Archives

2461 canlyniadau

Bydd ail Gynhadledd flynyddol Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) De Cymru, yn benodol ar gyfer busnesau bach yn y rhanbarth, yn helpu perchnogion a rheolwyr i ddeall sut y gallant dyfu eu busnesau. Bydd y gynhadledd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd i ganolbwyntio ar sut y gall busnesau bach gyflymu eu twf mewn ffordd barhaus a chynaliadwy. Bydd sesiynau amrywiol drwy'r dydd yn helpu busnesau i ddeall: Sut y gallant amlygu opsiynau strategol...
Mae CIPD wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ymarferol i gyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r argyfwng costau byw. Yn erbyn cefndir o brisiau cynyddol am fwyd, ynni a nwyddau a gwasanaethau hanfodol eraill, mae llawer o gyflogwyr yn y DU yn gofyn beth y gallant ei wneud i gefnogi lles ariannol eu pobl. Y newyddion da yw, hyd yn oed os na allwch fforddio cynnig codiadau cyflog sy'n curo chwyddiant, mae llawer y gallwch ei...
Mae cronfa newydd gwerth £5 miliwn wedi agor heddiw ar gyfer prosiectau a fydd yn darparu triniaethau gofal iechyd arloesol i gyn-filwyr. Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau sy'n ceisio ymchwilio i a threialu technoleg arloesol a allai helpu cyn-filwyr ag anghenion gofal iechyd cymhleth. Weithiau, bydd cyn-filwyr yn wynebu problemau iechyd unigryw o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol a bydd y Gronfa Arloesi Iechyd Cyn-filwyr yn sbarduno arloesedd mewn technegau a fydd yn y pen...
Mae'r Rhaglen Innovation Exchange yn gweithio ochr yn ochr ag Oxford Innovation Advice a’r UK National Innovation Centre for Ageing (NICA) i ddod o hyd i gwmnïau arloesol sydd ag uchelgais i dyfu eu busnes. Mae'r gystadleuaeth yn chwilio am arloeswyr gyda syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd a all gefnogi pobl i gadw'n iach ac yn egnïol i'n helpu i barhau i fod yn symudol a chysylltiedig wrth i ni heneiddio. Y farchnad...
Bydd busnesau a gweithwyr, yn enwedig y rheiny yn yr economi gig, yn elwa ar fwy o eglurder ynghylch eu statws cyflogaeth, diolch i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU. Mae gan bobl sydd â statws cyflogaeth gwahanol hawliau gwahanol wedi'u nodi’n gyfreithiol. Nod yr hawliau yw amddiffyn unigolion. Mae'r rhan fwyaf o'r hawliau yn orfodol, ac fel arfer does dim modd eu dileu. Mae’r canllawiau manwl yn ategu canllawiau statws cyflogaeth GOV.UK...
Yn y sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru y llynedd, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI ac AdventureSmart UK ynghylch sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i gadw'n fwy diogel yn yr awyr agored. Mae adnoddau o'r weminar hon yn dal i fod ar gael ar Arhoswch yn Fwy Diogel yn yr Awyr Agored | Busnes Cymru (gov.wales) Gyda milltiroedd o arfordir, afonydd a llynnoedd trawiadol i'w harchwilio yng Nghymru, mae'r...
Bydd cynllun cymorth hanfodol sy'n cynnig benthyciadau a gefnogir gan lywodraeth y DU i fusnesau bach yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall. Mae'r Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS), a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2021 i helpu busnesau sy'n adfer o bandemig Covid-19, wedi cefnogi bron i 19,000 o fusnesau, gyda chefnogaeth gwerth £202,000 ar gyfartaledd. Mae’r benthyciad mwyaf y gellir ei gael yn parhau i fod hyd at £2 miliwn. Fodd bynnag...
Mae BSI yn gweithio gyda BEIS a'r ymgyrch Ras i Sero i gyflenwi 100,000 o gopïau am ddim o BS ISO 50005, gan sicrhau ni waeth beth yw maint sefydliad, gall pawb gymryd y cam cyntaf i ddyfodol Sero Net. Mae safon ISO 50005 yn darparu modd i BBaChau ddatblygu dull ymarferol, cost isel o reoli ynni i leihau'r defnydd o ynni, biliau ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae defnyddio dull graddol yn galluogi...
Mae Gwobr yr UE i Arloeswyr Benywaidd yn dathlu'r entrepreneuriaid benywaidd y tu ôl i arloesiadau trawsnewidiol. Trwy wneud hynny, mae'r UE yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o arloeswyr benywaidd a chreu modelau rôl ar gyfer menywod a merched ym mhob man. Dyfernir y wobr i'r entrepreneuriaid benywaidd mwyaf talentog o bob rhan o'r UE a gwledydd sy'n gysylltiedig â Horizon Europe, sydd wedi sefydlu cwmni llwyddiannus ac wedi cyflwyno arloesedd i'r...
Mae CThEM yn anfon llythyr at fasnachwyr ynghylch gweithredu nawr i symud i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn gwneud eich datganiadau eich hun neu os bydd rhywun yn cyflwyno datganiadau mewnforio ac allforio ar eich rhan. Efallai na fyddwch yn gallu parhau i fasnachu os na fyddwch yn symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau mewn pryd. Ar ôl 30 Medi 2022, bydd y system Tollau Tramor ar Gludo Nwyddau Mewnforio ac...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.