Archives
2171 canlyniadau
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru heddiw wedi ymweld ag undebau credyd ledled Cymru wrth iddynt gyhoeddi cyllid estynedig gwerth ychydig dros £422,000 y flwyddyn i sefydliadau sy’n cynnig cymorth hanfodol i’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol. Mae undebau credyd yn sefydliadau nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau, yn hytrach na rhanddeiliaid allanol neu fuddsoddwyr. Mae undebau credyd yn ymwneud â chymunedau ar hyd a lled y wlad ac yn cyfrannu at yr...
Mae syrcas gyfoes fyd-enwog yn dod i Abertawe a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 2023, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf, dan arweiniad y syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol, NoFit State Circus, mewn partneriaeth â chwmnïau ac artistiaid syrcas blaenllaw, a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn Aberystwyth yn derbyn cyllid gan Digwyddiadau Cymru ar gyfer...
Cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) y bydd gan allforwyr fwy o amser i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Yn dilyn ymgynghoriad â'r diwydiant ar y ffiniau, bydd gan allforwyr hyd at 30 Tachwedd 2023 i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), 8 mis yn ddiweddarach na'r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ar ôl 30 Tachwedd 2023, bydd angen i fusnesau ddefnyddio CDS i wneud datganiadau allforio ar gyfer nwyddau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi estyniad chwe mis ar rewi’r dreth alcohol hyd at 1 Awst 2023. Roedd disgwyl i rewi’r dreth alcohol presennol ddod i ben ar 1 Chwefror 2023. Yng Nghyllideb yr Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y diwygiadau mwyaf i'r dreth alcohol ers 140 mlynedd. Mae’r newidiadau’n ailwampio rheolau'r DU ar ôl gadael yr UE er mwyn rhoi mwy o amser i ddiwydiant baratoi ar gyfer y diwygiadau a fydd...
Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'ch gweithle. Mae cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd o bob maint yn: herio agweddau tuag at anabledd cynyddu dealltwriaeth o anabledd dileu rhwystrau i bobl anabl a'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau P'un a yw gweithiwr wedi...
Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio...
Waeth a ydych yn meddwl am gefnu ar eich car a chymudo mewn ffordd iachach, fwy costeffeithiol, mynd am dro ar y penwythnos neu gynllunio taith feicio gyda ffrindiau a theulu, mae'n debyg y bydd cyfle yn agos, gyda dros 2,000km o lwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel eisoes ar gael ledled Cymru. Yn dilyn misoedd o ymgynghori cyhoeddus a chan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi eu Mapiau Rhwydwaith...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi egwyddorion ac arweiniad newydd i gefnogi busnesau i greu agwedd gynhwysol tuag at iechyd yn y gweithle. Gall cyflogwyr ddefnyddio'r egwyddorion syml i greu diwylliant galluogol yn y gweithle, lle mae gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ffynnu. Gall eu Talking Toolkit helpu strwythuro sgyrsiau gyda gweithwyr a recriwtiaid posibl. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a...
Pagination
- Previous page
- Page 217
- Next page