Archives

251 canlyniadau

Houses of Parliament London
Heddiw, mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cyflwyno ei datganiad Cyllideb yr Hydref, gan amlinellu cynlluniau ar gyfer newidiadau treth, blaenoriaethau buddsoddi, benthyca a chynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn i ddod. Nodir rhai pwyntiau allweddol isod: Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu o £12.21 i £12.71 yr awr o fis Ebrill 2026. Bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 18 i 20 oed yn codi o £10.00 i £10.85 yr awr. Bydd...
AI and human hand
Bydd y Parth AI ar gyfer De Cymru yn cynnwys safleoedd ar hyd coridor yr M4 o Gasnewydd i Ben-y-bont ar Ogwr. Bydd buddsoddiad o £10 biliwn yn arwain at o leiaf 5,000 o swyddi newydd dros y degawd nesaf, o swyddi adeiladu i yrfaoedd mewn ymchwil a datblygu AI. Bydd yr ardal hefyd yn derbyn hyd at £5 miliwn mewn cymorth gan Lywodraeth y DU i hybu busnesau i fabwysiadu ac i ddatblygu sgiliau...
Monmouth floods
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol pellach i fusnesau yn Sir Fynwy yr effeithiodd Storm Claudia arnynt, gyda grantiau o hyd at £3,000 bellach ar gael. Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ryddhau i Gyngor Sir Fynwy i helpu busnesau yr effeithiodd llifogydd arnynt i adfer ac ailadeiladu yn dilyn y dinistr diweddar. Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at y £2.5 miliwn a mwy sydd eisoes ar gael gan Lywodraeth Cymru yn dilyn...
Cadw stonemason
Mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, yn chwilio am dri saer maen i’w hyfforddi ac i ymuno â’r tîm o seiri maen proffesiynol. Gyda thua thraean adeiladau Cymru wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau traddodiadol, carreg, brics neu fframiau pren cyn 1919, ni fu erioed cymaint o alw am seiri maen crefftus a chadwraethwyr proffesiynol. Mae'r adeiladau hyn yn llawn cymeriad ac yn creu naws trefi a strydoedd ledled Cymru, ond mae'n frwydr gynyddol cael hyd...
Jobs
Mae Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, wedi cadarnhau bod sicrhau rhagor o swyddi’n parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog i Lywodraeth bresennol Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hwn, mae ein gweithgareddau a'n buddsoddiadau wedi creu neu ddiogelu bron i 46,000 o swyddi. Drwy Fusnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Cymru Greadigol, Cyswllt Ffermio, Croeso Cymru, a chymorth ehangach gan gynnwys ein rhaglen allforio helaeth, mae ein gwaith arloesi...
 Dirprwy Brif Weinidog -  Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies
Bydd y cyllid dangosol gwerth £3 miliwn ar gael i bob ffermwr cymwys sydd â thir organig ardystiedig. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymorth organig yn seiliedig ar gyfuniad o amcanion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Caiff ffermio organig ei ystyried yn gonglfaen amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru, gan sicrhau manteision i fioamrywiaeth, hinsawdd, economïau gwledig ac iechyd y cyhoedd. Nod y cymorth gan y llywodraeth yw sicrhau bod ffermio organig yn parhau i fod yn hyfyw...
Warehouse worker wearing a Christmas hat
Mae rhai cyflogwyr yn talu eu cyflogeion yn gynharach na’r arfer dros gyfnod y Nadolig. Gall hyn fod am nifer o resymau; er enghraifft, yn ystod cyfnod y Nadolig, gallai’r busnes gau, sy’n golygu bod angen talu gweithwyr yn gynharach na’r arfer. Os ydych chi yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, rhowch wybod beth yw eich diwrnod cyflog arferol neu gontractiol fel y dyddiad talu ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS), a sicrhau bod...
Manufacturing business - AI technology
Arloesedd Made Smarter: Mae Cystadlaethau Effeithlonrwydd Adnoddau ac Ynni BBaCh bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae hwn yn gyfle unigryw i dechnolegwyr digidol diwydiannol a sefydliadau gweithgynhyrchu yn y DU sicrhau cyllid grant ar gyfer prosiectau sy'n ysgogi effeithlonrwydd adnoddau ac ynni drwy arloesi digidol. Mae hyd at £15.5 miliwn o gyllid grant ar gael ar draws dau faes: Astudiaethau dichonoldeb (£25,000 i £150,000). Ymchwil ddiwydiannol (£200,000 i £1,000,000). Mae grantiau yn talu hyd...
Jeans and recycling symbol
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics i ymchwilio i ba fentrau datgarboneiddio sy’n cael eu cynnal ar hyn o brydgan fanwerthwyr bach, neu gan fanwerthwyr mawr y gellid eu gweithredu gan fanwerthwyr bach, yng Nghymru. Er enghraifft, byddai mentrau fel siopau sy’n derbyn jîns dieisiau i’w hailgylchu, gosod systemau oeri sy’n arbed ynni, neu leihau allyriadau danfon i gyd yn enghreifftiau perthnasol. Bydd allbynnau’r gwaith yn llywio a chefnogi gwaith polisi i hyrwyddo mentrau...
Pile of coins and Welsh flag
Wrth i fwy na 300 o uwch arweinwyr diwydiant a busnes baratoi i ymgynnull yng Nghasnewydd i archwilio cyfleoedd buddsoddi cyffrous ledled Cymru, datgelwyd bod y wlad wedi denu £4.6 biliwn o fewnfuddsoddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru, sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) ddydd Llun 1 Rhagfyr, yn denu buddsoddwyr byd-eang o 27 o wledydd i brofi arloesedd sy'n arwain y byd mewn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.