy’n arloesi ac yn creu swyddi wrth lansio busnesau newydd, gan ddod â syniadau yn fyw, sbarduno twf economaidd, ac ehangu...
verification - laptop and digital symbol person
Gan ddechrau ar 18 Tachwedd 2025, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cyfarwyddwr cwmni a phobl â rheolaeth sylweddol (PSC) wirio eu hunaniaeth o dan Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023. Mae pryd y bydd arnoch angen gwirio eich hunaniaeth yn dibynnu ar eich swydd a phryd y gwnaethoch chi ddechrau'r swydd honno: Cyfarwyddwyr – Bydd angen ichi roi eich cod personol Tŷ'r Cwmnïau fel rhan o ddatganiad cadarnhau nesaf eich...
entrepreneurs
Mae’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yn gasgliad o ddegau o filoedd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chystadlaethau bob mis Tachwedd sy’n ysbrydoli miliynau i archwilio eu potensial fel entrepreneur a meithrin cysylltiadau â buddsoddwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac eraill sy’n hyrwyddo cychwyn busnes. Eleni cynhelir y digwyddiad rhwng 17 Tachwedd a 23 Tachwedd 2025. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Global Entrepreneurship Week | Global Entrepreneurship Network (genglobal.org) Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang | Busnes Cymru (gov.wales) Os...
stressed business person looking at a mobile phone
Mae ymgyrch Stop! Think Fraud yn helpu unigolion a busnesau bach i ddiogelu eu hunain rhag twyll. Trwy gymryd eiliad i stopio, meddwl a gwirio pan fyddwch chi'n derbyn neu'n gweld cyfathrebiadau amheus, neu ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrifon ar-lein gyda gwirhad dau gam, gallwch helpu i ddiogelu eich hun. Mae'r ymgyrch yn cynnwys adran benodol i helpu pobl i ddiogelu eu busnes rhag twyll, gan gynnwys: cyngor seiberddiogelwch ar gyfer sefydliadau bach...
Office Christmas Party
Gall aflonyddu rhywiol yn y gwaith ddigwydd ar unrhyw adeg. Gall y risg fod yn uwch yn ystod tymor yr ŵyl, gyda phartïon Nadolig y gweithle yn golygu bod staff yn cymdeithasu y tu allan i'r gwaith yn y nos, gan yfed alcohol ar yr un pryd yn aml. Mae dyletswydd ataliol Deddf Diogelu Gweithwyr 2023 yn golygu bod yn rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu staff rhag cael eu haflonyddu'n rhywiol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.