Archives
2431 canlyniadau
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eich barn ar y strategaeth arloesi ddrafft i Gymru. Bydd yn cydnabod y rôl bwysig y mae arloesi yn ei chwarae ar gyfer: llywodraeth busnesau y trydydd sector sefydliadau academaidd ac ymchwil Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Medi 2022. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Strategaeth arloesi i Gymru | LLYW.CYMRU
Mae Syniadau Mawr Cymru ar daith! Os ydych chi'n 25 neu'n iau ac yn wynebu rhwystrau sy'n eich atal rhag cychwyn busnes, yn chwilio am gyfle newydd, neu os oes gennych chi syniad busnes gwych, yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu. Os oes gennych chi syniad busnes yn barod neu os ydych chi’n chwilfrydig am fyd hunangyflogaeth, yna mae’r digwyddiad hwn yn addas i chi. Mewn lleoliad yn lleol i chi, byddwch yn clywed gan...
Gosod y safonau galwedigaethol cenedlaethol cyntaf ar gyfer hydrogen i bennu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd. Yn dilyn cais llwyddiannus am gontract, bydd Cogent Skills yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cyntaf y DU ar gyfer cynhyrchu, storio a chludo hydrogen. Mae cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer sector hydrogen ffyniannus yn debygol o ddatgloi buddsoddiad o £4 biliwn erbyn 2030 1 yn ogystal â chefnogi miloedd o swyddi gwyrdd o ansawdd...
Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Mae'r Bil yn cynnig gwahardd neu gyfyngu ar werthiant rhai o'r plastigau untro a deflir fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae'r Bil drafft i'w weld drwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/bil-diogelur-amgylchedd-cynhyrchion-plastig-untro-cy…. Nod cyhoeddi y Bil drafft heddiw (15 Awst 2022) yw rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref. Nid yw'n cael ei...
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi annog sefydliadau'r DU i baratoi am gyfnod estynedig o fygythiad dwysach mewn perthynas â rhyfel Rwsia-Wcráin. Beth yw cyfnod estynedig o fygythiad dwysach? Gall fod cyfnodau pan fydd y bygythiad seibr yn dwysau am gyfnod estynedig, er enghraifft o ganlyniad i densiynau geowleidyddol. Yn ystod y cyfnodau hyn, bydd sefydliadau'n profi: cyfnod acíwt cychwynnol (pan fydd gofyn iddynt gryfhau eu hamddiffynfeydd a mynd i'r afael â gwendidau), ac yna...
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau micro, bach a chanolig eu maint (BBaCh). Mae benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr hynod arloesol sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylai fod llwybr clir at fasnacheiddio ac effaith economaidd. Rhaid i'ch prosiect arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sy’n sylweddol o flaen eraill sydd ar gael ar hyn o bryd neu'n cynnig defnydd arloesol...
Wrth i ni ddechrau cyfri y 100 diwrnod (o 13 Awst 2022) i lawr tan gêm gyntaf Cwpan y Byd Cymru mewn 64 o flynyddoedd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cronfa gwerth £1.5 miliwn i hyrwyddo a dathlu Cymru. Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiol sefydliadau o ddiwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd. Gallai hyn gynnwys gweithgaredd i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang...
Wrth baratoi am y tymor ysgol newydd, bydd nifer o deuluoedd yn poeni am y cynnydd yng nghostau byw. Mae cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru sydd o bosibl yn cael trafferth fforddio costau ysgol, fel gwisg ysgol a chludiant, yn ogystal â rhai cynlluniau am ddim i helpu'ch plentyn i ddysgu. Dyma wyth cynllun neu gymhorthdal addysg y gallech fod yn gymwys i'w cael. Cymorth gyda chostau diwrnod ysgol Lwfans Cynhaliaeth...
Mae cytundeb masnach rydd y Deyrnas Unedig gydag Awstralia yn dileu tariffau ar yr holl allforion o’r Deyrnas Unedig a disgwylir iddo gynyddu masnach ddwyochrog 53%, gan roi hwb o £2.3bn i economi’r Deyrnas Unedig (ffynhonnell: yr Adran Masnach Ryngwladol). Fodd bynnag, oherwydd bod pellter o ychydig yn llai na 9,500 o filltiroedd rhwng y ddwy farchnad, bydd allforio nwyddau Prydeinig i Awstralia yn ymgymeriad heriol o hyd. Mae’r Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol yn...
Mae Step to Non Exec yn rhaglen ddatblygu 12 mis sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu chi i fagu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn eich galluogi i gyflawni eich swydd bwrdd cyntaf. Drwy'r rhaglen hon, byddwch yn gallu cysgodi bwrdd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a chael mynediad at fentor o'r bwrdd a fydd yn gallu eich helpu i osod nodau cyraeddadwy clir yn eich taith i fod yn aelod swyddogol o'r bwrdd...
Pagination
- Previous page
- Page 243
- Next page