Archives
2051 canlyniadau
Mae’r ymgyrch ar draws y diwydiant #CaruCymruCaruBlas -#LoveWalesLoveTaste yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth 2023! Hwn fydd yr ymgyrch mwyaf erioed i annog siopwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr i ddathlu bwyd a diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol. Fel yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd pecyn cymorth digidol newydd ar gael i chi ei ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch. Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru, bydd eich cwsmeriaid...
Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swyddi newydd yn economi sero net yfory. Heddiw (28 Chwefror 2023), cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gynllun Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach: Sgiliau Sero Net. Mae’r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau wrth gefnogi ein heriau sero net, drwy roi’r sgiliau cywir i’n gweithlu presennol ac i weithwyr y dyfodol. Wrth lansio’r...
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiect traws-sector uchelgeisiol, mewn partneriaeth â Fforwm Modurol Cymru, i amlygu a mapio'r cwmnïau hynny yng Nghymru sy’n gweithredu, neu a allai weithredu, yn y farchnad Symudedd Allyriadau Sero Net newydd. Efallai bod eich cwmni eisoes yn cyflenwi'r farchnad symudedd sero net, boed hynny’n Foduron, Trenau, Morol, Awyrofod ac ati, neu’n meddu ar y gallu, yr hyblygrwydd, a’r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi...
Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus, dyna'r genhadaeth sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru: Strategaeth arloesi newydd yn nodi dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu datblygu er mwyn helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu...
Mae Innovate UK yn cynnig cyfran o hyd at £20 miliwn mewn grantiau i fusnesau bach a micro sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Yn ogystal â'r cymorth grant, cewch gynnig cymorth busnes teilwredig a gyflwynir gan Innovate UK EDGE. Nod y gystadleuaeth hon yw darparu pecyn o gefnogaeth dargedig i alluogi busnesau micro a bach uchelgeisiol sydd wedi’u cofrestru yn y DU mewn technolegau trawsnewidiol i gyrraedd eu potensial. Rhaid i'ch arloesedd arwain at...
Mae 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob blwyddyn gan aelwydydd yn y DU. Yn syfrdanol, mae 25% o'r bwyd hwn sy'n cael ei wastraffu yn digwydd oherwydd coginio, paratoi neu weini gormod - mae hyn yn costio £3.5 biliwn i aelwydydd y DU bob blwyddyn. Dyna pam y mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn neilltuo wythnos gyfan o weithredu i amlygu sut y gall ymddygiadau syml i leihau gwastraff bwyd...
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedr neu canolrif) dynion a menywod ar draws gweithlu. O 2017 ymlaen, os ydych chi'n gyflogwr sydd â 250 neu fwy o bobl ar eich 'dyddiad cipolwg' rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau ar adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’u seilio ar ddata cyflogres cyflogwyr a dynnwyd o ddyddiad penodol bob blwyddyn. Enw'r dyddiad penodol hwn...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynnig amrywiaeth eang o gyhoeddiadau sy'n cynnwys cyngor ac arweiniad i gyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol. Fel pob cyhoeddiad gan HSE, mae'r taflenni canllaw iechyd a diogelwch ar gael i'w lawrlwytho ar wefan HSE. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HSE Publications - free leaflets to download
Pagination
- Previous page
- Page 205
- Next page