Archives
2141 canlyniadau
Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022, a gynhelir ar 5 Mehefin 2022, yw'r diwrnod rhyngwladol mwyaf i'r amgylchedd. Dan arweiniad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ( UNEP), ac wedi cael ei gynnal yn flynyddol ers 1974, mae wedi tyfu i fod y llwyfan byd-eang mwyaf ar gyfer allgymorth amgylcheddol. Mae'n cael ei ddathlu gan filiynau o bobl ledled y byd. #OnlyOneEarth yw slogan ymgyrch Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022 ac mae’n galw am gydweithredu trawsnewidiol ar...
Mae gan y busnesau hynny sy’n sicrhau twf uchel a chynaliadwyedd hirdymor dri chynhwysyn allweddol: Gweledigaeth glir, strategaeth a chynllun Diwylliant cwsmeriaid sy’n asio gyda’r farchnad Prosesau a systemau disgybledig Cnoi cil: Mae’n hanfodol eich bod yn glir ynghylch yr hyn rydych chi am ei gyflawni – yr eglurder hwn sy’n sbarduno tîm llwyddiannus. Mae’n rhaid crisialu’r cynllun mewn cyfres o weithgareddau bach sy’n sbarduno camau a all greu momentwm. Mae llwyddiant yn dibynnu ar...


Fel rhan o ymgysylltu rhanbarthol y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) ymunwch â ni am ddiwrnod i drafod dyfodol awyrofod yng Nghymru. Mae’r Sefydliad Technoleg Awyrofod yn cydweithio â phartneriaid yng Nghymru er mwyn cynnig cyfle i gwmnïau ymgysylltu’n uniongyrchol â thîm ATI a dysgu mwy am strategaethau’r DU ar gyfer technoleg a phortffolio, casgliadau prosiect FlyZero a chyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Bydd cyfle i’r mynychwyr hefyd drefnu cyfarfod anffurfiol gydag ATI yn...
Mae llywodraeth y DU wedi lansio gwefan newydd i'ch helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ar gael i chi i'ch helpu gyda chostau byw. Dysgwch fwy am: Ategu eich incwm Help gyda’ch biliau Help gyda chostau gofal plant Cymorth tai Help gyda chostau teithio Help i ddod o hyd i waith I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Cost of Living Support – Get government support to help with the cost of living...
Bydd cynlluniau band eang ledled Cymru yn derbyn gwerth dros £9 miliwn o gyllid i'w helpu i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gymunedau sydd ei angen, diolch i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru. Mae'r gronfa, a sefydlwyd i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cysylltedd yn eu cymunedau, eisoes wedi helpu nifer o brosiectau ledled Cymru, ac mae pedwar prosiect arall bellach yn derbyn cyllid. Bydd...
Bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK KTN, yn cynnal gweminar friffio am gystadleuaeth ar-lein ar 8 Mehefin 2022 i rannu manylion am ffenestr cystadleuaeth am gyllid Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) newydd Cam 2: Haf 2022. I gael mwy o wybodaeth a chadw lle, ewch i Cofrestru – Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2 Haf 2022 (cvent.com) Mae ffenestr gystadleuaeth newydd Cam 2 ar gyfer Lloegr...
Bydd yr ap newydd ‘Craffwch Cyn Cysylltu’ (‘Think Before you Link’) yn helpu busnesau a’r cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag ysbïwriaeth bosibl. Mae ap arloesol wedi cael ei lansio sy’n caniatáu i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhwydweithio proffesiynol allu adnabod arwyddion proffiliau ffug a ddefnyddir gan ysbiwyr tramor a gweithredwyr maleisus eraill yn well, a chymryd camau i adrodd amdanynt a’u dileu. Mae’r ap newydd yn rhan o ymgyrch ‘Craffwch Cyn Cysylltu’ y...
Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, wedi cydweithio i gynnig cyfle unigryw i fusnesau yng Nghymru i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd. Nod y rhaglen yw cyflwyno gwelliannau mesuradwy o ran cynhyrchiant, drwy rannu a darparu hyfforddiant mewn egwyddorion rheoli darbodus. Bydd ymarferwyr Toyota profiadol yn darparu cymysgedd o'r canlynol i’r rhai sy’n cymryd rhan: Theori ystafell ddosbarth. Arsylwi manwl ar lawr y siop. Enghreifftiau o ddefnydd ymarferol wedi'u cyflwyno yng...
Pagination
- Previous page
- Page 214
- Next page